Iechyd emosiynol a lles oedolion
Fel rhan o'r ymgyrch #ArosMewnCysylltiad i’r holl oedolion sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd y tudalennau hyn yn amlygu amrywiaeth lawn o wasanaethau emosiynol a lles, llinellau cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu gyda pha bryder neu angen bynnag sy'n codi.
Beth bynnag fo'r cwestiwn neu'r pryder, hyd yn oed os yw'n ymddangos yn wirion neu'n ddibwys i rai, mae'n bwysig helpu person i ymdrin â hyn, a'r hyn sy'n digwydd iddyn nhw.
Os ydych chi'n pryderu am ddiogelwch oedolyn, mae gwasanaethau ar gael drwy gydol y pandemig. Y Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt (SPOC) yw'r ffordd o ddod o hyd i gymorth cynnar a gwasanaethau cymdeithasol.
Gall unrhyw un gysylltu â'r tîm SPOC i gael trafodaeth a chael help.
Bydd aelod o’r tîm yn gwrando arnoch chi ac yn dweud wrthych ba wybodaeth, cyngor neu gymorth y gellir eu darparu a phwy all eich helpu o'r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, troseddau ieuenctid, addysg, ymyrryd ac atal cynnar, yr heddlu a'r trydydd sector.
Os nad ydych yn teimlo'n ddiogel neu os ydych chi'n bryderus, gallwch ffonio'r tîm SPOC (ar agor o 8.30am tan 5pm ar ddydd Llun i ddydd Iau a 4.30pm ar ddydd Gwener).
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 'system ffonio yn ôl' ar hyn o bryd sy'n gofyn i bobl adael neges a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.
- Mae Action for Elders: yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i wella bywydau pobl hŷn yn well. Ein nod yw dod ag unigrwydd i ben trwy gynnig cefnogaeth gyda rhaglenni lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cyfle i gadw'n heini, yn iach ac yn gyflawn
-
Bywyd Actif- fideo hunangymorth ar-lein am ddim i unrhyw un 16+ sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl
-
Cymdeithas Alzheimer Castell-nedd Port Talbot - Bydd gweithiwr cefnogi dementia yn rhoi cefnogaeth un i un a gwybodaeth i unrhyw un sy'n byw gyda dementia. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Barnardo's: Gall Beyond the Blue gynnig ystod o ymyriadau cefnogol a therapiwtig sy'n diwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u rhieni. Bydd y gefnogaeth a ddarperir yn cael ei theilwra i bob teulu gan gynllun cymorth a ddatblygir mewn partneriaeth â'r teulu. Mae'r gwasanaethau'n darparu cefnogaeth i adeiladu gwytnwch a strategaethau. Rydym yn gweithio gyda theuluoedd a'u plant hyd at 25 oed.
-
Golau Dydd - canllaw ar-lein am ddim i gefnogi pobl trwy bryder a phryder
-
Me, Myself and I – darparu cefnogaeth emosiynol, sicrwydd a chyfleoedd i'r person a/neu ei deulu sy'n byw gydag anghofrwydd i gymdeithasu mewn lleoliad hamddenol a chyfeillgar. Yn ein canolfan yn Llansawel, gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau gwahanol i chi er mwyn diwallu'ch anghenion. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Mind - Byddwn yn gwrando, yn rhoi cefnogaeth a chyngor ac yn gweithredu drosoch. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- SilverCloud y GIG - Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir gan GIG Cymru ar gyfer unigolion 16+ oed sy'n profi lefelau isel – cymedrol o bryder neu broblemau sy'n gysylltiedig â straen.
- HAFAL - Cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl - gan roi pwyslais arbennig ar y rheini â salwch meddwl difrifol - a'u gofalwyr a'u teuluoedd. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- HAFAL - Supporting people with mental health problems – with a special emphasis on those with a serious mental illness – and their carers and families. To arrange support please contact:
- Gofal Profedigaeth 'Cruse' Cymru - Mae galar yn broses naturiol, ond gall hefyd fod yn anodd iawn. Rydym yma i'ch cefnogi yn dilyn marwolaeth rhywun sy'n agos atoch.
- Eiriolaeth Eich Llais - Rydym yn ceisio cefnogi pobl i gyrchu gwybodaeth a chefnogaeth briodol, a rhoi cyfle iddynt ddweud eu dweud am y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau beunyddiol. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser (CISS) - Elusen gofrestredig leol sy'n rhoi cefnogaeth emosiynol a chwnsela am ddim i unrhyw un y mae canser wedi effeithio arno yng Nghastell-nedd Port Talbot, p'un a yw'n glaf, yn ofalwr, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind. Gallwch drefnu i gael cefnogaeth yn un o'n dwy ganolfan, neu drwy ein gwasanaeth allgymorth unigryw i'r rheini nad ydynt yn gallu dod i un o'n canolfannau. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth 'rithwir' dros y ffôn neu ar-lein i'r rheini y mae'n well ganddynt gyrchu ein gwasanaethau drwy'r dulliau hyn. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot - fe'i lansiwyd ym mis Ebrill 2009 i gefnogi'r arwyr di-glod sy'n gofalu am anwyliaid nad ydynt yn gallu gofalu am eu hunain. Nid yw pawb sy'n gwneud hyn yn ystyried ei hun fel gofalwr, ond mae cyfrifoldebau gofalu'n effeithio'n fawr ar eu bywydau. Ein nod yw helpu gofalwyr di-dâl i gydnabod eu rôl gofalu a darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr dros 18 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- CGGCNPT - Mae CGG Castell-nedd Port Talbot ar gael i gefnogi, hyrwyddo a datblygu cyfranogiad sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac unigolion yn y sector gwirfoddol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fel rhan o strwythur Cefnogaeth Trydydd Sector Cymru, maent yn cynnig cefnogaeth gyda gwirfoddoli, arian cynaliadwy, llywodraethu da a chynnwys a dylanwadu ar eraill. P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n chwilio am gefnogaeth ar gyfer eich hun, yn wirfoddolwr posib sydd am helpu neu'n grŵp sy'n gobeithio cyflwyno gwasanaethau yn y gymuned, gall CGG Castell-nedd Port Talbot eich helpu. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â
- Adsefydlu4addiction - yn darparu cefnogaeth i'r rhai sydd â chaethiwed gynnwys adnoddau amrywiol i gefnogi eich iechyd meddwl. Rydym yn darparu help a chyngor ar bwnc iechyd meddwl. Dylai amddiffyn eich iechyd meddwl fod yn nod bywyd, a gallai ceisio cymorth ar gyfer materion iechyd meddwl fod y penderfyniad pwysicaf a wnewch erioed.
- Rehab Recovery
- RNIB - Rydym yma i chi yn ystod cychwyniad Coronafeirws (COVID-19) i roi gwybodaeth ar-lein ac i helpu i ateb ymholiadau sydd gennych yn ystod cychwyniad Coronafeirws (COVID-19). I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- SAN (Cefnogi Anghenion Ychwanegol) Castell-nedd a'r Rhanbarth - Rydym yn grŵp cefnogaeth i rieni/gofalwyr, dan arweiniad gwirfoddolwyr, i blant a phobl ifanc â phob math o anghenion ychwanegol sydd am gael rhagor o wybodaeth. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- S.A.N. Neath & District - We are a volunteer led parent/carer support group for children and young people with all kinds of additional needs for further information. To arrange support please contact:
- Thrive (Cymorth i Fenywod) - Mae 'Thrive' (Cymorth i Fenywod) yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol arbenigol i fenywod, plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydym yn cefnogi teuluoedd i ailadeiladu eu bywydau ac adennill annibyniaeth mewn cymunedau diogel, ac yn credu bod gan bawb hawl i ddyfodol heb ofn. Rydym yn ceisio annog, galluogi a grymuso'r rheini sydd wedi profi amgylchiadau heriol ac rydym yn frwd ac yn ymroddedig yn ein hymagwedd i sicrhau bod y cylchred o gam-drin yn dod i ben am byth. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru) - Prif nod y cyngor hwn yw helpu'r rheini â phroblemau alcohol a chyffuriau. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Lles drwy'r gwaith - Ar absenoldeb salwch neu'n ei chael hi'n anodd yn y gwaith oherwydd problemau iechyd? Ariennir y Gwasanaeth Cefnogaeth yn y Gwaith ar y cyd gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae'n darparu cefnogaeth gyfrinachol am ddim i bobl gyflogedig ac hunangyflogedig a chanddynt broblemau iechyd sy'n effeithio arnynt yn y gwaith. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Cefnogaeth i Fyfyrwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot - Yn dilyn atal yr holl gyswllt wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr ar 20 Mawrth 2020, gellir defnyddio'r ddolen ganlynol i gael mynediad at wasanaethau. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Age Connects - Ein nod yw rhoi cefnogaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl dros 50 oed y mae angen iddynt fyw bywyd iachach, mwy actif ac annibynnol. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Age Cymru Gorllewin Morgannwg - Rydym yn darparu gwasanaethau annibynnol, rhanbarthol gyda sicrwydd ansawdd i oedolion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr i'w helpu i fyw a heneiddio'n dda. I drefnu i gael cefnogaeth, cysylltwch â:
- Dewis Cymru - Cyfeiriadur ar-lein yw Dewis Cymru, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am dros 6,000 o sefydliadau neu wasanaethau cenedlaethol a lleol a all helpu pobl gyda'u lles.
- Meic Cymru - Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Bydd Meic yn gwrando arnoch, hyd yn oed pan na fydd neb arall yn gwneud - ni fydd Meic yn eich barnu a bydd yn helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud newid.
- Childline - Mae Childline yn wasanaeth a ddarperir gan yr NSPCC i helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw broblem y maent yn mynd drwyddi. Gallwch siarad â nhw am unrhyw beth, boed hwnnw'n fawr neu'n fach, ac mae eu cwnselwyr hyfforddedig yno I helpu a chefnogi plant a phobl ifanc.
- Young Minds - Young Minds yw prif elusen y DU sy'n brwydro dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar eu gwefan.
- Tidy Minds - Cyngor am iechyd meddwl i bobl ifanc. Gwefan newydd yw 'Tidy Minds' - fe'i lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer pobl ifanc sy'n byw yn Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot. Mae'r wefan yn llawn gwybodaeth i'ch helpu i ddeall y ffordd rydych chi'n teimlo, a dod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth iawn.
- Kooth - gwasanaeth cwnsela rhithwir. Mae gwasanaeth cwnsela rhithwir newydd ar-lein i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe bellach ar gael. Mae Kooth, sydd am ddim, yn ffordd groesawgar a chyfrinachol I bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed gael mynediad at gefnogaeth lles emosiynol ac ymyrryd yn gynnar mewn iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth yn cynnig sesiynau cwnsela un i un dienw gyda chwnselwyr hyfforddedig, cymwys a phrofiadol ac ymarferwyr lles emosiynol
- Samariaid - Dod o hyd i’ch ffordd - Canllaw i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi
- Galwch 111 dewiswch opsiwn 2 - Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl nawr ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos. Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot.
- 2Wish
Sut ydych chi'n teimlo?
Ffynnu
"Rwy'n gallu gwneud hyn"
- Gweithredu fel arfer
- Amrywiadau arferol yn eich hwyliau
- Gwneud pethau'n ddidrafferth
- Patrymau cwsg arferol
- Yn actif yn gorfforol ac yn gymdeithasol
- Hunanhyder arferol
- Cyfforddus â phobl eraill
Os rydych chi'n ffynnu
- 5 ffordd o wella'ch lles- ffyrdd o wella eich iechyd a lles meddwl
- Activate your life- cwrs hunangymorth ar-lein am ddim
- Wellbeing through work - gwasanaethau cefnogi yn y gweithle ar gyfer gweithwyr
- Age Connect- amrywiaeth o gefnogaeth lles ymarferol ac emosiynol
- Platfform (Your Wellbeing)- amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor ar les
- CGC Castell-nedd Port Talbot- cysylltu pobl âgrwpiau cymdeithasol a chfyleoedd gwirfoddoli
- Dolenni ar-lein eraill i gefnogi oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd -npt.gov.uk/wellbeing
Dan bwysau
"Mae rhywbeth o'i le"
- Pigog, diamynedd
- Nerfusrwydd, tristwch
- Mwy pryderus
- Oedi ac anghofio
- Tyndra yn eich cyhyrau
- Cael trafferth wrth gysgu
- Cael trafferth wrth ymlacio
- Syniadau ymwthiol
- Diffyg egni
Os rydych chi'n dan bwysau
- NPT Mind- cwnsela, cefnogaeth hawliau lles a grwpiau lles. 01639 643510
- Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pob Ifanc- Adnoddau lles ar gyfer pobl ifanc
- Young Minds- elusen iechyd meddwl plant a phobl ifanc
- Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L.- Gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol. 0800 132 737 neu neges destun sy'n cynnwys text HELP at 81066
- Cyfeillion Cymunedol CGC - cyfeillgarwch a chefnogaeth yn y gymuned. 01639 631246
- Tim am y teulu- Cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd yn gynnar pan fydd problem yn codi- 01639 686802
Cael trafferth
"Ni allaf barhau â hyn"
- Ofn parhaus, dicter, pryder, panig, tristwch, teimlo'n ddagreuol, diffyg hunan-werth
- Synfyfyrdod
- Anhawster wrth wneud penderfyniadau neu ganolbwyntio
- Cwsg afreolaidd (cwympo i gysgu ac aros yn effro)
- Teimlo'n encilgar
- Rhoi triniaeth feddygol i'ch hunan e.e. bwyd, sylweddau
Os rydych chi'n cael trafferth
- Cysylltwch â'ch meddygfa leol am gyngor
- Pwynt Cyswllt Unigol y Gwasanaethau Cymdeithasol.spoc@npt.gov.uk neu 686802
- Un Pwynt Mynediad Iechyd Meddwl BIPBA- mynediad agored 9-5. 01639 862744
- CALM - Ffoniwch 0800 585858 (yn ddyddiol, rhwng 5pm a chanol nos), neu gallwch gael sgwrs ar-lein ddienw am ddim â staff sydd wedi'u hyfforddi trwy wefanCALM
- Iechyd SilverCloud - adnodd iechyd meddwl digidol
- Cruse Cymru
- Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Mewn argyfwng
"Ni allaf oroesi hyn"
- Trallod sy'n eich analluogi a diffyg swyddogaeth
- Hunllefau neu ôl-fflachiau
- Methu cysgu neu aros yn effro
- Meddwl am hunan niweidio neu hunanladdiad
- Gwylltio'n hawdd neu'n ymosodol
- Teimlo'n ddideimlad, ar goll neu allan o reolaeth
- Teimlo'n encilgar
- Dibyniaeth ar fwyd, sylweddau etc
Os rydych chi'n mewn argyfwng
- Mewn argyfwng, ffoniwch 999
- Os nad yw'n bygwth bywyd ffoniwch y GIG ar 111 neu ewch i www.111.nhs.uk. Gall pobl sydd â phroblemau clyw ddefnyddio gwasanaeth laith Arwyddion Peydain GIG 111
- I siarad â rhywun yn gyfrinachol ffoniwch Y Samariad am ddim ar 116 123 neu ewch i samaritans.org
- I gael cefnogaeth ar gyfer argyfwng trwy neges destun 24/7 yn ddienw, anfonwch neges destun sy'n cynnwys "SHOUT" i 85258 neu ewch i giveusashout.org
- Prosiect Noddfa - cefnogaeth ymarferol, therapiwtig a chyfannol - 01792 816 600
- Mae cymorth iechyd meddwl 24/7 bellach ar gael dros y ffôn ym Mae Abertawe. Gall pobl sy'n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd angen cymorth brys gyda materion iechyd meddwl nawr ffonio tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol am ddim, ddydd neu nos. Mae ffonio 111 a dewis opsiwn 2 yn rhoi galwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â thîm o 20 o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sydd â phryder iechyd meddwl, gan gynnwys perthnasau sydd angen cyngor. Galwch 111 Mae Opsiwn 2 yn rhedeg 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth neu gyfeirio fel y bo'n briodol. Bydd galwyr yn cael eu cefnogi gan glinigwyr hyfforddedig sy'n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys nyrsys iechyd meddwl, ymarferwyr lles seicolegol a therapyddion galwedigaethol.