Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n talu fy nhreth y cyngor?
Os ydych yn derbyn llythyr am dreth y cyngor heb ei thalu, peidiwch â'i anwybyddu – bydd ond yn gwneud pethau'n waeth a bydd y swm sy'n ddyledus yn cynyddu.
Llythyrau atgoffa
Byddwch yn talu'ch treth y cyngor mewn rhandaliadau misol. Bydd swm pob rhandaliad a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i chi ei dalu yn cael ei ddangos ar eich bil. Os nad ydych yn talu'ch rhandaliad ar y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon llythyr atgoffa atoch.
Os nad yw'r rhandaliad(au) a gollwyd yn cael ei dalu (eu talu) o fewn 7 niwrnod ar ôl hynny, byddwch yn colli'r hawl i dalu'n fisol a bydd rhaid talu'r cyfanswm sy'n weddill. Os ydych yn talu'ch rhandaliadau dyledus ar ôl cael y llythyr atgoffa ond wedyn yn colli taliad eto, caiff ail lythyr atgoffa ei anfon atoch.
Os ydych yn colli taliad arall, byddwch yn derbyn hysbysiad terfynol (nid llythyr atgoffa arall) ac yna bydd rhaid talu'r ddyled gyfan sy'n weddill o fewn 7 niwrnod. Os ydych yn methu talu ar ôl derbyn unrhyw un o'r hysbysiadau hyn, caiff cwyn ei chyflwyno i'r llys ynadon iddynt anfon gwŷs atoch. Gallai hyn arwain at gymryd rhagor o gamau adennill ychwanegol yn eich erbyn.
Cofrestwch ar gyfer ein gwasanaeth atgoffa negeseuon testun
Byddwch yn derbyn neges destun dim ond os oes rhaid i ni anfon neges atoch i'ch atgoffa bod eich Treth y Cyngor heb ei thalu.
Bydd y neges yn dangos mai 'CBSCNPT' sydd wedi anfon y neges a bydd yn rhoi dolen i chi dalu drwy'n gwefan ddiogel.
Sylwer, er y byddwn yn ymdrechu i anfon neges destun i'ch atgoffa, ni ddylech ddibynnu ar hwn a dylech bob amser wneud yn siŵr eich bod yn talu'ch Treth y Cyngor erbyn y dyddiad priodol.
Gwysion
Os byddwch yn derbyn gwŷs, bydd yn ofynnol i chi dalu'r swm sy'n ddyledus, yn ogystal ag unrhyw gostau, ar unwaith. Os nad ydych yn talu'r balans cyfan cyn dyddiad y gwrandawiad, bydd y cyngor yn cyflwyno cais i'r llys ynadon am orchymyn atebolrwydd.
Bydd gennych y dewis i wneud trefniad i dalu'r swm sy'n ddyledus, gan gynnwys y costau. Mae'n rhaid gwneud y taliadau cytunedig yn brydlon er mwyn osgoi camau adennill ychwanegol.
Camau adennill ychwanegol
Os nad ydych yn cysylltu â ni ar unwaith ar ôl derbyn y gorchymyn atebolrwydd i drefnu taliad, neu os ydych yn gwneud trefniad ond yn methu cadw at y taliadau y cytunwyd arnynt, byddwn fel arfer yn casglu'r swm sy'n ddyledus trwy:
- atafaelu enillion
- atafaelu budd-daliadau
- defnyddio asiantau gorfodi (a elwid gynt yn beilïaid)
Mae “atafaelu” yn golygu y gallwn ni ofyn i bwy bynnag sy'n talu'ch cyflog neu'ch budd-daliadau ddidynnu rhan o'r hyn y mae angen i chi ei dalu i ni cyn eich talu, nes bod yr holl arian sy'n ddyledus gennych.
Os byddwn yn trosglwyddo'ch cyfrif i'r asiantau gorfodi (a elwid gynt yn beilïaid), byddant yn codi tâl arnoch am ymweld â'ch eiddo i gasglu'r swm sy'n ddyledus. Mae ganddynt hefyd y pŵer i fynd â nwyddau i'w gwerthu mewn arwerthiant er mwyn adennill y swm sy'n ddyledus.
Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried y dewisiadau eraill:
- Gosod gorchymyn tâl ar eich tŷ
- Eich gwneud yn fethdaliwr.