Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Enillwyr Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024

Nod Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2024 oedd cydnabod a gwobrwyo unigolion a grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdogaethau a chymunedau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn yr Orendy ym Mharc Gwledig Margam ar 24 Ebrill. Dan arweiniad Sean Holley, roedd hi’n noson emosiynol iawn a gefnogwyd gan y gymuned fusnes leol a gwesteion arbennig.

Hoffai’r Maer, y Cynghorydd Chris Williams ddiolch i’r prif noddwyr Tata Steel UK a Trade Centre Wales ynghyd â holl noddwyr gwobrau’r categorïau. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai’r digwyddiad wedi bodoli. Diolch i haelioni pawb a fynychodd, fe gododd ein raffl arian i ddwy elusen enwebedig lleol y Maer: Hosbis Tŷ Olwen a Chronfa Harry.

Diolch o galon hefyd i gôr anhygoel Valley Rock Voices a ganodd ar ddechrau’r noson dan arweiniad Cyfarwyddwr y Côr, Cerys Llewellyn-Bevan. Cafodd Cerys syrpreis yn ddiweddarach i ennill y Wobr Celfyddydau Perfformio ar ddiwedd y noson!

I weld lluniau o’r noson ysbrydoledig hon, ewch i’n sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Enillwyr ein gwobrau yw...

Gwobr Amgylchedd a Threftadaeth – gyda Zoar’s Ark: Terry Griffiths

Gwobr Cyfraniad i Elusen – gyda Celtic Leisure: Cian Evans

Gwobr Dewrder Eithriadol – gyda Runtech: Bethan Davies

Gwobr Cefnogi Addysg – gyda Phrifysgol Abertawe: Nicola Thomas

Gwobr Plentyn Dewrder – gyda The Trade Centre Wales: Ellie May Jeffreys

Gwobr Cymydog Da – gydag Associated British Ports: Luke Lavercombe

Seren Chwaraeon y Flwyddyn – gyda Pump Supplies: Sara Davies

Gwobr Iechyd a Llesiant – gyda Centregreat: Helen Davies

Hyrwyddwr Cymunedol – gyda Chanolfan Siopa Aberafan –: Grŵp Cymunedol Tai-bach

Gwirfoddolwr y Flwyddyn – gyda Tata Steel UK: David Jones

Gwobr y Celfyddydau Perfformio gyda Buffoon Media: Cerys Llewellyn-Bevan Cyflwynwyd

Gwobrau Cydnabyddiaeth Arbennig y Maer i Kathleen ‘Kay’ Clement, Archie Thomas, Gwenfron Picken a Kath Morris. Fe wnaeth y pedwar arbennig yma o Bort Talbot gyfraniadau eithriadol i’n gwlad yn ystod adeg dywyllaf yr Ail ryfel Byd. Ac fe ddathlodd y pedwar eu pen-blwyddi’n gant oed yn ddiweddar!

Gwobr Amgylchedd a Threftadaeth gyda Zoar’s Ark.

Enillydd: TERRY GRIFFITHS o Grŵp Amgylcheddol Bryncoch

Cyflwynwyd yr enwebiad ar ran holl Grŵp Amgylcheddol Bryncoch fel modd o gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad Terry dros flynyddoedd lawer.

Gwobr Cyfraniad i Elusen gyda Celtic Leisure.

Enillydd: CIAN EVANS

Pan oedd Cian ond yn ddwy flwydd oed, bu mewn damwain car ofnadwy, ac aeth Ambiwlans Awyr Cymru ag ef i Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Cododd Cian dros £1,200 y llynedd ar gyfer yr Ambiwlans Awyr fel modd o ddiolch iddyn nhw am achub ei fywyd.

Gwobr Dewrder Eithriadol gyda Runtech.

