Help y tu allan i oriau
Help y tu allan i oriau
Ffoniwch ni os bydd:
- plentyn neu berson ifanc ag angen brys i’w amddiffyn rhag niwed
- rhiant, gofalwr maeth neu blentyn angen help, cyngor neu gefnogaeth argyfwng
- gofalwr neu oedolyn diamddiffyn (y rheiny â phroblemau iechyd meddwl, corfforol neu anableddau dysgu neu bobl hŷn) mewn angen ar frys
Ni allwn helpu os bydd:
- y sefyllfa’n gallu aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg niwed
- hi’n ddiwrnod gwaith (rhaid i chi gysylltu â’ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol)
- hi’n argyfwng meddygol (rhaid i chi ffonio eich Meddyg Teulu neu ambiwlans)
Sut gallaf gael help
Gallwch ffonio:
- 5.30pm ac 1.30am (yn yr wythnos)
- 9am tan 1.30am (dydd Sadwrn/ dydd Sul/ Gwyliau Banc)
Yn yr argyfyngau mwyaf difrifol, dim ond Gweithiwr Cymdeithasol sydd ‘ar ddyletswydd’ bob dydd o’r flwyddyn o 1.30am tan 8.30am. Gallwch gysylltu â’r heddlu yn y lle cyntaf, a fydd yna’n cysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol.
Pwy ydym ni
Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn cynnwys tri uwch weithiwr cymdeithasol a chydlynydd. Gallwn hefyd alw ar gronfa o staff sesiynol os bydd angen.
Pa help rydym yn ei ddarparu
- gwybodaeth a chyngor
- ymweliad gweithiwr cymdeithasol
- trefnu gwasanaethau
Bwriad ein help yw diogelu sefyllfa tan y diwrnod gwaith nesaf.
Sut bydd y gwasanaeth yn delio â’m cais
Mae’r gwasanaeth yn blaenoriaethu ceisiadau ar sail y wybodaeth a ddarperir gennych. Yna byddwn yn penderfynu a oes angen ymweliad gan Weithiwr Cymdeithasol. Os bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ymweld â chi, bydd hi fel arfer yn cymryd tua 20-45 munud iddynt gyrraedd gan ddibynnu ble rydych chi’n byw. Gall gymryd yn hwy os ydynt eisoes ar alwad arall. Nid yw’r tîm argyfwng yn derbyn ymwelwyr o dan unrhyw amgylchiadau. Os na fyddwn yn cytuno bod angen help argyfwng arnoch, efallai y gallwn roi cyngor i chi am ble gallwch gael help.
Beth yw cost y gwasanaeth
Dim ond cost galwad ffôn. Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan y Tîm Dyletswydd Argyfwng am ddim.
Beth arall ddylwn i wybod am y Tîm Dyletswydd Argyfwng
Mae’r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn gweithio’n agos â’r gwasanaethau dydd. Os oes cyswllt gennych yn barod â’r gwasanaethau dydd byddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch galwad ymlaen i’r tîm perthnasol.