Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Pridiannau Tir Lleol

  1. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • I gyflawni gweithgareddau amrywiol er mwyn hwyluso darparu'r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol, gan gynnwys cyflawni Chwiliadau Personol a Swyddogol, Ceisiadau am Wybodaeth Amgylcheddol ac unrhyw geisiadau perthnasol eraill am wybodaeth neu gyngor sy'n berthnasol i'r gwasanaeth. Hefyd, i gynnal y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:

    1. "Mae'n angenrheidiol prosesu'r data er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddo". (Erthygl 6(c) y GDPR).

    2. "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(e) GDPR).

  4. Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/sefydliadau y tu allan i'r cyngor) yn unol â threfniadau rhannu data sydd ar waith gyda'r trydydd partïon hynny

    • Cyfreithwyr
    • trawsgludwyr â thrwydded
    • cwmnïoedd chwiliadau personol ac aelodau o'r cyhoedd a allai wneud ymholiadau dilynol gan ofyn am ddogfennau/gwybodaeth sydd ar gael yn y Cofrestrau Cyhoeddus a/neu yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

  5. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir gennych ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod amhenodol

  6. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol. 

  7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Ethygl 21 y GDPR, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

  8. Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

  9. Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  10. Sylwer, o dan y GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
    2. Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
    3. Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  1. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, yr ydych am gael mynediad neu os ydych am wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r cyngor yn y cyfeiriad canlynol Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

  2. Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 9 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a gwybodaeth bellach am eich hawliau oddi ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.