Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyngor yn ennill Gwobr Arian fawreddog gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill Gwobr Arian yng Nghynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn – un o blith dim ond 17 cyflogwr mawr yng Nghymru i dderbyn y Wobr Arian eleni.

Cyngor yn ennill Gwobr Arian fawreddog gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae’r wobr bwysig yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos cefnogaeth weithredol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau i’w helpu.

I ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei hanfanteisio’n annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio.

Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau’n weithredol fod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at y gymuned amddiffyn a deall problemau a all effeithio ar filwyr wrth gefn, cyn-filwyr, gwirfoddolwyr o oedolion yn y llu cadetiaid, a chymheiriaid a phartneriaid pobl sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Mae 2023 yn nodi dengmlwyddiant y cynllun, ac aeth 10 mlynedd heibio hefyd ers i Gyngor Castell-nedd Port Talbot lofnodi Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog (yr ail-lofnodwyd fersiwn ddiwygiedig ohono hefyd).

Yn ôl yr Uwchfrigadydd Marc Overton, Pennaeth Cynorthwyol y Staff Amddiffyn (Wrth Gefn a Chadetiaid): “Hoffwn ddiolch i enillwyr gwobrau Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr eleni, a’u llongyfarch. Mae’r wobr Arian yn cydnabod ymdrechion rhagorol cyflogwyr ledled y DU a gynyddodd eu hymrwymiad o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog, a darparu buddion go iawn i Gymuned y Lluoedd Arfog.

“Dylai’r enillwyr fod yn falch o’r argraff sy’n newid bywydau, a’r cyfleoedd newydd, y maen nhw’n eu rhoi i’n milwyr wrth gefn, ein cyn-filwyr, a’u teuluoedd.”

Dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, bydd cyflogwyr yn cefnogi personél amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae gan y cynllun dair lefel, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau sy’n addo, yn dangos ac yn eiriol eu cefnogaeth i amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Meddai’r Cynghorydd Wyndham Griffiths, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Dwi wrth fy modd ein bod ni’n gallu cyhoeddi ein bod ni’n un o’r 17 cyflogwr a enillodd wobr Arian ERS 2023 yng Nghymru.

“Mae dynion a menywod dewr y lluoedd arfog yn haeddu pob cefnogaeth y gallwn ni ei roi iddyn nhw, a’u teuluoedd ymroddedig yr un modd. Mae’r cynllun hwn wedi bod ar waith ers deng mlynedd nawr, ac mae’n dangos ein bod ni’n gwneud ein gorau i helpu cymuned y Lluoedd arfog yn lleol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris James, sydd hefyd yn Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Dyma newyddion da fod ymrwymiad ein cyngor i gymuned y Lluoedd arfog wedi cael ei gydnabod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r cyngor yn deall yr aberth enfawr a wneir gan bersonél sy’n gwasanaethu, a’u teuluoedd, i gadw ein gwlad yn ddiogel a’r peth cywir i’w wneud yw eu cefnogi yn ystod eu cyfnod mewn lifrai, ac wedi hynny.”

Gŵyl y Lluoedd Arfog Cyngor Castell-nedd Port Talbot