Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Polisi Diogelu Corfforaethol

Cyflwyniad

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion yn flaenoriaeth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn nodi dyletswydd ac ymrwymiad y cyngor i ddiogelu a hyrwyddo iechyd, lles a hawliau dynol oedolion a phlant sydd mewn perygl.

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob gwasanaeth yn y cyngor sy'n nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae'n nodi'r dulliau a ddefnyddir gan y cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau a bod arferion effeithiol ar waith i gefnogi unigolion i fyw eu bywydau heb niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys cynghorwyr, gwirfoddolwyr a phawb sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor, er enghraifft gweithwyr asiantaeth neu gontractwyr a hefyd ddarparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd gan y cyngor. Fodd bynnag, nid yw'n berthnasol i'r staff hynny a gyflogir yn uniongyrchol gan gyrff llywodraethu sy'n gweithio mewn ysgolion, lle mae polisi diogelu ac amddiffyn plant ar wahân yn berthnasol.

Mae diogelu yn fusnes i bawb p'un a ydynt yn gweithio i'r cyngor, neu ar ei ran.

Amcanion y polisi hwn

  • Nodi sut y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyflawni ei rwymedigaethau tuag at ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl;
  • Rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, cynghorwyr, gweithwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor bod trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Egwyddorion

  • Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot mae 'cydraddoldeb' wrth wraidd popeth a wnawn. Ystyr cydraddoldeb yw deall a mynd i'r afael â rhwystrau fel bod pawb yn cael cyfle teg i gyflawni'u potensial.
  • Mae'r cyngor yn ymrwymedig i arferion sy'n amddiffyn oedolion a phlant rhag niwed ni waeth beth yw eu hoedran, rhyw, anabledd, treftadaeth hiliol, cred grefyddol, tueddfryd rhywiol neu unrhyw nodwedd warchodedig arall fel a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  • Mae gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i gymryd rhan mewn cymdeithas ddiogel heb unrhyw drais, ofn, camdriniaeth, bwlio na gwahaniaethu.
  • Mae hawl gan bob plentyn ac oedolyn i gael ei ddiogelu rhag niwed, esgeulustod, ecsbloetio a chamdriniaeth.
  • Mae gan bob cynghorydd, gweithiwr, gwirfoddolwr a phawb sy'n gwneud gwaith i'r cyngor neu gyda'r cyngor gyfrifoldeb dros amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulusod a gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu budd gorau.
  • Bydd y cyngor yn buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar ac yn ymdrechu i atal sefyllfaoedd rhag codi lle gall camdriniaeth, esgeulustod neu niwed ddigwydd

Cwmpas

Er bod Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn arwain ar ymdrin ag ymholiadau ynghylch pryderon y gall unigolion fod mewn perygl o niwed, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles oedolion a phlant a all fod mewn perygl beth bynnag fo'u rôl. Mae'r polisi hwn yn ymdrin â holl swyddogaethau a gwasanaethau'r cyngor ac yn berthnasol i holl weithwyr y cyngor, aelodau etholedig, gofalwyr maeth, unigolion sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar ran y cyngor, gan gynnwys contractwyr annibynnol.

Mae gan y cyngor ddyletswydd hefyd i sicrhau bod sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan yn ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion a phlant.

Bydd y cyngor yn gweithio i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n diffinio:

  • Plentyn sydd mewn perygl fel plentyn sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, ac;
  • Mae ganddo anghenion gofal a chymorth p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio.
  • Oedolyn sydd mewn perygl yw oedolyn sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin neu esgeulustod ac;
  • Mae ganddo anghenion gofal a chymorth p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio;
  • O ganlyniad i'r anghenion hynny, nid yw'n gallu amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso na'r risg ohonynt.

