Dogfen
Hysbysiad Preifatrwydd - Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
- Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rhydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a'r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA).
- Bydd y data personol yr ydym yn ei chasglu drwy'r ffurflen hon yn cael ei defnyddio gan y Cyngor (yn unol iddo gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
- Gweinyddiaeth a darparu Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gweinyddiaeth a darparu Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
- Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR rhoi gwybod i chi pa un o erthygl 6 "amodau prosesu data" GDPR y mae'n dibynnu arno i brosesu eich data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, rhydym yn eich hysbysu, o rhan y data a ddarperir gennych ar y ffurflen hon, ein bod yn dibynnu ar y ddau amod erthygl 6 canlynol;
- Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddo”. (Erthygl 6 (1)(c) GDPR).
- “Mae angen prosesu’r data ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn y rheolwr.” (Erthygl 6 (1)(e) GDPR).
- Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd partïon (h.y. personau / cyrff / endidau y tu allan i'r Cyngor) oni bai bod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith:
- Darparwyr trafnidiaeth i darparu'r trafnidiaeth
- Gov Notify (i gohebiaeth)
- Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i chi dderbyn y gwasanaeth ddiwethaf.
- Sylwch ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych chi i ddarparu'r wybodaeth honno i ni olygu na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi a / neu gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.
- Byddem yn eich hysbysu bod gennych aw lar unrhyw adeg o dan Erthygl 21 GDPR I wrthwynebu’r awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu ymarfer ein hawdurdod swyddogol.
- Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.
- Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
- Fe'ch cynghorir o dan GDPR bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o rhan eu data personol:
- Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
- Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
- Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
- Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, yr ydych am gael mynediad neu os ydych am wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
- Fe'ch cynghorir, os gwnewch gais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 9 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a gwybodaeth bellach am eich hawliau oddi ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.