Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cludiant o'r cartref i'r ysgol- Côd ymddygiad

Ein Hymrwymiad Ni

Mae’r Cyngor yn bwriadu darparu trafnidiaeth i ddysgwyr pan mae ganddynt gyfrifoldeb  statudol i wneud hynny i ddisgyblion sy’n teithio i ac o le perthnasol fel y pennir gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn unol â Darpariaeth Statudol Teithio gan Ddysgwyr a 
Chanllawiau Gweithredol 2014.

Bydd natur y cludiant a ddarperir gan y Cyngor ar ffurf mae’r Cyngor yn ei ystyried na fydd yn achosi gofid, straen nag anhawster i’r graddau a fyddai’n atal disgyblion/myfyrwyr rhag elwa o’r addysg sydd ar gael. Dylai disgyblion/myfyrwyr fod yn
gallu teithio’n ddiogel ac yn gymharol gysurus. Byddwn yn cymryd camau rydym yn eu  hystyried yn angenrheidiol i fodloni ein hunain o addasrwydd y cerbydau a’r  gyrwyr/cynorthwywyr teithwyr.

  • Bydd gan rieni, ysgolion/colegau a chontractwyr fynediad at gyngor a chymorth yn ystod oriau swyddfa.
  • Lle y bo'n bosibl, fel arfer caiff pasiau sydd eu hangen i deithio eu
    dosbarthu o fewn 15 diwrnod gwaith o gael cais wedi'i gymeradwyo, ac eithrio ar ddechrau'r flwyddyn academaidd lle y bydd pob awdurdod yn dosbarthu'r pasiau yn unol â'i weithdrefn ei hun.
  • Bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd unrhyw offer arbennig, fel harneisiau neu seddau, yn cael eu darparu gan naill ai’r Cyngor, gweithredwr neu'r rhieni neu'r rhieni os ystyrir hyn yn angenrheidiol.
  • Caiff llwybrau eu cynllunio er mwyn sicrhau'r amseroedd teithio lleiaf  posibl, yn amodol ar ddarparu gwasanaeth effeithlon a chosteffeithiol.
  • Bydd y Cyngor yn hwyluso gwiriadau manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) er mwyn sicrhau bod gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn addas ar gyfer swydd sy’n cynnwys cludo plant.
  • Caiff bathodynnau adnabod eu paratoi a'u dosbarthu i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr cymeradwy, a disgwylir iddynt eu harddangos bob amser.
  • Bydd diogelwch a safon gwasanaethau cludiant ysgol a llwybrau’n cael eu monitro yn rheolaidd.
  • Mae’n bosibl y bydd teledu cylch cyfyng (CCTV) yn cael eu gosod ar gerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant ysgol. Bydd y darnau ffilm yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond gellir eu defnyddio fel tystiolaeth mewn achosion o gamymddwyn neu gamymddygiad.

Yn unol â chanllawiau statudol Cod Ymddygiad wrth Deithio Cymru, byddwn yn:

  • Gweithio gyda chontractwyr, rhieni, disgyblion a’r ysgolion/colegau i  ddatrys unrhyw broblemau ymddygiad posibl ar wasanaethau trafnidiaeth ysgolion/colegau. ysgolion/colegau.
  • Sicrhau fod gweithredwyr a gyrwyr/chynorthwywyr teithwyr yn gyfarwydd  â chynnwys y Cod Ymddygiad wrth Deithio drwy hyfforddiant penodol.
  • Gweithio gydag ysgolion/colegau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymddygiad da a chanlyniadau methu â chydymffurfio a’r Cod Ymddygiad wrth Deithio drwy hyfforddiant Diogelwch Bws i staff a disgyblion.
  • Mynnu bod digwyddiadau sy’n digwydd ar Drafnidiaeth Ysgol/Coleg yn cael eu hadrodd i’r Cyngor sy’n darparu’r drafnidiaeth
  • Cynnal cofnod o bob digwyddiad, archwilio pob digwyddiad ar
    y cyd â’r ysgol a phartïon perthnasol eraill, a chosbi pan fo
    hynny’n briodol.

Cod Ymddygiad Rhieni

  • Mae rhieni, gwarcheidwaid a/neu ofalwyr yn gyfrifol am annog ymddygiad da a sicrhau bod eich plentyn yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad wrth Deithio Llywodraeth Cymru. Felly, disgwylir i chi gefnogi’r Cyngor, yr ysgolion/colegau, a’r gweithredwyr a’u staff i gynnal ymddygiad da.
  • Mewn perthynas ag atal a delio gyda Bwlio, rydym yn dilyn cyfarwyddyd penodol fel y’i gosodir yn ‘Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-fwlio’ a ‘Fframwaith Troseddau Casineb’.
  • Os yw eich plentyn yn rhan o ymddygiad gwael ar gludiant ysgol byddwch yn cael gwybod am y broses ddisgyblu cyn gynted ag y bo modd.
  • Dylai fod yn hollol glir o’r cychwyn, mewn achosion o ymddygiad gwael  mai’r cam eithaf fyddai dwyn yr hawl i dderbyn cludiant oddi arnoch. Yn yr achosion hyn, chi fydd yn gyfrifol wedyn am drefnu cludiant a thalu'r gost lawn amdano. Darllenwch y Canllaw i Rieni am fwy o wybodaeth.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau diogelwch eich plant wrth gyrraedd y lleoliad lle ceir trafnidiaeth i'r ysgol yn y bore ac wrth gyrraedd adref o'r lleoliad hwnnw yn y prynhawn/gyda'r nos. Felly dylid gwneud trefniadau goruchwyliaeth briodol, yn enwedig ar gyfer disgyblion cynradd.
  • Dylai eich plentyn adael y tŷ yn y boreau mewn da bryd i gyrraedd y bws fel nad oes angen brysio, yn enwedig os oes angen croesi ffyrdd.
  • Yn ogystal, dylech sicrhau bod eich plentyn yn gwisgo dillad priodol.
  • Yn y prynhawn/gyda'r nos, dylai plant y mae'n rhaid iddynt groesi'r ffordd ar ôl dod oddi ar y bws aros tan y bydd y bws wedi gadael cyn ceisio croesi er mwyn iddynt allu gweld traffig arall ac er mwyn i draffig arall allu eu  gweld nhw. Os ydych yn cwrdd â’ch plentyn, dylech aros wrth yr arhosfan, ac nid yr ochr arall o’r ffordd.
  • Fel rheol, yn y prynhawn bydd disgybl cynradd yn cael ei ollwng ger ei arhosfan benodedig. Os digwydd unrhyw newidiadau i'r trefniadau arferol, am ba reswm bynnag, dylech roi gwybod i’r gyrrwr neu’r cynorthwyydd teithwyr (os oes un).
  • Yn achos disgyblion a gaiff eu hebrwng i'w man gollwng yn y prynhawn/gyda'r nos ac y bydd rhiant/gwarcheidwad yno i'w casglu fel arfer, os na fydd unrhyw un yno i'w casglu, rhoddir y weithdrefn ganlynol ar waith –
    • i. Bydd y gyrrwr yn aros hyd at 5 munud i'r rhiant/gwarcheidwad gyrraedd. Os na fydd unrhyw un wedi cyrraedd o hyd i gasglu'r plentyn, bydd yn rhoi gwybod i Uned Drafnidiaeth y Cyngor a'i Weithredwr Trafnidiaeth am y sefyllfa, ond yn y cyfamser, bydd yn cadw'r disgybl(ion) ar y cerbyd ac yn gweithredu'r gwasanaeth ar hyd ei lwybr penodedig er mwyn peidio ag achosi oedi i unrhyw  ddisgyblion eraill ar y cerbyd.
    • ii. Ar ôl cwblhau'r llwybr, bydd y gyrrwr yn ffonio Uned Drafnidiaeth y Cyngor a'i Weithredwr Trafnidiaeth i gael cyfarwyddiadau pellach. Os na ellir cysylltu â'r rhiant/gwarcheidwad i gael cyfarwyddiadau  pellach, bydd y gyrrwr yn cysylltu â'r heddlu ar 101.
  • Rhowch wybod i Uned Cludiant y Cyngor am unrhyw gyflwr meddygol sydd gan eich plentyn a fyddai, o bosibl, yn effeithio ar ei gludiant/ei chludiant.
  • Mewn achosion o dywydd garw neu amgylchiadau anrhagweledig, y mae’n bosibl y ceir newidiadau dros dro i’r drafnidiaeth a ddarperir. Mewn rhai  amgylchiadau, efallai na fydd yn bosibl gweithredu taith o gwbl, neu fe weithredir rhan o’r daith yn unig.
  • Os nad yw llwybr trafnidiaeth ysgol/coleg yn gweithredu yn y bore o ganlyniad i gyflyrau tywydd garw, ond eich bod yn dewis mynd â’ch plentyn/plant i’r ysgol dros eich hunain, yna bydd gofyn i chi wneud  trefniadau i gasglu eich plant/plentyn ar ddiwedd y diwrnod ysgol/coleg.
  • Rhowch wybod yn syth i Uned Cludiant y Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, fel newid yn eich cyfeiriad. Os nad oes angen tocyn bws bellach, dylid ei ddychwelyd at y Cyngor. Mae’n bosibl y byddai defnyddio’r cerdyn bws pan nad yw bellach yn ddilys yn cael ei ystyried yn dwyll.
  • Mae cardiau teithio’n gostus a byddwn yn codi tâl am eu hadnewyddu. Dylid rhoi gwybod ar unwaith i Uned Cludiant y Cyngor os ydych yn colli eich cerdyn teithio, a byddant yn eich cynghori ynglŷn â sut i gael un yn ei le.
  • Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir gwella ein Cod Ymddygiad, anfonwch eich adborth at y Cyngor sy’n darparu’r cludiant.

Cod Teithio - Llywodraeth Cymru