Dogfen
Hysbysiad preifatrwydd - Diogelwch Ffyrdd
- Drwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol i ni rydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).
- Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
- Darparu a rheoli Cyrsiau Diogelwch Ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyrsiau hyfforddi gyrwyr a beicwyr a chyrsiau hyfforddi gyrwyr proffesiynol.
- Darparu a rheoli Cyrsiau Diogelwch Ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i gyrsiau hyfforddi gyrwyr a beicwyr a chyrsiau hyfforddi gyrwyr proffesiynol.
- Fel Rheolwr Data, mae gofyn i'r cyngor o dan GDPR y DU roi gwybod i chi ar ba un o'r "Amodau Prosesu Data" yn Erthygl 6 GDPR y DU y mae'n dibynnu i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar y ddau amod canlynol o Erthygl 6:
- Mae prosesu'r data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU)
- Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).
- Gallwn rannu'ch data personol yn ddiogel â'r trydydd partïon canlynol (h.y. pobl/cyrff/endidau y tu allan i'r cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny
- Yr Heddlu
- DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau)
- RTITB (Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Trafnidiaeth Ffyrdd)
- DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau)
- JAUPT (Uned Cymeradwyaeth ar y Cyd ar gyfer Hyfforddiant Cyfnodol)
- Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y cyngor am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i'r hyfforddiant gael ei gwblhau.
- Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol yn unol â gofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gall eich methiant i roi'r wybodaeth honno i ni arwain at anallu'r cyngor i ddarparu gwasanaeth i chi a/neu gallech wynebu achos cyfreithiol.
- Byddem eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR y DU, i wrthwynebu i'r awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu'ch data personol at ddibenion cynnal tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.
- Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd holl waith prosesu'ch data gennym ni yn cael ei wneud yn Ardal Economaidd Ewropeaidd y Deyrnas Unedig neu unrhyw wlad arall â phenderfyniad digonolrwydd.
- Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
- Sylwer, o dan GDPR y DU, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:
- Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
- Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
- Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ein defnydd o'ch data personol, os ydych am gael mynediad ato neu os hoffech gyflwyno cwyn am brosesu'ch data personol, ysgrifennwch at Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
- Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r cyngor (gweler 11 uchod) ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.