Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Ceisio barn preswylwyr ynglŷn â gwella cyfraddau ailgylchu Castell-nedd Port Talbot

Mae preswylwyr Castell-nedd Port Talbot yn mynd i gael eu holi ynghylch cyfres o ddarpar fesurau posib allai helpu sicrhau fod y Cyngor yn gwneud yn well na tharged ailgylchu diweddaraf Llywodraeth Cymru, sef 70%.

Ceisio barn preswylwyr ynglŷn â gwella cyfraddau ailgylchu Castell-nedd Port Talbot

Gwnaed y penderfyniad i ymgynghori er mwyn gwella ailgylchu fel rhan o Gynllun Gweithredu Strategaeth Wastraff y cyngor a gymeradwywyd yn 2023.

Bydd aelodau Pwyllgor Craffu Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y cyngor yn derbyn cynigion drafft ar gyfer yr ymgynghoriad a diweddariad ar gynnydd o ran y Cynllun Gweithredu Strategaeth Wastraff yn eu cyfarfod ddydd Gwener 19 Ebrill 2024.

Nod gosod targedau ailgylchu cynyddol gan Lywodraeth Cymru yw er mwyn gwneud ein hamgylchedd yn wyrddach a glanach, ac mae Cymru ar hyn o bryd ymysg tair cenedl ailgylchu orau’r byd, a’r gorau ym Mhrydain o bell ffordd.

Os na chyflawnir targedau perfformiad ailgylchu Llywodraeth Cymru, gallai cynghorau wynebu dirwyon enfawr posib.

Ar hyn o bryd mae gan Gastell-nedd Port Talbot, gyda chymorth ein preswylwyr, gyfradd ailgylchu deilwng sy’n agos at 68%, er nad oes dim sicrwydd y gellir cyflawni’r nod o ailgylchu 70% o’n holl wastraff.

Dim ond cynyddu o ran pa mor heriol ydyn nhw fydd targedau Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni dim gwastraff erbyn 2050, felly rhaid ystyried gweithredu pellach er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu ledled y fwrdeistref sirol.

Yn ôl y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Wrth gymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Strategaeth Wastraff y llynedd, fe wnaethon ni hi’n glir y byddem ni’n ymgynghori gyda’n preswylwyr ar ystod o ddewisiadau sy’n agored i ni er mwyn cynyddu lefel ailgylchu ymhellach. Er enghraifft, byddai galluogi preswylwyr i gymysgu papur a chardfwrdd yn yr un cynhwysydd ailgylchu’n rhyddhau un cynhwysydd ar gyfer casglu eitemau trydanol bychan (e.e. peiriannau tostio, eillwyr, tegellau ac ati).

“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n clywed oddi wrth gynifer o breswylwyr â phosib er mwyn i ni allu cynllunio system gasglu ailgylchu sy’n gweithio i bobl.

“Mae cael mesurau i annog mwy o ailgylchu’n hanfodol, nid yn unig er mwyn i ni allu osgoi dirwyon niweidiol oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond hefyd er mwyn i ni allu cael mannau glanach, gwell i fyw ynddyn nhw, ac i Gymru barhau i fod yn un o’r cenhedloedd ailgylchu gorau ar y Ddaear.

‘Hoffem wybod hefyd beth yw barn pobl am gasglu gwastraff biniau duon / bagiau duon bob tair wythnos.”

Ochr yn ochr â chasglu biniau duon / bagiau duon bob tair wythnos, byddai casgliadau ar wahân o Gynhyrchion Hylendid Amsugnol (e.e. cewynnau) ar gael i bob eiddo, yn wahanol i’r ddarpariaeth rannol sy’n bodoli ar hyn o bryd. Ymhellach, pe cyflwynid tâl blynyddol bychan ar gyfer casgliadau Gwastraff Gwyrdd, gallen nhw fod yn wythnosol (e.e. £26 y flwyddyn / 50c yr wythnos ar gyfer hyd at chwe bag gwastraff gardd yr wythnos, neu £40 y flwyddyn / 77c yr wythnos ar gyfer hyd at 10 bag yr wythnos).

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Fe wnaethon ni hi’n glir wrth lunio ein strategaeth wastraff na fydden ni ddim yn newid amlder y casgliadau hyn heb ymgynghori ymhellach â’n cymunedau. Yn achos rhai aelwydydd, mae lefel yr ailgylchu’n golygu mai ychydig iawn sydd i’w gasglu o ran gwastraff biniau duon / bagiau duon, ond gwyddom nad dyma’r achos ymhobman.

“I fod yn glir, dyw cyflwyno casgliadau biniau duon / bagiau duon bob tair wythnos ddim yn ein cynlluniau ar gyfer 2024-25, ond hoffem wybod beth, ym marn pobl, fyddai’r effaith pe bai hwn yn ddewis y byddai angen i ni ei ystyried yn y dyfodol.”

Bydd y cynigion drafft ar gyfer gwella ailgylchu’n cael eu hystyried yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ddydd Gwener 19 Ebrill, gydag adroddiad i ddilyn. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud yn y cyfarfod hwn, am mai cyfarfod craffu ydyw, nid cyfarfod cabinet.

Dolen:

 

hannwch hyn ar: