Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun graeanu’r gaeaf

Yn ystod y cyfnod sy'n para o ganol mis Hydref tan fis Ebrill, gall tywydd gaeafol oer effeithio ar rwydwaith priffyrdd a throedffyrdd yr awdurdod. Gall peryglon gynnwys:

  • Llwydrew
  • Cesair
  • Eira
  • Glasrew

Pan geir unrhyw un o'r peryglon hyn, gall ffyrdd a throedffyrdd fod yn beryglus i'w tramwyo ac felly, bob blwyddyn, mae CBS Castell-nedd Port Talbot yn rhoi Cynllun Gweithredu Gwasanaeth y Gaeaf ar waith sy'n pennu'r strategaeth weithredol ar gyfer ymdrin â'r fath dywydd.

Rydym yn trin y briffordd drwy ddefnyddio halen craig sych ac mae'r halltu'n seiliedig ar dymheredd arwyneb y ffordd pan ddisgwylir iddo ddisgyn yn is na 1°C pan ragwelir rhew neu amodau rhewllyd.

Mae ffyrdd â blaenoriaeth uchel yn ystyried graddiant a defnydd ac yn cynnwys y canlynol:

  • Traffyrdd a chefnffyrdd
  • Ffyrdd 'A' a 'B' sy'n cario traffig diwydiannol, mynediad i ysbytai, gorsafoedd tân a chanolfannau argyfwng
  • Ffyrdd eraill 'C' a Dosbarth III sy'n cysylltu pentrefi
  • Mynediad i ffynonellau tanwydd a bwyd allweddol
  • Llwybrau bysiau (gan gynnwys llwybrau bysiau ysgol)
  • Ffyrdd ystad ddiwydiannol
  • Llwybrau drwy ardaloedd adeiledig
  • Unrhyw lwybrau eraill y bernir eu bod yn angenrheidiol ar y pryd

I gael rhagor o wybodaeth: Cynllun Gweithredol Gwasanaeth y Gaeaf

Mae ein llwybrau graeanu yn cael eu trin cyn rhagweld amodau rhewllyd. Mae pedwar llwybr halltu rhagofalus a enwir yn 'Llwybr uchel' a 'Llwybr isel' yn seiliedig ar dopograffeg a lleoliad o fewn y fwrdeistref sirol.

  • Llwybr Uchel 1- Resolfen, Tonnau, Cimla, Cwm Afan.
  • Llwybr Uchel 2 – GCG, Ystalyfera, Crynant, Banwen, Glyn-nedd
  • Llwybr Isel 1 - Port Talbot, Margam, Aberafan, Baglan, Llansawel, Castell-nedd.
  • Llwybr Isel 2 - Ffordd Fabian, Llandarcy, Sgiwen, Bryncoch, Pontardawe.

Bydd llwybrau'n parhau i gael eu trin yn ystod cyfnodau hir o iâ.

Pan rhagwelir eira, byddwn yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar risg i flaenoriaethu ailagor ffyrdd. Bydd hyn yn dechrau gyda ffyrdd critigol fel:

  • traffig diwydiannol mawr
  • cynnal mynediad i ysbytai, gorsafoedd tân a chanolfannau argyfwng.

Byddwn yn anelu at glirio ffyrdd a llwybrau troed ychwanegol pan fydd adnoddau'n caniatáu hynny.

Mae tymor y gaeaf yn rhedeg o ganol mis Hydref i ganol mis Ebrill. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y tywydd ei fonitro drwy dderbyn rhagolygon tywydd dyddiol.

Yn ogystal â chael ein diweddaru gyda rhagolygon cenedlaethol rheolaidd, mae gennym bum gorsaf dywydd, sy'n cynnwys dwy orsaf sefydlog yn Abernant a Banwen, sy'n caniatáu i ddata gael ei dderbyn yn uniongyrchol gan y tîm.

Yn ogystal, rhydym wedi gosod unedau synhwyro o bell, gyda chymorth profion tymheredd dwfn ac arwyneb, wedi'u lleoli yn Melincourt, Cwm Afan ac Ystâd Ddiwydiannol Cynffig. Mae'r gorsafoedd tywydd hyn yn darparu gwybodaeth am dywydd byw i rhagolygon yr Awdurdod.

Yna cynhelir halltu cyn triniaeth ar y llwybrau a nodwyd ar draws Castell-nedd Port Talbot cyn yr amser a rhagwelir ar gyfer rhew neu amodau rhewllyd.

Os bydd amodau rhewllyd yn parhau, mae'r llwybrau wedyn yn parhau i gael eu trin yn ôl yr angen. Mae'r driniaeth rhagofalus hon yn cymryd tua 3 awr 30 munud i'w chwblhau.

Nid ydym yn graeanu palmentydd na llwybrau beicio cyn rhagweld eira neu rhew ac eithrio ardaloedd cymysg i gerddwyr a cherbydau fel canol trefi. Fodd bynnag, mewn cyfnodau o amodau rhewllyd parhaus neu gwymp eira byddwn yn trin llwybrau / palmentydd prysur. Mae'r rhain yn cynnwys ardaloedd i gerddwyr canol trefi a llwybrau troed strategol ger ysgolion, ysbytai ac ati.

