Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Nodyn briffiau ar gyfer trigolion a busnesau Ochr y Gamlas

Diweddariad i breswylwyr a gweithredwyr busnes yn ardal Ochr y Gamlas a'r cyffiniau yn dilyn Storm Dennis a'r llifogydd cysylltiedig

Cyflwyniad a chefndir

Ar 16 Chwefror 2020, roedd llawer o ardaloedd ledled Cymru wedi dioddef tywydd garw difrifol ar ffurf Storm Dennis. Yn anffodus, effeithiwyd ar nifer mawr o safleoedd preswyl a busnes gan lifogydd o ganlyniad i hyn, ac un ardal o'r fath yr effeithiwyd arni'n ddifrifol oedd Ochr y Gamlas. Ers y dyddiad hwnnw, mae awdurdodau llifogydd wedi bod yn archwilio opsiynau i leihau neu hyd yn oed atal llifogydd yn y dyfodol.

Cadarnhawyd hyn mewn cyfarfod a gynhaliwyd â phreswylwyr a gweithredwyr busnes yn y clwb golff ar y 31 Gorffennaf 2020, lle rhoddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymrwymiad i barhau i archwilio'r cyfleoedd hynny a rhoi adborth.

Bwriad y diweddariad hwn yw darparu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad i'r llifogydd a gynhaliwyd yn dilyn y storm, yn ogystal â'r opsiynau y mae CNPT a CNC yn mynd ar eu trywydd ar hyn o bryd.

Ymchwiliad i'r llifogydd

Yn dilyn y storm a'r llifogydd cysylltiedig, cymerodd Castell-nedd Port Talbot, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, gyfrifoldeb am baratoi adroddiad ymchwiliad yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Paratowyd yr adroddiad hwn ar y cyd ag awdurdodau llifogydd eraill gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru (DC). Mae'n ddogfen gyhoeddus ac mae ar gael i breswylwyr Ochr y Gamlas.

Mae adroddiad cynhwysfawr yr ymchwiliad yn cadarnhau bod glawiad wedi cyrraedd uchafbwynt o4.4mm yr awr am 15:00 ar brynhawn Sadwrn gyda lefelau'r afon yn adweithio 4.30 awr ar ôl hynny, gan gyrraedd uchafbwynt am 18:30. Yn anffodus, cyrhaeddodd y glawiad uchafbwynt o 9.8mm yr awr am 23:00 nos Sadwrn ac yna uchafbwynt pellach am 03:00 fore Sul, ac o ganlyniad cododd lefel yr afon i'r uchaf ar gofnod.

Yn ystod y cyfnod hwn, gweithredwyd ymateb amlasiantaeth yn unol â'r Cynllun Ymateb Brys a chynorthwywyd preswylwyr i adael eu heiddo. Yn dilyn y llifogydd, darparwyd cymorth i breswylwyr i helpu gyda'r gwaith glanhau a rhoddwyd iawndal hefyd i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Nododd yr ymchwiliad a ddilynodd fod y llifogydd i'r eiddo wedi dod o sawl ffynhonnell/cyfeiriad sef;

  1. Roedd yr afon yn uwch na'r lan o dan yr A465, ac ar ôl hynny teithiodd dŵr ar hyd y llwybr troed gan lifo i mewn i'r gamlas. Arweiniodd hyn yn ei dro at ddŵr yn mynd yn uwch na waliau'r gamlas ac yn gorlifo eiddo preswyl yn Ochr y Gamlas drwy'r mynedfeydd blaen.
  2. Gorlifwyd y garthffos gyfun gan arwain at fethiant yr orsaf bwmpio a'r gorlwytho cysylltiedig a effeithiodd ar gefn yr eiddo.
  3. Oherwydd y glaw gormodol a'r llifogydd uchod, daeth y tir yn dirlawn a arweiniodd at lefelau dŵr daear yn codi o dan yr eiddo.

