Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

myNPT – Cyfrif Dinesydd

Rydym yn chwilio am drigolion o'r Panel Dinasyddion a hoffai brofi platfform digidol newydd yr ydym yn ei ddatblygu.

Mae'r platfform yn gyfrif personol i drigolion gael mynediad at wasanaethau'r cyngor.

Enghreifftiau o bethau y gallech eu gwneud o fewn y cyfrif:

  • gweld diwrnodau casglu biniau a chofrestru ar gyfer hysbysiadau
  • gweld dyddiadau tymhorau, diwrnodau HMS a manylion eraill ar gyfer eich ysgol ddewisol
  • gweld manylion cynghorwyr
  • derbyn diweddariadau ar geisiadau gwasanaeth
  • gweld cynigion gan fusnesau lleol

Rydym am sicrhau bod y gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio ac yn diwallu eich anghenion.

Bydd profion yn cynnwys defnyddio'r gwasanaeth a rhoi eich adborth i ni arno.

Gall hyn fod drwy gyfuniad o:

  • cyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • rhith-gyfarfodydd a
  • arolygon dilynol

Hoffem roi’r cyfle cyntaf i’r panel dinasyddion i roi’r cyfrif ar brawf. Bydd eich adborth yn gwella ein cyfrif cyn ei wneud yn fyw i'r cyhoedd. Bydd hefyd yn creu syniadau ar gyfer datganiadau i'r dyfodol.

Os hoffech gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb.