Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
Mae Cydlynu Ardaloedd Lleol yn gynllun i helpu pobl i beidio â chyrraedd argyfwng yn eu bywyd neu helpu pobl i wella os cafwyd argyfwng eisoes. Rydym yn gweithio gyda chi a’ch teulu i’ch helpu i fyw bywyd gwell.
Mae’r gefnogaeth am ddim; nid oes unrhyw asesiadau na phroses gyfeirio, na chyfyngiadau amser.
Sut gallwn helpu
Gall eich cydlynwr eich helpu i:
- gael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau
- cael eich clywed, bod mewn rheolaeth a gwneud dewisiadau
- nodi eich cryfderau, nodau ac anghenion
- dod o hyd i atebion ymarferol i wneud newidiadau cadarnhaol
- datblygu'r defnydd o rwydweithiau lleol
- cynllunio am y dyfodol
- cymryd rhan yn eich cymuned leol
Rhwydweithiau cefnogi
Mae gan gydlynwyr gysylltiadau a pherthnasoedd presennol i helpu pobl mewn argyfwng. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gwasanaethau'r cyngor
- gwasanaethau iechyd
- gwasanaethau brys
- sefydliadau gwirfoddol
- grwpiau cymunedol
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â'ch Cydlynydd Ardaloedd Lleol os ydych yn meddwl y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod elwa o'i gymorth: