Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol
Mae Diogelwch Ffyrdd Castell-nedd Port Talbot yn cynnig Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol trwy'r cynlluniau hyfforddi beicio canlynol.
Wedi'i gynnal mewn amgylchedd rheoledig i ffwrdd o ffyrdd a thraffig. Mae beicwyr fel arfer yn cael eu hyfforddi mewn grwpiau. Mae'n darparu'r sgiliau rheoli beiciau sylfaenol gan gynnwys, cychwyn a phedlo, stopio, symud, signalau a defnyddio'r gerau.
Hyfforddiant ar y ffordd i'r rheini sydd wedi cwblhau Lefel 1 ac sy'n barod i symud ymlaen; mae'n rhoi profiad beicio go iawn ac yn gwneud i hyfforddeion deimlo'n fwy diogel ac yn gallu delio â thraffig ar deithiau cymudo byr neu wrth feicio i'r ysgol. Mae'r hyfforddiant yn bennaf mewn grwpiau bach dros nifer o sesiynau.
Yn datblygu'r sgiliau sylfaenol ac yn hyfforddi beicwyr i wneud siwrneiau mewn amrywiaeth o amodau traffig yn gymwys, yn hyderus ac yn gyson. Bydd beicwyr sy'n cyrraedd y safon Lefel 3 yn gallu delio â phob math o gyflwr ffyrdd a sefyllfaoedd mwy cymhleth.
- Awgrymiadau ar Wisgo'ch Helmed Beicio
- Gwiriad Diogelwch Beicio
- Rheolau ar gyfer beicwyr
I gadw lle ar y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Ffyrdd CnPT