Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Genedigaethau

Cofrestru genedigaeth

Rhaid cofrestru genedigaethau o fewn 42 diwrnod i'r babi gael ei eni. Rhaid eu cofrestru yn yr ardal lle digwyddodd yr enedigaeth.

Os na allwch ymweld â'r Swyddfa Gofrestru ar gyfer yr ardal honno, gallwch defnyddion unrhyw swyddfa arall yng Nghymru a Lloegr. Yn yr amgylchiad hwn, bydd datganiad geni yn cael ei gymryd a'i anfon i'r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich babi ei eni.

Sut i gofrestru genedigaeth

I gofrestru genedigaeth, mae angen i chi drefnu apwyntiad i ymweld â swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot. Cysylltwch â 01639 760021 neu 01639 760020 i drefnu apwyntiad.

Pwy all gofrestru'r enedigaeth

Os oedd y rhieni'n briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth, naill ai gall y fam neu'r tad gofrestru'r baban. Fodd bynnag, os nad oedd y rhieni'n briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth, dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y gellir nodi manylion y tad:

  • Lle mae'r fam a'r tad yn mynychu gyda'i gilydd. Er mwyn i dadau di-briod fod â'r un cyfrifoldeb dros y plentyn, mae angen i'r ddau riant gofrestru gyda'i gilydd.
  • Neu lle nad yw'r tad yn gallu bod yn bresennol gyda'r fam, mae'n bosibl iddo wneud Datganiad Statudol, yn cadarnhau mai ef yw'r tad, y mae'r fam yn ei gyflwyno i'r cofrestrydd.
  • Neu lle nad yw'r fam yn gallu bod yn bresennol gyda'r tad, gall wneud Datganiad Statudol yn cadarnhau enw'r tad, y mae'r tad yn ei gyflwyno i'r cofrestrydd.
  • Neu lle mae'r naill riant neu'r llall wedi cael gorchymyn llys perthnasol dylid cyflwyno hwn i'r cofrestrydd.

Tystysgrifau

Mae tystysgrif hefyd ar gael gan y cofrestrydd sy'n cofnodi manylion y rhieni ac yn gopi cyflawn o gofnod y gofrestr. Codir tâl am y dystysgrif hon a bydd y cofrestrydd yn rhoi cyngor ar y ffi bresennol.

Cofrestru genedigaethau yn ddwyieithog

Gellir cofrestru genedigaethau yn Gymraeg a Saesneg (ond nid Cymraeg yn unig).

Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ymlaen llaw ar 01639 760021 / 01639 760022 i wneud yn siŵr bod cofrestrydd sy'n siarad Cymraeg ar gael, gan nad yw pob un o'n cofrestryddion yn rhai Cymraeg. Mae'n rhaid i chi hefyd allu siarad Cymraeg i gofrestru'n ddwy-ieithog.