Dogfen
Hysbysiad preifatrwydd - Diogelwch Ffyrdd
- Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).
- Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
- Darparu a rheoli Cyrsiau Diogelwch Ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyrsiau hyfforddi gyrwyr a beicwyr a chyrsiau hyfforddi gyrwyr proffesiynol.
- Darparu a rheoli Cyrsiau Diogelwch Ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyrsiau hyfforddi gyrwyr a beicwyr a chyrsiau hyfforddi gyrwyr proffesiynol.
- Fel rheolwr data, bydd angen i'r cyngor roi gwybod i chi yn unol â GDPR am yr "amodau prosesu data" yn Erthygl 6 GDPR y mae'n dibynnu arno er mwyn prosesu'ch data personol. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6
- Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddo”. (Erthygl 6 (1)(c) GDPR).
- Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).
- Gallwn rannu eich data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny
- Yr Heddlu
- DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau)
- RTITB (Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Trafnidiaeth Ffyrdd)
- DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau)
- JAUPT (Uned Cymeradwyaeth ar y Cyd ar gyfer Hyfforddiant Cyfnodol)
- Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i'r hyfforddiant gael ei gwblhau.
- Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath, gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallai'ch gwneud yn agored i achosion cyfreithiol.
- Fe'ch hysbyswn fod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol
- Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.
- Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
- Fe'ch cynghorir o dan GDPR bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o rhan eu data personol:
- Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
- Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, yr ydych am gael mynediad neu os ydych am wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
- Fe'ch cynghorir, os gwnewch gais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 9 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a gwybodaeth bellach am eich hawliau oddi ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.