Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Glan-y-môr Aberafan

Lle poblogaidd beth bynnag fo'r tywydd gyda cherddwyr y gaeaf ac addolwyr haul yr haf

Pethau i wneud

Wrth ymyl traeth tywodlyd euraidd 3 milltir o hyd a phromenâd cyfoes, fe welwch:

Maes chwarae antur ‘Cawr y Cefnfor’

Mae maes chwarae antur newydd wedi cael ei agor ar Draeth Aberafan.

Cafodd y maes chwarae ‘cyrchfan’ ei greu’n rhannol o wastraff a ailgylchwyd o’r cefnfor. Mae’n cynnwys:

  • tŵr chwarae 8.9 metr o uchder o’r enw ‘Cawr y Cefnfor’
  • waliau dringo
  • llithren diwb gyffrous
  • weiren zip
  • siglenni
  • ysgol ddringo dros ben
  • chwyrligwgan
  • offer chwarae arall

Parcio

Haf (1af Ebrill - 30ain Medi)

Mae parcio ar gael ar hyd glan-y-môr.   Mae’r wybodaeth a’r taliadau maes parcio canlynol yn berthnasol:

 

Lleoliad Mannau Anabl Taliad Amser
Rhodfa Scarlet 100 11 £4.00 8yb - 8yh
Ffordd y Cefnfor 261 21 £4.00 8yb - 8yh
Bay View 62 6 £4.00 8yb - 8yh
Ffordd Fictoria 14 6 £4.00 8yb - 8yh
Derbynnir prif gardiau credyd / debyd.

Toiledau

Lleoliad Oriau agor
Toiledau glan-y-môr Aberafan 8.30yb - 6.30yh
Nid oes gan y toiledau gynorthwywyr parhaol. Dylai pobl gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain trwy ddilyn yr arwyddion a'r marciau llawr sydd ar waith.

Cyfleusterau hygyrch

Mae glan-y-môr Aberafan yn hygyrch i bob ymwelydd, gyda:

  • parcio i'r anabl
  • mynediad
  • toiledau
  • eisteddleoedd

Cŵn ar y traeth

Ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng Mai a Medi a rhaid iddynt fod ar dennyn bob amser. Gall perchnogion wynebu dirwy am beidio â chydymffurfio.

Caniateir iddynt ar y prif draeth yn ystod misoedd y tu allan i'r brig.