Nid ydym yn rhoi halen ar groesfannau rheilffyrdd oherwydd gall hyn achosi diffygion signalau.

Mae gennym 6 cherbyd graeanu sy’n trin 4 prif lwybr y gaeaf a cherbyd penodedig ar gyfer yr A465. Cerbyd wrth gefn yw’r 6ed un.

Yn 2020, aeth y cyhoedd ati i enwi pump o’r cerbydau hyn fel rhan o gystadleuaeth. Dewiswyd yr enwau buddugol canlynol gan staff cerbydlu graeanu’r gaeaf:

  • Justin Non-sliperic,
  • Gareth Spreadwards,
  • Richard Brrrrrton,
  • Bonnie Tyre a
  • Michael Gritter Ma-Sheen.

Mae’r cerbydau’n trin y lwybrau sy’n addas i’r enwau. Er enghraifft, mae cerbyd Michael Gritter Ma-Sheen yn gweithio ar Lwybr Uchel 2 sy’n cwmpasu Cwmtwrch lle mae gan Michael Sheen gartref.

Mae gennym drefniadau ar waith gyda Chynghorau eraill i rannu cyflenwadau os bydd stociau’n mynd yn isel. Rydym hefyd yn rhannu cyfarpar graeanu os bydd tywydd difrifol iawn mewn rhai ardaloedd ond nid mewn mannau eraill.

Cyn tymor y gaeaf, rydym yn cysylltu â’r holl awdurdodau cyfagos i gadarnhau trefniadau graeanu trawsffiniol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin,
  • Cyngor Sir Powys,
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe a
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn adolygu ein lefelau halen yn barhaus gan fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn argymell ailgyflenwi’r cyflenwadau halen cyn tymor y gaeaf hyd at lefel sydd 1.5 gwaith yn fwy na’r halen a ddefnyddiwyd, ar gyfartaledd, dros y 6 blynedd diwethaf.

Yn ddiweddar, adeiladwyd ysgubor halen yng Nghanolfan Ymateb y Gwasanaeth yn y Ceiau. Mae lle yn y cyfleuster hwn i storio 7500 o dunelli o halen craig i’w defnyddio ar ffyrdd y Sir.

Meddyliwch am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun bob amser a gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol. Os bydd gennych broblemau iechyd, dylech chi hefyd ystyried gofyn i gymdogion eich helpu.

Mae’r adran drafnidiaeth wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol ynghylch clirio eira a rhew:

  • ewch ati i glirio yn gynnar yn y dydd – mae’n haws symud eira rhydd, ffres
  • peidiwch â defnyddio dŵr – fe allai rewi a throi’n iâ du
  • defnyddiwch halen os bydd hynny’n bosibl – bydd yn toddi’r iâ neu’r eira ac yn ei atal rhag ailrewi dros nos (ond peidiwch â defnyddio’r halen o’r biniau halen gan ein bod ni’n defnyddio hwn i gadw’r ffyrdd yn glir)
  • gallwch ddefnyddio lludw a thywod os na fydd gennych ddigon o halen – bydd yn rhywbeth i gydio ynddo dan draed
  • talwch sylw ychwanegol wrth glirio grisiau a llwybrau serth – gallai taenu rhagor o halen fod yn ddefnyddiol

Yn ôl cyngor yr adran drafnidiaeth, mae’n annhebygol y cewch eich siwio na’ch dal yn gyfrifol os caiff rhywun anaf ar lwybr neu balmant os ydych wedi’i glirio’n ofalus.

Mae biniau graean yn cael eu stocio ar sail dreigl drwy gydol tymor y gaeaf.

Mae angen gwneud ceisiadau am flychau graean newydd yn uniongyrchol i'ch Cynghorydd lleol.

Rhaid i chi ddefnyddio'r bin halen i helpu gydag eira a rhew ar ffyrdd cyhoeddus a llwybrau troed. Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer rhodfeydd preifat, meysydd parcio neu ardaloedd eraill lle nad ydynt yn rhai cyhoeddus

Gellir prynu halen ar gyfer ffyrdd ac eiddo preifat gan fasnachwyr adeiladwyr lleol, a fydd fel arfer yn dosbarthu hyn i chi.

Bydd biniau halen yn cael eu defnyddio yn ystod cyfnodau o dywydd garw. Caiff biniau halen eu llenwi cyn dechrau tymor y gaeaf, cânt eu monitro a gellir eu hailgyflenwi pan fo angen.

Rhaid gwneud cais i'ch cynghorydd lleol i gael blwch graean wedi'i ychwanegu at stryd gyfagos. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cynghorydd lleol i ofyn am fin gan ddefnyddio'n tudalen 'Dod o hyd i'ch Cynghorydd'

Fodd bynnag, rhaid i chi ddefnyddio'r bin halen i helpu gydag eira a rhew ar ffyrdd cyhoeddus a llwybrau troed ac ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer rhodfeydd preifat, meysydd parcio neu ardaloedd eraill nad ydynt yn rhai cyhoeddus.

Gellir prynu halen ar gyfer ffyrdd ac eiddo preifat oddi wrth fasnachwyr adeiladwyr lleol, a fydd fel arfer yn ei ddosbarthu i chi.