Deddfwriaeth, polisi ac arweiniad perthnasol

Mae deddfwriaeth sydd wedi'i chynnwys yn y gwahanol ddeddfau a chanllawiau a nodir isod yn ymgorffori'r hawl i gael eich amddiffyn rhag camdriniaeth. Y man cychwyn cyfreithiol wrth gyflawni'r amcan hwn yw dyletswydd gweithwyr proffesiynol i adrodd am honiadau o gam-drin ac esgeulustod. Mae'r gyfraith hefyd yn nodi mai'r awdurdod lleol yw'r sefydliad arweiniol wrth wneud ymholiadau i nodi a yw unigolyn mewn perygl ac wrth gydlynu'r ymateb i amddiffyn. Yn ymarferol, ni chyflawnir hyn byth ar wahân neu heb arweinyddiaeth glir ac atebolrwydd am y gwaith sydd hefyd wedi'i nodi yn y gyfraith, ynghyd â'r ddyletswydd i gydweithredu a chydweithio ag eraill.

Mae'r cyngor yn cydnabod bod arfer da ym maes diogelu yn dwyn ynghyd yr holl weithgarwch sydd â'r nod o hyrwyddo arfer diogel gyda grwpiau diamddiffyn ac atal camdriniaeth ac esgeulustod. Am y rheswm hwn, ac oherwydd bod y gyfraith, polisi, arweiniad a rheoliadau yn newid o bryd i'w gilydd, mae'n amhosib darparu rhestr gynhwysfawr o ddogfennau perthnasol ond mae'r eitemau mwyaf arwyddocaol isod:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Addysg 2002 – yn ogystal â "Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 201" – Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchenogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002.
  • Deddf Plant 1989 a 2004
  • Adran 17 o Ddeddf Troseddu ac Anhrefn 1998
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  • Deddf Tai 2004
  • Deddf Trwyddedu 2003
  • Deddf Hawliau Dynol 1998

Bydd y cyngor yn sicrhau bod arfer yn cydymffurfio â'r polisïau a'r gweithdrefnau canlynol:

Dylai gweithwyr a chynghorwyr hefyd weithredu yn unol â'r Côd Ymddygiad proffesiynol perthnasol.

Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau a nodwyd eisoes mewn deddfwriaeth, polisi neu arweiniad a nodir uchod.

Y Cyd-destun Strategol

Ar lefel strategol, mae'r ymagwedd hon o ddiogelu yn cefnogi'r gwaith o gyflawni tri amcan lles y cyngor, fel y nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2019-2022

Ar lefel Cymru gyfan, mae cadw pobl yn ddiogel yn cyfrannu at y nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru

Llywodraethu

Bydd y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu statudol strategol drwy Arweinwyr Diogelu Dynodedig ym mhob un o gyfarwyddiaethau'r cyngor. Bydd yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig hyn yn cynrychioli eu cyfarwyddiaeth yn y Grŵp Diogelu Corfforaethol ac yn gweithredu fel cyfrwng i ledaenu gwybodaeth ddiogelu gan yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig.

Mae gan yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig gyfrifoldebau adrodd i’r Grŵp Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pwyllgor y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu perthnasol.

Yn ogystal, mae gan y cyngor rôl fel Partner Arweiniol ac aelod o Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg (WGSB).

Mae'r bwrdd yn gweithio i amddiffyn a diogelu oedolion a phlant, ac mae'n bartneriaeth statudol amlasiantaethol sy'n gyfrifol am:

  • Amddiffyn plant sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin, esgeulustod neu fathau eraill o niwed ac atal plant rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed.
  • Amddiffyn oedolion ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio), ac sy'n dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin neu esgeulustod. Atal yr oedolion hynny rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae gan y bwrdd ddyletswydd statudol i ddatblygu Cynllun Blynyddol ar sail ranbarthol ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros herio asiantaethau perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Rolau a Chyfrifoldebau

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 mae gan bob gweithiwr, cynghorydd a gwirfoddolwr ddyletswydd i adrodd am bryderon am achosion o gam-drin ac esgeulustod.

Mae ysgolion ar draws yr awdurdod lleol yn defnyddio polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant enghreifftiol a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. Mae pob ysgol yn personoli'r polisi enghreifftiol i'w wneud yn benodol iddynt. Mae'r polisi enghreifftiol yn seiliedig ar ddeddfwriaeth sy'n benodol i ysgolion, canllawiau Llywodraeth Cymru a'r polisi enghreifftiol ar gyfer Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon newydd am blant, a'r Gwasanaethau i Oedolion sy'n gyfrifol am dderbyn ac ymateb i bryderon newydd am oedolion sydd mewn perygl. Dylid rhoi gwybod i Dîm Pwynt Cyswllt Unigol Castell-nedd Port Talbot (PCU) am unrhyw bryderon diogelu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys pryderon am weithiwyr proffesiynol neu bobl sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.

