Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyfyngiadau cyflymder 20mya

Newidiodd y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig ar 17 Medi 2023.

Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru y mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef.

Mae'r newid yn y ddeddfwriaeth yn golygu bod pob ffordd bellach yn 20mya yn ddiofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Mae gan rai ffyrdd derfyn cyflymder o 30mya o hyd ac mae arwyddion yn dynodi hyn yn yr un modd â ffyrdd â therfynau cyflymder uwch.

Mae unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder o 20mya yn cael eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder - yn yr un modd â mewn ardaloedd terfyn cyflymder 30mya yn flaenorol.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwch yn gweld arwyddion 30mya yn cael eu gosod yn y mannau priodol.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio'n agos gyda GanBwyll, y sefydliad sy'n gyfrifol am orfodi cyflymderau yng Nghymru i sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o'r terfyn diofyn newydd.

Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol ledled Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau 20mya Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect i newid arwyddion yn un sylweddol ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod hyn yn digwydd. Bydd cyfnod o 'snagio' tra bod arwyddion yn cael eu gwirio.

Adborth gan breswylwyr

Gofynnwyd i bob cyngor yng Nghymru gasglu adborth trigolion gyda'r bwriad o asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder

Cawsom 93 o sylwadau am strydoedd neu ffyrdd.

Mae'n bwysig nodi nad dyma ddiwedd y broses, a bod nifer o gamau y mae angen eu dilyn dros y misoedd nesaf.

Asesu'r adborth

Byddwn yn adolygu'r holl sylwadau a ddaeth i law, ac yn eu hasesu yn unol â'r canllawiau.

Wrth benderfynu a ddylai stryd gael terfyn cyflymder uwch, rhaid i ni fod yn hollol sicr na fydd y cynnydd yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.

Wedi i ni gwblhau ein hadolygiad, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau.

Ni allwn roi adborth unigol i bob sylw rydyn ni wedi ei dderbyn.

Os yw'r canllawiau'n awgrymu nad yw stryd neu ffordd yn addas ar gyfer 30mya, bydd yn aros ar 20mya.

Os yw stryd neu ffordd yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 30mya, bydd angen i ni greu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT). Mae hon yn broses gyfreithiol y mae'n rhaid i ni ei dilyn i newid terfyn cyflymder. Mae gan bob GRhT ymgynghoriad cyhoeddus lle gall preswylwyr gefnogi neu godi pryderon. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau.

Ar ôl yr ymgynghoriadau GRhT, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar unrhyw newidiadau.