Enillydd: BETHAN DAVIES

Cafodd Bethan, a gafodd wybod pan oedd hi’n 16 fod ganddi salwch hirdymor fyddai’n troi’i bywyd ben i waered, ei henwebu gan ei mam. Er gwaethaf popeth a ddioddefodd hi, mae hi wedi llwyddo i basio’i Lefel A a dechrau ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe; mae Bethan bellach yn eiriolwr gwirfoddol ar gyfer rhaglen y Cenhedloedd Unedig, ac mae’n eiriol yn y Senedd dros blant a phobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i addysg y brif ffrwd

Gwobr Cefnogi Addysg gyda Phrifysgol Abertawe.

Enillydd: NICOLA THOMAS

Nicola yw’r Rheolwr Ariannu’r Gymuned yn Ysgol Cwm Brombil ym Margam.

Mae hi’n cynnal ystod o weithgareddau yn yr ysgol gan gynnwys banc bwyd, Apêl Nadolig blynyddol, boreau coffi cymunedol, clwb coginio i’r teulu a banc gwisg ysgol. Mae’r holl fentrau hyn yn helpu disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Gwobr Plentyn Dewrder gyda Trade Centre Wales.

Enillydd: Ellie May

Mae plant yn ein mysg sy’n wynebu caledi o ddechrau cyntaf eu bywydau ifanc. Mae Ellie May bellach yn chwech oed ac mae hi wedi wynebu llawer iawn o heriau. Ers ei bod hi’n dair oed, cafodd lawdriniaethau ar ei thafod, a therapi lleferydd parhaus. Yn hytrach na bod yn rhwystredig, mae hi wedi wynebu’r cyfan dan ei phwyll ac mae hi’n ferch fach fywiog gyda dyfodol llachar.

Gwobr Cymydog Da gydag Associated British Ports.

Enillydd: LUKE LAVERCOMBE

Mae Luke yn fyfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd a llynedd, penderfynodd ddechrau ymwneud â Forward4Fairyland – grŵp a ffurfiwyd gyda’r nod o gryfhau cymuned Fairyland yng Nghastell-nedd, a llesiant preswylwyr. Ar ôl prin ddeg mis, cytunodd ysgwyddo swydd ysgrifennydd y grŵp ac mae e wedi dod ag egni newydd i’r gymdeithas, ynghyd â llawer o syniadau a mentrau newydd.

Seren Chwaraeon y Flwyddyn gyda Pump Supplies

Limited. Enillydd: SARA DAVIES

Mae Sara’n aelod o ‘Ferry Flatliners’ a chafodd ei henwebu gan ei hyfforddwr, sy’n dweud ei bod hi’n esiampl ragorol i’r holl aelodau. Yn ei phedwerydd triathlon fis Medi diwethaf (a hithau’n 51 oed), cymhwysodd i gynrychioli Tîm GB yn Nhriathlon Sbrint Ewrop yn Vichy, Ffrainc. Mae hi hefyd wedi cymhwyso i gynrychioli Tîm GB ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd Aml-chwaraeon ym Mhortiwgal dros yr haf.

Gwobr Iechyd a Llesiant gyda Centregreat Limited.

Enillydd: HELEN DAVIES O THE SUNFLOWER LOUNGE, CASTELL-NEDD

Roedd y wobr hon yn agored i grwpiau neu unigolion lleol y mae’u gwaith, eu gweithredoedd neu’u hymgysylltiad yn helpu i hybu iechyd a llesiant. Helen yw sefydlydd The Sunflower Lounge, a leolir yn Stryd Charles, Castell-nedd. Mae The Sunflower Lounge yn wasanaeth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc sydd wedi profi tarfu emosiynol, cymdeithasol a chorfforol yn eu bywydau. Mae’n darparu amgylchedd croesawgar a diogel ble gall pobl ifanc gael mynediad i addysg a hyfforddiant yn ogystal â chefnogaeth o ran iechyd a llesiant.

Hyrwyddwr Cymunedol gyda Chanolfan Siopa Aberafan.

