Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Diweddariad ynghylch ysgol gynradd Godre’r Graig - 22 Awst 2019

Mae cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig i ddosbarthiadau dros-dro yn eu hardal benodedig eu hunain yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn debygol o fod yn barod erbyn wythnos gyntaf mis Medi.

Clywodd cyfarfod o Weithlu Ysgol Gynradd Godre’r Graig y Cyngor sut mae gweithwyr yn gweithio shifftiau 12 awr o hyd yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe er mwyn cwblhau tasgau fel gosod ceblau data, gosod systemau trydanol, gorffen lloriau a gwneud gwaith saer ar y dosbarthiadau dros-dro wrth iddyn nhw gael eu cyflenwi gan y contractwyr.

Cyrhaeddodd y dosbarth dros-dro cyntaf ar y safle ddydd Gwener diwethaf (16 Awst), cyrhaeddodd yr ail ar ddydd Mawrth, 20 Awst; mae’r trydydd yn cyrraedd ar ddydd Iau 22 Awst a dylai’r pedwerydd gyrraedd ar ddydd Mawrth 27 Awst. Mae'r uned gyntaf o’r pedair eisoes yn ei lle ac yn dal dŵr.

Disgwylir i Western Power droi’r pŵer ymlaen ar y safle ddydd Gwener (23 Awst) a chymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith.

Erbyn hyn mae trefniadau teithio ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig (ynghyd â’r disgyblion meithrin) wedi cael eu cwblhau, a bydd rhieni’n derbyn llythyron oddi wrth y Cyngor erbyn dydd Mawrth nesaf, sy’n cynnwys gwybodaeth am y llwybrau a’r amserlenni newydd, ynghyd â ble i ddal y bws.

Bydd prydau ysgol yn cael eu darparu i ddisgyblion trwy gyfleusterau arlwyo ysgol gymunedol Cwmtawe. Ni fydd Clwb Brecwast ar gael i ddisgyblion Godre’r Graig dros y misoedd cyntaf oherwydd anawsterau trefnu, ond byddan nhw’n derbyn byrbryd ganol bore.

Os oes cwestiynau gan rieni neu unrhyw un arall a effeithir gan y trefniadau newydd, dylent gysylltu â Cyfeiriad e-bost penodedig y Cyngor ar gyfer materion yn ymwneud â Godre’r Graig: godrergraig@npt.gov.uk