Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Arddangos nwyddau

Nwyddau ar y Briffordd. Mae arddangos nwyddau a defnyddio arwyddion hysbysebu ar droedffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr yn ychwanegu lliw ac awyrgylch at fywyd pob dydd ac yn gallu gwella'r amgylchedd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddo. Fodd bynnag, gallant hefyd fod yn rhwystrau i'r cyhoedd wrth symud ar hyd palmant ac achosi perygl, yn enwedig i bobl anabl a phobl â nam ar eu golwg.

Amodau ar gyfer gosod arddangosiadau a byrddau hysbysebu ar y briffordd

Mae'r cyngor yn dymuno rheoli gosod eitemau ar droedffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr mewn modd teg a chyson, gan gydnabod y posibilrwydd o wrthdaro rhwng cerddwyr a masnachwyr, ond gan osod diogelwch a mwynderau cerddwyr yn gyntaf bob tro.

Dyma ganllawiau'r polisi am fynd i'r afael â rhwystrau ar y troedffyrdd.

  • Rhaid bod gan fusnes yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £2 filiwn i ddiogelu yn erbyn hawliad gan y cyhoedd. Rhaid iddo barchu iechyd a diogelwch y cyhoedd a dangos arfer da wrth gynnal a chadw.
  • Yr awdurdod sydd a'r hawl i benderfynu pwy all arddangos nwyddau ar droedffyrdd. Ni ddylai arddangosiadau ymestyn mwy nag 1 metr o flaen siop a dylid ei gadw o fewn lled y siop.
  • Rhaid bod rhwystr addas yn ffin glir ym mhob pen i arddangosiadau nwyddau.
  • Rhaid bod 2 fetr o led ar y droedffordd i gerddwyr symud heibio.
  • Rhaid gosod gwrthrychau ar y droedffordd fel nad ydynt yn gorfodi i gerddwyr gerdded ar y ffordd yn uniongyrchol neu oherwydd nifer y cerddwyr.
  • Ni ddylid amharu ar welededd modurwyr na cherddwyr.
  • Mewn ardaloedd i gerddwyr, rhaid sicrhau fod mynediad rhydd i'r cyhoedd ac o leiaf 4 metr ar gyfer cerbydau argyfwng.

Sut rwy'n gwneud cais?

Nid oes cytundeb hawlen na thrwydded ar waith ar gyfer gosod arddangosiadau neu fyrddau hysbysebu ar y briffordd. Er hyn, yr awdurdod sydd i benderfynu pwy all osod arwyddion neu fyrddau hysbysebu ar droedffyrdd.    

  • Dylai llythyron o ddiddordeb gael eu hanfon i'r Adran Gwaith Stryd neu gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol i drafod eich cynigion.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y taflenni a ddarperir isod.

Beth fydd y gost?

Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am ganiatâd ar gyfer gosod arddangosiadau a byrddau hysbysebu ar y briffordd.

Faint o amser bydd ei angen i brosesu fy nghais?

Fel arfer bydd ceisiadau yn cael eu prosesi o fewn 28 niwrnod.

Ydy caniatâd dealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei gymeradwyo, os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 28 niwrnod iddynt dderbyn cais wedi'i gwblhau.

Os yw fy nghais yn cael ei wrthod, sut mae apelio?

Nid oes gweithdrefn apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw benderfyniad, cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd.

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Adran Gwaith Stryd
Y Ceiau Ffordd Brunel,
Llansawel Castell-nedd
SA11 2GG pref
(01639) 686338 (01639) 686338 voice +441639686338