Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cronfa Tlodi Bwyd 2023-24

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn cyfanswm o £152,332 gan Lywodraeth Cymru i daclo’r argyfwng tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

  • Sefydliadau elusennol neu wirfoddol, rhai sydd â nodau elusennol a sefydliadau nid-er-elw-preifat
  • Ni fydd asiantaethau statudol yn cael eu cyllido ar gyfer cyflawni gweithgareddau y mae arnynt rwymedigaeth gyfreithiol i’w cyllido, serch hynny, mae gweithgareddau anstatudol yn gymwys
  • Bydd ysgolion yn gymwys i ymgeisio ar gyfer gweithgareddau sy’n cefnogi atal neu leddfu tlodi bwyd.

Meini prawf cyllido

Cefnogi sefydliadau i ateb anghenion nifer gynyddol o bobl a chwsmeriaid sy’n wynebu tlodi bwyd, a chefnogi gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion gwreiddiol tlodi bwyd.

Dyma enghreifftiau o wariant sy’n gymwys, ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr:

  • prynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd a deunyddiau hanfodol;
  • ffioedd aelodaeth Fareshare;
  • prosiectau tyfu / coginio cymunedol â’r nod o daclo tlodi ac ansicrwydd bwyd.
  • costau ychwanegol a wariwyd o ganlyniad i gynnydd mewn galw;
  • costau a wariwyd o ganlyniad i waith allgyrraedd ychwanegol hanfodol, yn enwedig er mwyn cyrraedd at y bobl fwyaf bregus;
  • hyfforddi gwirfoddolwyr;
  • Cefnogaeth i sefydliadau sy’n profi anawsterau wrth weithredu’n effeithiol. Fe all hyn gynnwys, er enghraifft, ond heb ei gyfyngu i:
    • rai gorbenion
    • costau gwirfoddolwyr
    • gefnogaeth i dalu costau ychwanegol a wariwyd o ganlyniad i gynnydd mewn galw fel rhai sy’n ymwneud â darparu cyflenwadau ychwanegol
  • Costau cychwynnol datblygu gwasanaethau ym maes darpariaeth bwyd cymunedol, fel:
    • archfarchnadoedd cymdeithasol
    • caffis cymunedol
    • clybiau cinio
    • gwasanaethau a hybiau cyngor a sefydlwyd o gwmpas darparu bwyd cymunedol a / neu arwyddbostio pobl i asiantaethau all helpu gyda phroblemau sy’n arwain at dlodi bwyd
    • partneriaethau bwyd, gyda golwg ar greu cynlluniau bwyd lleol sy’n helpu i daclo ansicrwydd bwyd

Mae’r gronfa hon yn seiliedig yn bennaf ar refeniw. Serch hynny, mae swm cyfyng iawn, hyd at £2000 fesul cais, ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf am eitemau megis, ond heb eu cyfyngu i:

  • oergelloedd
  • rhewgelloedd
  • chyfarpar coginio

Gwariant anghymwys

Ni all y grant hwn dalu costau cynnal blynyddol sefydliad, na chostau sy’n ymwneud â nodau ac amcanion busnes beunyddiol arferol e.e. costau staff, biliau cyfleustodau, costau yswiriant ac ati.

Lefelau ariannu

O ystyried faint o geisiadau y byddwn ni’n debygol o’u derbyn, awgrymwn y gall sefydliadau wneud cais cyllido hyd at £7,000 (gan gynnwys cyfalaf os yw’n berthnasol). Fe all faint sydd ar gael newid yn dibynnu ar:

  • faint sy’n gofyn am arian
  • faint o arian sydd ar ôl yn y gronfa wrth i’r flwyddyn fynd heibio

Symiau uwch

Efallai y bydd symiau uwch ar gael pan fydd sefydliadau lluosog yn dymuno cydweithio ar draws sectorau neu Awdurdodau Lleol gwahanol er mwyn datblygu a chryfhau partneriaethau bwyd, gyda’r nod o greu cynlluniau bwyd cynaliadwy sy’n helpu i daclo ansicrwydd bwyd.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus wario’r cyllid a glustnodwyd ar eu cyfer erbyn 31 Mawrth 2024.

Sut i ymgeisio

Gellir gwneud cais i’r gronfa ar unrhyw adeg, naill ai hyd nes y bydd:

  • yr arian grant yn dod i ben
  • hi’n rhy agos at y terfyn ar 31 Mawrth 2024 i allu prosesu a gwario’r arian

Gall sefydliadau ymgeisio fwy nag unwaith cyhyd â bod ceisiadau’n wahanol neu ar gyfer gweithgareddau cyfenwol.

Bydd pob cais yn cael ei asesu ar ei ragoriaethau a sut mae’n cyd-fynd â’r meini prawf ariannu neu angen tlodi bwyd sydd wedi’i amlygu.

Darllenwch y Canllawiau Ariannu cyn cwblhau eich cais os gwelwch yn dda.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau Ffurflen Cwblhau Cyllid a darparu tystiolaeth o wariant, a bydd angen dychwelyd unrhyw danwariant i’r Gronfa.

Cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog Cefnogi Busnes Castell-nedd Port Talbot os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwneud cais: dros e-bost communityfoodconnections@npt.gov.uk

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau gan gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn ôl y galw, dros e-bost at communityfoodconnections@npt.gov.uk

Llawrlwytho

  • Canllawiau Cronfa Tlodi Bwyd 2023–2024 (DOCX 56 KB)

    i.Id: 3242
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Canllawiau Cronfa Tlodi Bwyd 2023–2024
    mSize: 56 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/epwp1fsw/canllawiau-cronfa-tlodi-bwyd-2023-2024.docx

  • Grant Tlodi Bwyd 2023-24 - ffurflen gais (DOCX 63 KB)

    i.Id: 3246
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Grant Tlodi Bwyd 2023-24 - ffurflen gais
    mSize: 63 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/kecfu1jz/grant-tlodi-bwyd-2023-24-ffurflen-gais.docx

  • Grant Tlodi Bwyd 2023-24 - adroddiad cwblhau cyllido (DOCX 49 KB)

    i.Id: 3245
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Grant Tlodi Bwyd 2023-24 - adroddiad cwblhau cyllido
    mSize: 49 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/mdyh0pcc/grant-tlodi-bwyd-2023-24-adroddiad-cwblhau-cyllido.docx

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau