Gosod posteri'n anghyfreithlon
Mae'r term hwn yn cyfeirio at osod posteri, sticeri, baneri, byrddau a dulliau eraill o hysbysebu'n anghyfreithlon ar safleoedd heb ganiatâd, gan gynnwys waliau a chelfi stryd.
Rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol fel gosod posteri'n anghyfreithlon. Rydym yn cyflogi timau sy'n gallu ymateb i achosion o osod posteri'n anghyfreithlon, gan gymryd camau i gael gwared ar y posteri, gan gynnwys cael gwared ar bosteri anghyfreithlon am resymau diogelwch. Mae effeithio ar leiniau gwelededd ar y briffordd gyhoeddus yn enghraifft o hyn.
Rydym yn gyfrifol am gael gwared ar bosteri anghyfreithlon o adeiladau cyhoeddus y mae'r cyngor yn berchen arnynt; fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am gael gwared ar bosteri anghyfreithlon o eiddo preifat.
Gellir cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy'n cyflawni'r fath weithredoedd neu sy'n elwa o osod posteri'n anghyfreithlon. Os ydych yn drwgdybio bod rhywun yn gosod posteri'n anghyfreithlon, ffoniwch y Cyngor ar (01639) 686868, neu defnyddiwch ein ffurflen gysylltu.