Enillwyr: GRŴP CYMUNEDOL TAI-BACH

Yn ei henwebiad ar gyfer y grŵp, dywedodd Margaret, sy’n byw’n lleol: “Maen nhw wedi ysgubo drwy Dai-bach! Maen nhw’n bobl wych sydd eisiau’r gorau i bawb. Nawr mae gennym ffeiriau haf bendigedig, digwyddiadau i blant a digwyddiadau i ni’r preswylwyr hŷn hefyd! Mae’r cyfan yn golygu fod pobl Tai-bach yn falch o ble maen nhw’n byw; faswn i ddim yn byw yn unman arall. Yn sydyn, rydyn ni’n gymuned go iawn!”

Gwirfoddolwr y Flwyddyn gyda Tata Steel UK.

Enillydd: DAVID JONES

Mae David wedi bod yn rhan enfawr o’r RNLI ym Mhort Talbot am 27 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae e wedi achub llawer o fywydau ar y môr. Mae’i swyddi gwirfoddoli yn yr orsaf wedi amrywio o fod yn fecanic yr orsaf i Brif Lywiwr. Enwebwyd David gan ei wraig, a ddywedodd wrthym sut mae’r teulu cyfan mor falch ohono ef a’i lwyddiannau. Gwyddom i sicrwydd fod y gymuned gyfan yn teimlo’r un peth.

Gwobr y Celfyddydau Perfformio gyda Buffoon Media.

Enillydd: CERYS LLEWELLYN-BEVAN

Dros y blynyddoedd diweddar, nid yn unig mae Cerys wedi sefydlu un o’r corau lleol mwyaf bywiog, ond mae’i hymdrechion codi arian elusennol yn syfrdanol!

Mae’i chôr, ‘Valley Rock Voices’, bellach wedi tyfu i gynnwys dros 200 o fenywod o bob math o gefndir. Yn ogystal â’r côr ei hun, ffurfiwyd grwpiau ‘ochrol’ cerdded a nofio, mae gweithgareddau cymdeithasol a chodi arian yn digwydd yn rheolaidd a ffurfiwyd sawl cyfeillgarwch cadarn iawn.

Dros nifer o flynyddoedd mae Cerys ei hunan wedi codi degau o filoedd o bunnoedd ar gyfer ystod o elusennau hefyd. Cymerodd ran mewn rasys triathlon, cerddodd y Camino de Santiago yn Sbaen, dilynodd Lwybr yr Inca ym Mheriw, dringodd i wersyll troed Everest ac yn ddiweddar cwblhaodd ei 10fed marathon!

Gwobrau Cydnabyddiaeth Arbennig y Maer

Cyflwynwyd i Kathleen ‘Kay’ Clement, Archie Thomas, Gwenfron Picken a Kath Morris. Fe wnaeth y pedwar arbennig yma o Bort Talbot gyfraniadau eithriadol i’n gwlad yn ystod adeg dywyllaf yr Ail ryfel Byd. Ac fe ddathlodd y pedwar eu pen-blwyddi’n gant oed yn ddiweddar!

  • Ymunodd Kathleen Clement, a elwir yn ‘Kay’, â Llu Awyr Cynorthwyol y Merched yn RAF Loughborough ac roedd hi’n beiriannydd cynnal a chadw gan weithio ar awyrennau Spitfires.
  • Ymunodd Archie Thomas â’r Llynges Frenhinol yn 1942 a gwelodd weithredu byw fel Comando Traeth y Llynges Frenhinol.
  • I gloi, braint fu gallu cyflwyno gwobrau i ddwy wraig a weithiodd fel datryswyr codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn swyddfeydd hollol gyfrinachol Bletchley Park. Ganwyd Gwenfron Picken a Kath Morris wythnos ar wahân yn 1924. Y peth anhygoel yw, er bod y ddwy’n dod o Bort Talbot – a’r ddwy’n gwasanaethu yn Bletchley Park – mai’r tro cyntaf iddyn nhw gwrdd oedd mewn dathliad ar y cyd ar gyfer eu pen-blwydd yn gant oed!