Ymgynghoriadau
Darllenwch ein datganiad preifatrwydd
Diolch am ymweld â thudalen ymgynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle gallwch roi sylwadau ac adborth ar bynciau sy'n berthnasol i Gastell-nedd Port Talbot.
Edrychwn ymlaen at ddarllen eich ymatebion ar ein ymgynghoriadau.
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft wedi cael ei ddatblygu er mwyn helpu i greu rhwydwaith dibynadwy, cysylltiedig, fforddiadwy, cyfleus a hygyrch ar draws pob cymuned yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
Mae eich adborth yn bwysig oherwydd p'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio, yn dal bws neu drên neu'n gyrru, mae trafnidiaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn Ne-orllewin Cymru.
Gwnewch yn siŵr bod eich sylwadau'n ein cyrraedd ni erbyn hanner nos ar 6 Ebrill 2025
Prosiect Teithio Llesol Canol Tref Castell-nedd
Helpwch i Lunio Dyfodol Teithio Llesol yng Nghastell-nedd!
Rydym ni’n gweithio ar syniadau i wella llwybrau cerdded, beicio ac olwyno i/o ganol tref Castell-nedd, ac o gwmpas yr ardal. Nod y gwelliannau hyn yw ei gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy pleserus i bawb symud o gwmpas.
Rhannwch eich barn â ni cyn 7 Ebrill 2025 i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed.
Ymgynghoriadau’r Amgylchedd
Ymgynghoriadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, gan gynnwys Cynllunio, Trafnidiaeth, Bioamrywiaeth a