Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol

Menter Iechyd Cyhoeddus Cymru yw NERS i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith y rhai sydd ar hyn o bryd yn anweithgar neu y mae ganddynt gyflyrau meddygol penodol. Ystyr NERS yw National Exercise Referral Scheme.

Efallai y bydd eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol yn credu y byddech yn elwa o fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Er mwyn eich cefnogi i adeiladu mwy o weithgaredd yn eich bywyd, efallai y byddwch am gymryd rhan yn y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff. Fel rhan o'r rhaglen hon, cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn nifer o sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rydym yn deall nad yw pawb yn teimlo'n gysurus mewn campfeydd traddodiadol. Felly, er mwyn sicrhau apêl eang, bydd y cynllun hwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn nifer o leoliadau gwahanol.

Bydd pob rhaglen o weithgarwch wedi'i dylunio i fod yn addas i anghenion y claf unigol a bydd bob amser dan oruchwyliaeth hyfforddwr NERS. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a roddir i hyfforddwyr NERS yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Cost pob sesiwn yw £2.00

  • Tai Chi
  • Gampfa a Chylchedau
  • Nofio
  • Cwrs bwyta'n iach
  • Pilates

Mae hefyd gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau arbenigol e.e. ymarfer corff yn dilyn strôc, adsefydlu cardiaidd, adsefydlu ysgyfeiniol.

Mae wedi'i brofi bod ymarfer corff yn gwella iechyd pobl mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae'n lleihau'r risg o glefyd y galon, mae'n iselhau pwysedd gwaed ac yn helpu gyda cholli pwysau. Hefyd, gall helpu i leihau straen, gofid ac iselder, gan wella teimlad o les y cyfranogwyr o ganlyniad.

Bydd cynllun NERS yn cynnig cyfle i brofi o leiaf ddwy sesiwn weithgarwch bob wythnos.

Pan fyddwch yn dilyn y rhaglen ymarfer corff, bydd gweithiwr proffesiynol sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn cysylltu â chi i'ch gwahodd am ymgynghoriad. Yn yr ymgynghoriad hwn, bydd y gweithiwr proffesiynol yn cael ychydig mwy o wybodaeth am eich hanes iechyd a helpu i ddewis rhaglen o ymarfer corff sy'n addas i chi, dosbarthiadau a fydd yn ddifyr a'ch helpu i wella'ch iechyd. Byddwch yn gallu cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd a bydd y rhain ar gael i chi am 16 wythnos y rhaglen. Ar ôl 16 wythnos, byddwch yn cyfarfod â gweithiwr proffesiynol ymarfer corff eto i helpu i gytuno ar gynllun ar gyfer parhau i ymarfer.

Ewch at eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall a ddylai allu rhoi'r wybodaeth berthnasol i chi. Fel arall, cysylltwch â chydlynwyr y rhaglen:

Lisa Jones / Claire Jones
NERS
Parc Gwledig Margam
Port Talbot
SA13 2TJ

Ffôn: 01639 861144
E-bost: l.jones9@npt.gov.uk / c.m.jones1@npt.gov.uk

Cydlynydd Prosiect NERS:

Lisa Jones / Claire Jones
NPT NERS
Parc Gwledig Margam
Port Talbot
SA13 2TJ

Ffôn: 01639 861144
E-bost: l.jones9@npt.gov.uk / c.m.jones1@npt.gov.uk