Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau Cyffredin

Sut gall pobl Wcráin ddod i’r Deyrnas Unedig?

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bol sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.

Sut gall unigolion helpu pobl yn Wcráin?

Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r sustemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Gall pobl yng Nghymru gofrestru gyda’r cynllun Cartrefi i Wcráin, cynnig dod yn noddwr a chynnig lle yn eu cartref i rywun sy’n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin fyw am o leiaf chwe mis. Bydd pobl sy’n cofrestru ar y cynllun drwy wefan Cartrefi i Wcráin yn gallu cael eu paru gyda phobl sy’n ffoi o Wcráin ac yn dymuno dod i’r DU. Cawsom ein rhyfeddu gan garedigrwydd pobl Cymru hyd yn hyn – mae miloedd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun i gynnig bod yn noddwyr.

Rydym wrthi’n datblygu ffurflen ar-lein i fusnesau a sefydliadau gofrestru cynigion o gefnogaeth neu o gymorth ehangach fel llety, hyfforddiant, adnoddau iaith a mathau eraill o help. Bydd y ffurflen ar gael cyn bo hir a byddwn yn rhoi diweddariad pellach cyn gynted ag y bo modd.

Ydy Llywodraeth Cymru’n rhedeg cynllun noddi ar wahân?

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn ni’n uwch-noddwyr i’r cynllun hwnnw. Golyga hynny y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o bobl o Wcráin yn ystod y cam cyntaf ond gallem dderbyn rhagor o bobl.

I ddechrau, bydd y bobl sy’n dod atom drwy’r trefniadau uwch-noddwr yn cael dod i un o’n canolfannau croeso, sy’n cael eu creu ledled Cymru. Oddi yno, cânt fynd i lety tymor-canolig neu fwy hirdymor. Bydd gwasanaethau cymorth ar gael i’r bobl sy’n cyrraedd Cymru – gan gynnwys iechyd, cwnsela a gwasanaethau arbenigol eraill.

Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r trydydd sector i gefnogi’r bobl sy’n cyrraedd drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Rydym yn awyddus i wneud popeth y gallwn i warchod pobl Wcráin rhag ymyrraeth ddi-angen a lleihau eu gofid wrth iddynt gyrraedd Cymru. Rydym wedi gofyn i sefydliadau a’r cyfryngau beidio â datgelu lleoliad y canolfannau croeso a sefydlwyd gennym gyda chymorth mudiadau eraill.

Mae Cymru’n Genedl Noddfa. Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb sy’n dod yma o Wcráin.

Pryd fydd Cartefi i Wcráin yn dechrau?

Dechreuodd y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru’n dod yn uwch-noddwr o 26 Mawrth ymlaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun Cartrefi i Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU. Os oes gennych gwestiynau am y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ewch i wefan Llywodraeth y DU. Hefyd, mae ein gwefan Noddfa yn rhoi llawer o wybodaeth yn Wcraineg a ieithoedd eraill ar gyfer y bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin.