Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Anableddau Plant

Tîm arbenigol yw'r Tîm Anableddau Plant sy'n gofalu am anghenion penodol plant a phobl ifanc anabl. Mae'n un o'r gwasanaethau a ddarperir yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n gweithio gyda phlant anabl a'u teuluoedd wrth geisio darparu gwasanaethau sy'n helpu i leihau effeithiau anabledd plentyn ac i wella’i les, a helpu teuluoedd i ddiwallu anghenion eu plentyn anabl.

Gall yr anghenion hyn fod o ganlyniad i:

  • Anabledd dysgu neu gorfforol
  • Salwch cronig
  • Anabledd synhwyraidd

Mae'r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymorth, Therapydd Galwedigaethol a Gweithiwr Cefnogi Ymddygiad. Mae'r tîm yn gweithio gyda nifer o weithwyr proffesiynol i hyrwyddo a diogelu llesiant a lles plant a phobl ifanc anabl.

Yn dilyn asesiad o anghenion, gall y Tîm Anableddau Plant ddarparu gwasanaethau sy'n cynnwys y canlynol:

  • Asesiad Gofalwyr
  • Chwarae arbenigol trwy ein gwasanaeth 'Portage' ar gyfer plant cyn oed ysgol
  • Taliadau Uniongyrchol
  • Gwasanaethau Seibiant
  • Cefnogaeth ymddygiadol
  • Mynediad at Grwpiau Anghenion Arbenigol
  • Atgyfeirio i Ofalwyr Ifanc ar gyfer brodyr a chwiorydd
  • Gwybodaeth am y Panel Ymyrryd yn Gynnar, a grwpiau cefnogaeth arbenigol yn y gymuned osnad yw gwasanaethau statudol yn addas
  • Cymorth os oes angen nes bydd y plentyn yn 18 oed
  • Trosglwyddo i Wasanaethau i Oedolion os oes angen

Diben yr asesiad yw casglu gwybodaeth a nodi anghenion y plentyn (neu'r plant) a/neu ei deulu a natur a lefel y cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor am y gefnogaeth anstatudol sydd ar gael, ffoniwch y Tîm Pwynt Cyswllt Unigol ar 01639 686802 (ar agor o 8.30am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a than 4.30pm ar ddydd Gwener) a siaradwch â’r Gweithiwr Dyletswydd

SPOC
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Gall rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill wneud atgyfeiriadau ysgrifenedig gyda chaniatâd y rhieni, a dylid eu cyflwyno i'r Tîm Pwynt Cyswllt Unigol yn: 

Cyfarwyddiadau i SA11 3QZ
Adult & Children S.P.O.C. Team
Neath Port Talbot C.B.C Neath Civic Centre Water Street Neath SA11 3QZ pref
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802

Gallwch lawrlwytho ffurflen atgyfeirio trwy glicio

a dychwelyd i

Action For Children Wales (Gweithredu dros Blant)
St David's Court, 68a Cowbridge Road East, Cardiff CF11 9DN Tel: 029 2022 2127
Website: visit Action for Children Website

NPT Pupil Inclusion
Website: visit NPT Pupil Inclusion website

NPT Special Educational Needs Transport
Tel: (01639) 763812
Website: visit NPT Special Educational Needs website

Blue Badges
Tel: (01639) 686868, Email: fcs@npt.gov.uk
Website: visit Blue Badges website

NPT Safeguarding Children Board
Website: visit NPT Safeguarding Children Board website

Ysgol Maes y Coed
Heol Hendre, Bryncoch, Neath SA10 7TY Tel: 01639 643648, Fax: 01639 643647