Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd
Lluniwyd y Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd hwn yn unol â Safonau Cyffredin Cymru Gyfan, ac mae hefyd yn nodi'r paramedrau a'r safonau y disgwylir iddynt gael eu cynnwys mewn dyluniadau ar gyfer datblygiadau newydd er lles diogelwch y briffordd. Mae'r awdurdod yn annog dylunio blaengar a bydd yn ystyried ymagwedd hyblyg, ar yr amod bod cyfiawnhad iddo ac na pheryglir diogelwch y briffordd, fel a bennir gan beirianwyr priffordd yr awdurdod. Dylid trafod pob agwedd ar ddylunio â'r cyngor cyn gynted â phosib.
Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gael caniatâd cynllunio gan yr Is-adran Cynllunio. Fel rhan o'r broses hon, ymgynghorir yn ffurfiol â'r Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg er mwyn cael sylwadau ar y cynigion o safbwynt draenio priffyrdd a thir.
Mae Rheolwr Rheoli Corff Cymeradwyo SuDS a Datblygu Priffyrdd yn gyfrifol am gydlynu'r ymatebion hyn yn ogystal â mabwysiadu ffyrdd newydd a newidiadau i briffyrdd presennol.
Rhoddir cyngor ar unrhyw gam o'r broses ddatblygu ac yn aml gall ymgynghori cyn cyflwyno cais cynllunio'n ffurfiol arwain at arbed amser a helpu i osgoi gwaith ofer neu gamddealltwriaeth.