O ganlyniad, effeithiwyd ar yr eiddo ar Ochr y Gamlas gan lifogydd o dri chyfeiriad gwahanol.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i amlinellu nifer o gamau gweithredu i'w hystyried gan y gwahanol asiantaethau llifogydd a grynhoir fel a ganlyn:

  1. Y Cynllun Ymateb i Ddigwyddiadau Llifogydd i'w adolygu a'i ddiweddaru lle bo angen.
  2. Cynhelir cyfarfod gyda'r holl randdeiliaid cyfrifol i drafod opsiynau lliniaru llifogydd yn y dyfodol.
  3. DC i ystyried gweithredu unrhyw argymhellion y cytunwyd arnynt.
  4. CNC i ystyried gweithredu unrhyw argymhellion y cytunwyd arnynt.
  5. CADW i ystyried gweithredu unrhyw argymhellion y cytunwyd arnynt.

O ganlyniad i'r adroddiad hwn, mae nifer o gamau gweithredu wedi'u cwblhau sydd i'w gweld isod:

Y diweddaraf ar gamau gweithredu

  1. Cynhaliwyd cyfarfod amlasiantaeth ar y safle gyda phreswylwyr ar y 31 Gorffennaf 2020 i gasglu pryderon preswylwyr ac ystyried opsiynau posib i fynd i’r afael â'r pryderon hyn. Trefnwyd cyfarfod dilynol ar 16 Hydref i drafod cynnydd.
  2. Mae'r Cynllun Gadael mewn Argyfwng wedi'i adolygu a'i ddiweddaru. Darparwyd copi i'r holl wasanaethau brys perthnasol a bydd copi cyhoeddus yn cael ei anfon i breswylwyr yn y man.
  3. Cynhaliwyd cyfarfod ar 7Hydref yr aeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyngor Castellnedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, a Cadw iddo. Yn y cyfarfod hwnnw cytunwyd ar y canlynol fel opsiynau a fyddai'n cael eu hystyried ymhellach:
    • a. Bydd CNPT yn chwilio am leoliad i osod cynhwysydd storio yn Ochr y Gamlas nad yw'n rhwystro mynediad i breswylwyr a'r gwasanaethau brys nac yn gwaethygu llifogydd. Bydd y cynhwysydd hwn yn llawn bagiau tywod a throli i symud y bagiau tywod. Bydd clo cyfunol ar y cynhwysydd, y rhoddir ei fanylion i'r preswylwyr. I'w gwblhau cyn 31Hydref 2020.
    • b. Mae'r is-adran ddraenio yn CNPT yn ceisio cyllid ychwanegol i ehangu nifer y swyddogion sydd ar gael wrth gefn pan fydd gwybodaeth yn cadarnhau y rhagwelir storm. Bydd y swyddogion hyn yn cefnogi gweithredu'r Cynllun Argyfwng yn ogystal â chefnogi'r rheini y gallai'r cyfnodau cyn ac ar ôl y llifogydd effeithio arnynt.
    • c. Bydd CNC yn trafod â phreswylwyr ac yna'n archwilio i'r posibilrwydd o gael gafael ar ymgynghorwyr allanol i arolygu ac o bosib weithredu datrysiad ar lefel eiddo a allai gynnwys gatiau llifogydd a mesurau lliniaru priodol eraill. Byddai hyn yn cynnwys mewnbwn gan DC o ystyried y gorlwytho ychwanegol a brofwyd yn flaenorol gan breswylwyr. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod cyllid ar gael i ymgymryd â'r darn hwn o waith. Bydd y gwaith caffael hwn yn cymryd 3 i 4 mis.
    • ch. Bydd CNC yn ystyried gwaith i godi lefel y llwybr troed ger yr A465. Gallai hyn gynnwys cynnydd cyfyngedig yn y dŵr sydd yn sianel yr afon am fwy o amser. Os caiff ei weithredu, gallai'r gwaith hwn fod wedi'i gwblhau o fewn ychydig fisoedd.
    • d. Bydd CNC yn datblygu Achos Amlinellol Strategol (AAS) a fydd yn asesu dichonoldeb opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd i Aberdulais. Mae'r gwaith o lunio'r AAS wrthi'n cael ei gomisiynu gan Dîm Cyflawni Prosiectau CNC a rhagwelir y caiff ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.