Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau Cyffredin

Mae croeso i chi ddarllen y cwestiynau a’r atebion canlynol am dirlithriad Pant-teg.

Rydym wedi rhestru’r 10 prif gwestiwn ac mae gweddill y cwestiynau ar gael i’w lawrlwytho isod:

10 prif gwestiwn ac ateb Pant-teg

Mae'r tirlithriadau'n gysylltiedig â daeareg leol yn bennaf, ond mae cysylltiad hefyd â glawiad uchel.

Mae tystiolaeth hefyd y gallai gweithgarwch cloddio glo a chwarela hanesyddol fod wedi chwarae rhan.

Mae deunydd gwan yn yr ardal o ganlyniad i lithriadau hanesyddol.

Mae serthrwydd y dopograffeg hefyd yn ffactor.

Ar hyn o bryd, mae teras o ddeg tŷ lle mae hyd at 20 o breswylwyr yn byw wedi bod yn destun hysbysiadau gwahardd. Mae pobl yn dal i fyw mewn dau o'r tai hyn, yn groes i ofynion yr hysbysiadau gwahardd.

Bydd unrhyw gamau gweithredu pellach a gymerir gan y cyngor yn seiliedig ar gyngor arbenigol a thystiolaeth empirig.

Nid yw'r cyngor yn credu bod cartrefi y tu allan i'r ardal berygl ddynodedig mewn perygl. Fodd bynnag, mae ein hasesiad yn mynd y tu hwnt i'r parth perygl presennol i sicrhau ein bod yn cynyddu ein gwybodaeth am y risg i'r eithaf.

Datblygwyd y Map Risg o Beryglon i gadarnhau maint y risg i eiddo preswyl.

Mae'r map wedi cael ei ddiwygio a'i ddiweddaru i sicrhau ei gywirdeb dros y blynyddoedd. Byddwn yn parhau i'w ddiweddaru gan ystyried canlyniad ymchwiliadau pellach.

Cysylltwyd yn uniongyrchol â phreswylwyr y deg tŷ y mae'r hysbysiadau gorfodi'n effeithio arnynt yn ysgrifenedig, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Ysgrifennwyd at bob perchennog a phreswyliwr y tai yn y Parth Risg o Beryglon presennol i ddweud wrthynt am gyfarfod cyhoeddus ar 7 Medi lle bydd y cyngor yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r preswylwyr.

Sefydlwyd llinell gymorth (01639) 686288 a chyfeiriad e-bost dynodedig pantteg@npt.gov.uk i dderbyn galwadau ac ymholiadau gan breswylwyr. Atebir y llinell gymorth yn ystod oriau swyddfa (8.30am – 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am – 4.30pm ar ddydd Gwener). Bydd peiriant ateb yn recordio unrhyw alwadau a dderbynnir y tu allan i'r oriau hynny. Ymatebir i negeseuon o fewn 24 awr yn ystod yr wythnos waith.

Sefydlwyd tudalen Pant-teg ar wefan y cyngor sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Mae cynghorwyr lleol yn sicrhau cyswllt ychwanegol rhwng y preswylwyr ac adrannau amrywiol y cyngor sy'n ymwneud â'r broses hon.

Mae'r cyngor wedi bod yn archwilio'r ardal am nifer o flynyddoedd. Cynhaliwyd ymchwiliadau ac asesiadau'n rheolaidd ers 2012.

Fodd bynnag, mae nifer y tirlithriadau wedi cynyddu'n ddiweddar, gyda phedwar digwyddiad ar wahân yn ystod y deuddeng mis diwethaf.

Ar ben hynny, daeth dau asesiad ac adroddiad annibynnol gan arbenigwyr i'r casgliad nad oes modd sefydlogi'r system dirlithriad gyffredinol.

Mae'r ddau ddigwyddiad diweddar hyn wedi golygu bod y cyngor wedi newid ei farn oherwydd na allwn gadarnhau y bydd yn ddiogel i breswylwyr yn yr ardal aros yn eu cartrefi.

Mae'r cyngor wedi bod yn archwilio'r ardal am nifer o flynyddoedd a chynhaliwyd ymchwiliadau yn yr ardal.

Dros y cyfnod hwn, cyflogwyd sawl ymgynghorwr i gynghori'r cyngor a lluniwyd adroddiadau ac asesiadau annibynnol amrywiol.Yn dilyn y tirlithriad yn 2012, ysgrifennwyd a chyhoeddwyd adroddiad o'r enw adroddiad Jacob (Rhagfyr 2013) ac mae hwn ar ein gwefan. Lluniwyd adroddiad arall gan yr ymgynghoriaeth Earth Science Partnership ym mis Medi 2016, a gaiff ei gyhoeddi ar ôl y cyfarfod cyhoeddus. Mae'r yn parhau i fonitro ardal y tirlithriad ac mae yn y broses o ddiweddaru'r map Parth Peryglon i'r cyngor o ganlyniad i hyn.

Datblygwyd y Map Risg o Beryglon i gadarnhau maint y risg i eiddo preswyl - diwygiwyd a diweddarwyd hwn i sicrhau ei gywirdeb dros y blynyddoedd.

Mae trefn fonitro o ran lefelau dŵr daear a symudiad yr wyneb ar waith. Defnyddir offer monitro sydd wedi'u rhoi mewn tyllau turio presennol a newydd a grëwyd ar draws ardal Pant-teg. Bydd yr offer hyn yn nodi newidiadau mewn lefelau dŵr daear yn ogystal â symudiadau'r ddaear. Cynhelir arolygon LiDAR hefyd a fydd yn mapio'r ardal ar hyn o bryd. Gwneir ail arolwg o'r ardaloedd hyn yn gynnar y flwyddyn nesaf i gadarnhau a gafwyd unrhyw symudiad tir a ble cafwyd hyn.

Mae'r cyngor wedi clustnodi £440k i fonitro'r tirlithriad, gwella'r draeniad ac ailadeiladu waliau cynnal dros y tair blynedd nesaf.

Nid yw'r cyngor yn credu bod cartrefi y tu allan i'r ardal beryglon ddynodedig mewn perygl. Er hynny, mae'r gwaith asesu a wneir ar hyn o bryd yn edrych ar ardal ychydig yn fwy na'r hyn a fapiwyd yn flaenorol ar y Map Parth Peryglon. Bwriad hyn yw casglu cymaint o ddata â phosib i nodi'n glir a yw'r ardal risg o beryglon wedi newid dros amser.

Datblygwyd y Map Risg o Beryglon i gadarnhau maint y risg i eiddo preswyl yn yr ardal.

Mae'r map wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru i sicrhau ei gywirdeb dros y blynyddoedd ac rydym yn parhau i'w ddiweddaru o ystyried digwyddiadau diweddar.

Mae dyletswydd ar y cyngor i ddiogelu preswylwyr rhag niwed.

Mae'r gwaith monitro ac asesu sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd wedi categoreiddio eiddo, isadeiledd a thir i ardaloedd perygl uchel, canolig ac isel. Bydd dadansoddiad meintiol ychwanegol yn ein hysbysu a fydd preswylwyr yn gallu aros yn ddiogel yn eu cartrefi neu beidio.

Rydym wedi clirio ac ailbroffilio'r ardal yr oedd tirlithriad 2012 wedi effeithio arni, yn ogystal â chlirio coed a chynnal a chadw draeniau'r briffordd. Rydym wedi canolbwyntio'n hymdrechion ar fonitro'r briffordd, systemau draenio cysylltiedig a waliau cynnal. Rydym hefyd wedi gosod offer monitro'n ddiweddar mewn tyllau turio newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli ar dir y cyngor a thrwy gytundeb â pherchnogion ar beth tir preifat i fesur dŵr daear a symudiadau daear. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolygon LiDAR - gwnaed gwaith newydd yn dilyn pob adroddiad newydd a dderbyniom.

Ym 1987 ac 1989, o ganlyniad i adroddiadau ar dirlithriadau Pant-teg a Godre’r-graig a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw gynt, lluniwyd Cynllun Asesu Risgiau a Pheryglon.

Ym 1997, yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, cynhaliodd Castell-nedd Port Talbot ei adolygiad ei hun o ardaloedd y tirlithriadau ac arweiniodd hyn at lunio Map Parth Risg o Beryglon newydd.

Yn dilyn tirlithriad ym mis Rhagfyr 2012, comisiynodd Castell-nedd Port Talbot Jacobs Engineering UK i adolygu a diweddaru'r asesiad risg a oedd yn bodoli o ardaloedd y tirlithriadau. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Ionawr 2014 ac roedd yn cynnwys Map Risg o Beryglon wedi'i ddiweddaru.

Roedd yr adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad ar gyfer mesurau lleihau risg, y cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu rhoi ar waith. Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell asesiad meintiol arall gan gynnwys rhoi systemau ar waith i gofnodi ac asesu cyfraddau symudiad tir.

Yn 2015, comisiynwyd yr ymgynghoriaeth Earth Science Partnership gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynnal asesiad geodechnegol a chynghorir y cyngor ar ddulliau asesu meintiol a threfn monitro ac asesu addas ar gyfer ardal y tirlithriad.

Roedd yr adroddiad (2016) yn argymell datblygu strategaeth reoli ffurfiol yn seiliedig ar fonitro ac asesu data meintiol yn y tymor hir, megis lefelau dŵr daear a data topograffig o arolygon LiDAR (techneg sy'n defnyddio golau laser i fonitro symudiadau'r ddaear a'r wyneb).

Mae'r argymhellion i ddatblygu strategaeth reoli ffurfiol ar gyfer ardal y tirlithriad yn cael eu rhoi ar waith; er enghraifft, mae tyllau turio wedi'u cloddio ac mae cofnodwyr data'n casglu gwybodaeth hanfodol o'r offer sydd ynddynt ac mae arolwg cyntaf LiDAR wedi'i gwblhau.

Nid yw'r cyngor yn barod i aros i ddamwain ddigwydd.

Yn seiliedig ar archwiliadau o'r safle, gwybodaeth am y tirlithriad ehangach. geomorffoleg y llethrau i'r dwyrain o Heol Cyfyng a'r gwaith diweddar i fonitro dŵr daear yn dilyn stormydd Doris (mis Chwefror 2017), ystyrir ei bod n debygol y bydd y tir yn symud yn y tymor byr a chanolig, gan ddadsefydlogi'r adeiladau a'r ardaloedd cyfagos o bosib. Oherwydd agosrwydd y diffygion tir hyn i bobl ac eiddo, ystyrir bod risg dybryd i'r rheini (tebygolrwydd uchel, effaith sylweddol).

Dyna pam rydym yn cymryd camau gweithredu rhagweithiol yn hytrach na chamau gweithredu ymatebol.