Mae pob rheolwr yn gyfrifol am:

  • Recriwtio gweithwyr/gwirfoddolwyr/gweithwyr asiantaeth yn ddiogel yn unol â'r polisi Adnoddau Dynol perthnasol, drwy sicrhau bod yr holl wiriadau cyn cyflogaeth/sgrinio gofynnol, gan gynnwys y gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd priodol (lle bo'n berthnasol), yn cael eu cwblhau'n foddhaol cyn eu bod yn dechrau yn eu rolau.
  • Sicrhau bod diogelu bob amser yn cael ei gynnwys yn sesiynau sefydlu pob gweithiwr/gwirfoddolwr.
  • Nodi gweithwyr/gwirfoddolwyr/gweithwyr asiantaeth sy'n debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sydd mewn perygl fel rhan o'u rôl.
  • Sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu sy'n gymesur â'r rôl.
  • Sicrhau bod yr holl weithwyr/gwirfoddolwyr yn ymwybodol o sut i roi gwybod am bryderon diogelu ac i bwy.
  • Sicrhau bod yr holl weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithwyr asiantaeth yn ymwybodol o Bolisi Datgelu Camarfer y cyngor.
  • Sicrhau bod yr holl weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithwyr asiantaeth yn ymwybodol bod yn rhaid iddynt ymddwyn mewn modd sy'n diogelu ac yn hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl.
  • Rhoi arweiniad i weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithwyr asiantaeth am bryderon diogelu yn ôl yr angen.

Bydd Comisiynwyr Gwasanaethau yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau cytundebol yn pennu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu yn unol â'r polisi hwn a'r Polisi Comisiynu presennol.

Contractwyr, is-gontractwyr neu sefydliadau eraill a ariennir gan neu ar ran y cyngor sy'n gyfrifol am gwblhau'r gwiriadau sgrinio gofynnol sy'n cynnwys gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (lle bo angen), ac am sicrhau bod eu staff yn cydymffurfio â threfniadau rheoleiddio a chytundebol sy'n ymwneud â diogelu plant ac oedolion. Mae contractwyr hefyd yn gyfrifol am roi gwybod i reolwyr perthnasol y cyngor am unrhyw bryderon sydd ganddynt a chyfeirio pryderon diogelu o'r fath at y tîm PCU neu’r Tîm Porth.

Bydd yn ofynnol i bob Aelod Etholedig gael hyfforddiant mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl ac anghenion hyfforddi diogelu ychwanegol.

Mae'r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol - Arweinydd y Cyngor yn gweithredu fel "hyrwyddwr" ar gyfer Diogelu Corfforaethol. Bydd yr Aelod Arweiniol yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o uwch swyddogion yn yr awdurdod, ac yn cael cyngor proffesiynol ganddynt, fel y bo'n briodol. Bydd yr Aelod Arweiniol yn cysylltu ac yn ymgynghori ag aelodau eraill y Cabinet ar faterion unigol sy'n debygol o effeithio ar eu portffolios fel y nodir yng Nghynllun Dirprwyo'r cyngor.

Bydd pob Cyfarwyddwr Gwasanaeth drwy ei Dimau Rheoli yn gyfrifol am sicrhau yr eir i'r afael â'r holl ofynion statudol o ran diogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Maent hefyd yn gyfrifol am roi systemau priodol ar waith yn eu meysydd gwasanaeth sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi hwn:

  • Sicrhau y cyflwynir hyfforddiant priodol.
  • Cyfleu gwybodaeth am bwy y mae angen i staff gysylltu â nhw a sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd fel ei bod yn gyfoes ac yn gywir.
  • Llunio adroddiad mewn perthynas â'u trefniadau diogelu a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y Prif Swyddog dros Ddiogelu Oedolion a Phlant, a Phennaeth Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc ac Oedolion, yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Statudol y cyngor ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod trefniadau effeithiol i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ar draws y cyngor. Yn benodol er mwyn:

  • Monitro'r broses o weithredu a chydymffurfio â'r polisi hwn ar draws y cyngor
  • Sicrhau bod rhaglen hyfforddiant diogelu corfforaethol ar waith
  • Nodi llinellau atebolrwydd clir
  • Sicrhau bod Arweinwyr Diogelu Dynodedig ym mhob maes gwasanaeth
  • Sicrhau bod y cyngor yn gweithredu Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn
  • Sicrhau bod adroddiadau gwasanaeth blynyddol yn cael eu paratoi
  • Sicrhau bod yr adroddiad diogelu corfforaethol blynyddol ar gyfer craffu yn cael ei gyflawni

Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyflawnir y rôl hon, fel y'i diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol CNPT sy'n atebol yn ddiwahân ac yn derfynol am ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion. Bydd yr adroddiadau gwasanaeth blynyddol yn gyfle i herio ac fe'u defnyddir i lywio Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol ar waith, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau, bod y polisïau a'r gweithdrefnau hynny'n cael eu gweithredu, bod trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith a bod yr holl ofynion statudol yn cael eu bodloni.

Cydnabod a chodi pryderon am oedolyn neu blentyn lle’r amheuir camdriniaeth neu esgeulustod

Dylai pob gweithiwr fod yn effro i'r posibilrwydd o gamdriniaeth. Efallai y bydd unigolyn yn pryderu am ddiogelwch neu les unigolyn mewn nifer o ffyrdd:

  • Gall y person ddweud wrthych.
  • Gall y person ddweud rhywbeth sy'n eich poeni.
  • Gall trydydd parti fynegi pryderon.
  • Efallai y gwelwch rywbeth – digwyddiad neu anaf neu arwydd arall.

Er y bydd aelodau, gweithwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau dan gontract Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cael lefelau amrywiol o gyswllt ag oedolion a phlant sydd mewn perygl fel rhan o'u hymgysylltiad â'r cyngor, dylai pawb fod yn ymwybodol o'r dangosyddion posib o gam-drin ac esgeuluso a bod yn glir ynghylch beth i'w wneud os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Nid cyfrifoldeb unrhyw un unigolyn yw penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd ai peidio neu a yw unigolyn mewn perygl o niwed; fodd bynnag, mae ganddynt gyfrifoldeb i weithredu os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Rhoi gwybod am bryder

Dylai unrhyw weithiwr/gwirfoddolwr sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn neu oedolyn, neu ymddygiad gweithiwr proffesiynol neu berson mewn sefyllfa o ymddiriedaeth tuag at blentyn neu oedolyn, (gweler atodiad 1) gysylltu â’r PCU ar unwaith.

Rhoi gwybod am bryderon am blant ac oedolion:

Ffôn: 01639 686803 neu e-bostiwch spoc.npt.gov.uk

Mae'r Tîm Dyletswydd Brys yn gweithredu rhwng: 5.30pm i 1.30am (Dyddiau'r Wythnos) 9am i 1.30am (dydd Sadwrn/dydd Sul/Gwyliau Banc)
Ffôn: 01639 895455

Os ystyrir bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol, rhaid cysylltu â'r gwasanaethau brys (Yr Heddlu, Ambiwlans, Tân ac Achub) ar unwaith.

Mae Arweiniad Diogelu mewn Cyflogaeth i Reolwyr (ac eithrio staff mewn ysgolion) i'w weld ar y fewnrwyd (dan Recriwtio Diogel).

Ceir gwybodaeth fanylach ar wefan Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg.

Atodiad 1

Beth yw Cam-drin?

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Adran 7)

Mae adran 197(1) o'r Ddeddf yn darparu diffiniadau o "gamdriniaeth" ac "esgeulustod":

ystyr "cam-drin" yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae'n cynnwys cam-drin sy'n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall), ac

mae "cam-drin ariannol" yn cynnwys cael arian neu eiddo arall wedi'i ddwyn; twyllo; rhoi pwysau ar bobl o ran arian neu eiddo arall; camddefnyddio arian neu eiddo arall;

ystyr "esgeulustod" yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy'n debygol o arwain at nam ar les y person (er enghraifft, nam ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, nam ar ddatblygiad y plentyn)

