Cefnogi pobl Wcráin
Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot hoffem gondemnio yn y telerau cryfaf posib weithredoedd Vladimir Putin a Llywodraeth Rwsia, a mynegi ein siom enbyd ar y diffyg parch at fywyd dynol, sofraniaeth genedlaethol a chyfraith ryngwladol.
Mae’r cyngor hwn yn sefyll gyda phobl Wcráin a’u ffrindiau a’u perthnasau sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac rydyn ni’n barod i chwarae ein rhan er mwyn helpu unrhyw un a allai fod wedi’u disodli o’u cartrefi.
Karen Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot