Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm o Amgylch y Teulu

Weithiau mae angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn iddynt fyw bywydau hapus ac iach. Gwasanaeth ymyrryd yn gynnar ac atal yw'r Tîm am y Teulu sy'n gweithio gyda theuluoedd i'w helpu i nodi eu cryfderau a'u hanghenion. Bydd y TAT yn eu cefnogi i gyflawni'u nodau unigol drwy gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth. Gall y TAT gefnogi teuluoedd hefyd drwy gydlynu asiantaethau eraill.

• Mae'r TAT yn darparu gwasanaeth i deuluoedd sy'n debygol o fod ag angen help gan ddwy asiantaeth neu fwy (e.e. gwasanaeth iechyd yr ysgol a thai)
• Mae'r TAT yn dod â phawb ynghyd gyda theuluoedd i nodi cryfderau ac unrhyw anghenion, a sut orau i alluogi teuluoedd i ddiwallu'r anghenion hynny.
• Mae'r TAT yn ffordd o nodi pwy sydd yn y sefyllfa orau i gynnig unrhyw gyngor a chefnogaeth ychwanegol y gall fod eu hangen ar eich teulu.

Pa fath o bethau y gallwch chi gael helpu ar eu cyfer?

• Cefnogaeth a grwpiau magu plant
• Arferion a ffiniau
• Meithrin perthynas
• Cydlynu gwasanaethau
• Cefnogaeth ar gyfer anabledd
• Cefnogaeth gyda lles emosiynol
• Cyngor ariannol
• Arwahanrwydd cymdeithasol
• Cymorth tai
• Gwella cyflwr y cartref
• Diogelwch ar y rhyngrwyd
• Gwaith perthnasoedd iach

Am ragor o wybodaeth am y TAT, ffoniwch y Tîm am y Teulu ar (01639) 763450 (Ar agor o 8.30am i 5pm ddydd Llun i ddydd Iau a 4.30pm ar ddydd Gwener) neu e-bostiwch

Unwaith y gwneir atgyfeiriad, caiff ei anfon at y Panel Ymyrryd yn Gynnar ac Atal i ystyried y cryfderau a'r anghenion a amlygwyd yn yr atgyfeiriad.
Yna gwneir penderfyniad ynghylch a ddylid trosglwyddo'r achos i'r Tîm am y Teulu (TAT) neu a yw gwasanaeth sengl o un o wasanaethau eraill Teuluoedd yn Gyntaf neu wasanaethau cefnogi eraill yn CNPT yn y sefyllfa orau i'ch cefnogi chi a'ch teulu.

Cam 1 - cais am wasanaeth

  • Gall gweithiwr proffesiynol arall sy'n adnabod eich teulu eich atgyfeirio i'r TAT; fel athro, meddyg teulu, ymwelydd iechyd, gweithiwr ieuenctid neu gallwch atgyfeirio'ch hun.
  • Rhaid cael eich caniatâd cyn gwneud atgyfeiriad felly eich penderfyniad chi yw a fyddwch yn derbyn cefnogaeth gan y TAT a gallwch stopio unrhyw bryd.
  • Bydd y Panel Ymyrryd yn Gynnar (PYG) yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn gofyn am ymyriad gan y TAT - os nad yw, darperir cyngor ar sut i fwrw ymlaen ag ymateb un asiantaeth.

Cam 2 - Ymweliad cartref ac asesiad

  • Bydd gweithiwr teulu TAT yn trefnu ymweliad cartref i siarad â'r teulu cyfan am yr hyn sy'n mynd yn dda a'r hyn y mae angen cefnogaeth arnynt gydag e'.
  • Bydd gweithiwr teulu TAT hefyd yn trefnu cyfarfod TAT a fydd yn cynnwys y teulu ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â'r teulu
  • Bydd yr asesiad yn helpu i nodi cryfderau a chytunir ar feysydd cymorth. Caiff cynllun i'r teulu ei ddatblygu rhwng y teulu a'r gweithiwr TAT.

Cam 3 - Cynllun Cymorth i Deuluoedd

  • Llunnir eich Cynllun Cymorth i Deuluoedd o'ch asesiad
  • Gyda'r Cynllun Cymorth i Deuluoedd darperir cymorth i ddechrau am oddeutu 12 wythnos - bydd yn cynnwys camau gweithredu i bawb yn y teulu ac ar gyfer asiantaethau eraill
  • Eich Cynllun Cymorth i Deuluoedd chi yw hwn, felly cytunir ar bob cam gweithredu gyda chi a'ch teulu.

Cam 4 - Proses adolygu

  • Byddai'r Cynllun Cymorth i Deuluoedd yn cael ei adolygu'n rheolaidd i weld sut mae pethau'n mynd er mwyn sicrhau eich bod ar y llwybr cywir a'ch bod yn derbyn y cymorth priodol.
  • Caiff y Cynllun Cymorth i Deuluoedd ei adolygu a'i newid yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion newidiol y teulu, a chaiff ei adolygu'n rheolaidd.

Cam 5 - Cau Achos

  • Mae cynnydd y teulu tuag at gyflawni'r cynllun cymorth i deuluoedd yn cael ei adolygu, ac os yw'r canlyniadau'n cael eu cyflawni, caiff yr achos ei gau.
  • Mae cynnydd y teulu tuag at gyflawni'r Cynllun Cymorth i Deuluoedd yn cael ei adolygu a'i newid yn ôl y galw i ddiwallu'r anghenion sydd wedi newid. Os yw'r canlyniadau'n cael eu cyflawni, caiff yr achos ei gau.
  • Os nad oes modd diwallu anghenion y teulu drwy'r TAT, ystyrir atgyfeirio'r teulu i wasanaethau arbenigol.

Bydd hyn yn wahanol i bob teulu, ond byddai'r Cynllun Cefnogi Teuluoedd yn ystyried darparu cefnogaeth i ddechrau am oddeutu 12 wythnos a bydd yn cynnwys camau gweithredu i bawb yn y teulu lle nodwyd anghenion, a hefyd i'r asiantaethau sy'n rhan o'r broses.

Caiff y cynllun ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau mai eich anghenion, eich barn a'ch dymuniadau chi yw ffocws eich cynllun cefnogi o hyd. Mae hyn yn caniatáu i'r gweithiwr TAT sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn.

Mae angen ymrwymiad gan bawb i sicrhau newid cadarnhaol. 

Gall gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch teulu e.e. Pennaeth, Ymwelydd Iechyd, eich atgyfeirio i'r TAT. Gall rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill wneud atgyfeiriadau ysgrifenedig gyda chaniatâd y rhieni, a dylid eu cyflwyno i'r Tîm Pwynt Cyswllt Unigol ar:

SPOC
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Gallwch lawrlwytho ffurflen atgyfeirio trwy glicio

a dychwelyd i