Mae'r canlynol yn rhestr anghyflawn o enghreifftiau ar gyfer pob un o'r categorïau cam-drin ac esgeuluso:

  • Cam-drin Corfforol – taro, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth ormodol neu sancsiynau amhriodol;
  • Cam-drin Rhywiol – trais rhywiol neu weithredoedd rhywiol nad yw'r person wedi cydsynio iddynt neu na allent gydsynio iddynt a/neu y rhoddwyd pwysau arnynt i gydsynio;
  • Cam-drin Seicolegol – bygythiadau o niwed neu adawiad, rheolaeth gorfodol, cywilydd, cam-drin geiriol neu hiliol, unigedd neu dynnu'n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol; mae rheolaeth gorfodol yn weithred neu'n batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, cywilyddio a brawychu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr;
  • Esgeulustod – methu â chael gafael ar ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulustod yn wyneb cymryd risgiau, methu â rhoi meddyginiaeth bresgripsiwn, methu â chynorthwyo mewn hylendid personol neu ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeulustod emosiynol;
  • Cam-drin Ariannol mewn perthynas â phobl y gall fod ganddynt anghenion gofal a chymorth:
    • Newid annisgwyl i'w hewyllys;
    • Gwerthu neu drosglwyddo cartref yn sydyn;
    • Gweithgarwch anarferol mewn cyfrif banc;
    • Cynnwys enwau ychwanegol yn sydyn ar gyfrif banc;
    • Nid yw llofnod yn debyg i lofnod arferol y person;
    • Amharodrwydd neu bryder gan y person wrth drafod ei faterion ariannol;
    • Rhoi rhodd sylweddol i ofalwr neu drydydd parti arall;
    • Diddordeb sydyn gan berthynas neu drydydd parti arall yn lles y person;
    • Biliau yn parhau i fod heb eu talu;
    • Cwynion bod eiddo personol ar goll;
    • Dirywiad mewn ymddangosiad personol a all ddangos bod deiet a gofynion personol yn cael eu hanwybyddu.

Niwed/Cam-drin y tu allan i gartref y teulu h.y. Ecsbloetio, cyfoedion yn cam-drin ei gilydd, trais difrifol, cysylltiedig â gangiau etc.) –

Rhaid i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion hefyd ystyried risg a niwed o safbwynt diogelu cyd-destunol yn ogystal â'r ymagwedd traddodiadol sy'n canolbwyntio ar y teulu. Mae Diogelu Cyd-destunol yn ymagwedd at ddeall ac ymateb i brofiadau plant, pobl ifanc ac oedolion o niwed y tu hwnt i'w teuluoedd. Mae'n cydnabod bod gwahanol berthnasoedd yn cael eu sefydlu yn eu cymdogaethau, eu hysgolion ac ar-lein a all gynnwys trais a cham-drin. Nid oes gan rieni a gofalwyr fawr o ddylanwad dros y cyd-destunau hyn, a gall profiadau pobl ifanc o gam-drin o'r fath danseilio'r berthynas rhwng rhieni a phlant.

Felly, mae angen i bob ymarferydd ymgysylltu ag unigolion a sectorau sydd â dylanwad dros niwed y tu allan i gyd-destunau'r cartref teuluol, a chydnabod bod asesu ac ymyrryd â'r mannau hyn yn rhan hanfodol o arferion diogelu. Felly, mae Diogelu Cyd-destunol yn ehangu amcanion y systemau diogelu i gydnabod bod pobl yn agored i gael eu cam-drin mewn amrywiaeth o gyd-destunau cymdeithasol: eu cymdogion, ysgolion, parciau, canol tref. Felly gofynnir i weithwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i/ar ran yr awdurdod lleol ystyried camdriniaeth yng nghyd-destun lle, person (yr amheuir ei fod yn peri pryder), mangre (lleoliad) a rhoi gwybod amdano.

Rheoli Fersiynau

Medi 2020

Rhif Fersiwn 1.4
Awdur/Awduron Sam Jones a Chris Frey-Davies
Dyddiad cymeradwyo 6 Ionawr 2021
Dyddiad dod i rym 6 Ionawr 2021
Dyddiad yr adolygiad nesaf 6 Ionawr 2022