Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar restr fer dwy wobr gwasanaeth cyhoeddus cenedlaethol
Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar restr fer dwy wobr gwasanaeth cyhoeddus cenedlaethol
Mae'r erthygl hon yn fwy na 23 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
21 Gorffennaf 2023
Gallai Cyngor Castell-nedd Port Talbot Council ennill dwy wobr gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) nodedig.
Mae’r cyngor yn un o blith chwe awdurdod lleol yn y DU a ddaeth i’r rhestr fer yng nghategori Menter Gweithlu Gorau yn sgil trawsnewid ei Adran TG yn Adran Gwasanaethau Digidol newydd sbon.
Bu’r newid yn elfen hanfodol wrth sicrhau’r gweithlu Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) newydd sydd angen i ateb anghenion preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr y fwrdeistref sirol.
Yn ôl Chris Owen, Prif Swyddog Digidol y cyngor, oedd yn gyfrifol am arwain y fenter: “Nid dim ond ymarfer ail-frandio arall mo hwn – mae wedi gofyn am newid sylfaenol i’n dull o weithio er mwyn datblygu proffesiwn DDaT newydd yn llwyddiannus ar draws recriwtio, cadw a datblygu yn y maes hynod gystadleuol ac arbenigol hwn.”
Mae’r cyngor ar y rhestr fer hefyd yn yr adran Tîm Gwasanaeth Gorau (Categori Rheoli Cyfleusterau a Gwasanaeth Glanhau Adeiladau) am ddarparu gwasanaeth glanhau o safon uchel wrth ymgyrraedd at ofyniad carbon sero net.
Dan y dull ‘gwyrdd a glân’, mae gwasanaeth glanhau’r cyngor wedi gweithredu sawl newid gan gynnwys defnyddio cemegau glanhau bioddiraddadwy, prynu cerbydau trydan a defnyddio peiriannau sugno a wnaed o hyd at 75% o ddeunyddiau a ailgylchwyd o ansawdd uchel, gyda motor effeithlonrwydd mawr i dorri ar gostau.
Meddai Rheolwr Gweithrediadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot Shirley Freeguard: “Mae gweithredu ar newid hinsawdd yn allweddol ar gyfer Strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor.
“Rydyn ni’n helpu i sicrhau fod y cyngor yn pontio i economi garbon isel, wrth ganolbwyntio ar barhau i ddarparu gwasanaeth glanhau o safon a gwell cyfleoedd swyddi mewn amgylchedd gweithio glanach, gwyrddach, ac ar yr un pryd yn hybu iechyd a llesiant staff.”
Wrth siarad am y Gwobrau, dywedodd Mo Baines, Prif Weithredwr APSE: "Ar draws llywodraeth leol, mae gennym fyddin o arwyr di-sôn-amdanynt sy’n mynd yr ail filltir i gyflawni ar gyfer eu cymunedau lleol. Mae arloesi ac ymrwymiad yn hanfodol i’w llwyddiant.
“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r cyfraniadau hynny at ddarparu rhagoriaeth ar y rheng flaen ac ymgyrraedd at gyflawni gwelliant parhaus wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Pob lwc i dimau’r cyngor sydd ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn, sy’n cydnabod y gorau oll mewn darpariaeth gwasanaethau llywodraeth leol – rhywbeth y mae’r cyngor yn ymgyrraedd at ei gyflenwi ar draws pob un o’i adrannau.”
Mae Gwobrau APSE, sy’n cael eu beirniadu gan banel o feirniaid arbenigol, yn benodol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen a ddarperir gan awdurdodau lleol yn y DU. Eleni, mae’r gwobrau’n cynnwys 21 categori, sy’n ymdrin â’r mwyafrif llethol o wasanaethau lleol.
Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghinio Blynyddol Elusennol Gwobrau APSE, er budd Parkinson’s UK, nos Iau 14 Medi 2023 yn atyniad ymwelwyr Titanic Belffast.