Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Camlesi Castell-nedd a Thenant

Mae dwy adran o'r gamlas i ymwelwyr eu mwynhau. Profwch llifddorau yn gweithio, llwybrau coediog a siop goffi hen ffasiwn wrth i chi lywio yr esiampl rhamantus hwn o ddyfeisgarwch y chwyldro diwydiannol, a wnaed yn enwog gan y nofelydd Alexander Cordell yn ei lyfr 'Song of the Earth'. Mae'r 'Thomas Dadford' yn gadael Castell-nedd o Morrisons / B & Q bob dydd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion, ac ar ddydd Sadwrn o fis Ebrill i fis Medi.

Gall y rhai sy'n dymuno fwynhau taith gerdded dawel dilyn y llwybr tynnu drwy Canol Tref Castell-nedd i Aberdulais lle mae pont gogwydd a dyfrbont 12 bwa dros Afon Nedd.

Lleoliad: Mae Camlesi Resolfen ac Aberdulais yn hawdd eu cyrraedd o'r A465. Mae Aberdulais yn 2 filltir i'r gogledd o Gastell-nedd ac mae Resolfen yn 7 milltir i'r gogledd o Gastell-nedd.

Bws: X5(First Cymru) o Abertawe/ Castell-nedd.

Mynediad: Mae'r rhannau sydd wedi eu hadfer i'r gogledd o camlas Resolfen ac i gogledd camlas Aberdulais yn addas i'r ymwelydd anabl.

  • Ffôn: 01792 772 776 / 01639 636 674
Camlas Castell-nedd