Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Cymunedau am Waith a Mwy

  1. Wrth roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych trwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

  2. Bydd y data personol a gasglwn gennych drwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (pan fydd yn cyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion a ganlyn:

    Cymunedau am Waith a Mwy

  3. Fel Rheolydd Data mae’n ofynnol i’r Cyngor dan GDPR eich hysbysu ynghylch pa rai o’r “Amodau Prosesu Data” Erthygl 6 GDPR y mae’n dibynnu arnynt i brosesu eich data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, cofiwch ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 a ganlyn o ran y data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon:

    • “Mae’r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolydd yn ddarostyngedig iddo”. (Erthygl 6(c) GDPR).
    • “Mae’r prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio yn y rheolydd.” (Erthygl 6(e) GDPR).

  4. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda’r trydydd partïon canlynol (h.y. personau / cyrff / endidau y tu allan i’r Cyngor) yn unol â threfniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda’r trydydd partïon hynny:

    • Llywodraeth Cymru
    • Cymunedau am Waith
    • DWP
    • JCP
    • Gweithffyrdd+
    • PACE
    • Gwasanaeth Ieuenctid
    • Cam Nesa
    • Gyrfa Cymru

  5. Bydd yr wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o: 10 mlynedd.

  6. Nodwch os gwelwch yn dda ei bod hi’n ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o’r fath gallai methiant gennych i ddarparu’r wybodaeth honno i ni olygu na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi a / neu gallai eich gwneud yn agored i weithredoedd cyfreithiol.

  7. Dymunwn eich hysbysu bod gennych yr hawl o dan Erthygl 21 GDPR i wrthwynebu ar unrhyw adeg i’r Awdurdod am y ffaith ein bod ni’n prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu er mwyn arfer ein hawdurdod swyddogol.

  8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ddata personol o’ch eiddo y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Bydd pob prosesu a wneir o’ch data personol gennym ni yn digwydd yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

  9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol i bwrpasau gwneud penderfyniadau a atwomeiddiwyd.  

  10. Fe’ch cynghorir, o dan GDPR, bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o ran eu data personol:

    • Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    • Yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
    • Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    • Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    • Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

11. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’n defnydd o’ch data personol, os ydych yn dymuno cael mynediad ato neu os dymunwch wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r cyngor yn y cyfeiriad canlynol: Cyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

12. Cofiwch, os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (gweler 11 uchod) a’ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan y Comisiynydd.