Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Gwahardd cŵn o draeth Aberafan (Mai 1af - Medi 30ain)

Mae swyddogion yn patrolio'r Traeth Aberafan yn rheolaidd a byddwn nhw'n cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw droseddwyr

Ar hyn o bryd mae gorchymyn mewn grym sy'n cwmpasu Traeth Aberafan a’r promenâd o 1 Mai - 30 Medi. Mae hyn yn gwahardd cŵn rhag mynd i mewn i rhan dynodedig o'r traeth ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn bob amser ar y promenâd; gellir erlyn perchnogion cŵn am fethu â chydymffurfio â'r gorchymyn.

Er y byddai darpariaethau'r gorchymyn gwarchod mannau cyhoeddus dynodedig yn galluogi awdurdod lleol i orfodi nifer o droseddau'n ymwneud â chŵn,  bydd y Gorchmynion ond yn cymryd lle'r tramgwyddau a orfodwyd yn flaenorol gan y swyddog rheoli cŵn.

Bydd y Gorchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig ddelio â throseddau trwy hysbysiad cosb benodedig ac felly'n caniatáu i'r troseddwyr rhyddhau eu hatebolrwydd i gael euogfarn trwy dalu'r ddirwy.  Fodd bynnag, pe na bai'r ddirwy yn cael ei dalu o fewn y cyfnod penodedig, yna bydd y mater yn cael ei throsglwyddo i'r adran gyfreithiol gyda'r bwriad o erlyn yr unigolion dan sylw.