Y Maer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ethol maer newydd ar gyfer pob blwyddyn ddinesig.
Rôl y Maer yw bod yn llysgennad i’r ardal, gan gefnogi grwpiau cymunedol, gwirfoddol ac elusennol lleol trwy gydol y flwyddyn.
Y Maer ar gyfer 2023/24 yw’r Cynghorydd Chris Williams a’r Faeres yw Ms Debbie Rees.
Dirprwy Faer Castell-nedd Port Talbot yw'r Cynghorydd Matthew Crowley.
Elusennau’r Maer
Mae Cynghorydd Williams wedi dewis cefnogi dwy elusen yn ystod ei flwyddyn ddinesig - Harry's Fund a Ty Olwen Hospice.
Digwyddiadau
Yn ogystal â chyflawni llawer o ddyletswyddau dinesig yn ystod y flwyddyn, cadeirio cyfarfodydd y cyngor llawn a mynychu digwyddiadau blynyddol, mae’r Maer hefyd yn ymwneud â rhaglen o ddigwyddiadau sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r holl waith da sy’n cael ei wneud ar draws y fwrdeistref sirol a/neu godi arian am elusennau’r Maer.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ac elusennau’r Maer, gallwch ddilyn y Maer ar Facebook