Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cofrestru marwolaeth

Cofrestru marwolaeth

Sut i gofrestru marwolaeth

Pan fydd person yn marw, rhaid i'r farwolaeth gael ei chofrestru o fewn 5 diwrnod o ddyddiad y farwolaeth. Gall hyn gael ei ymestyn mewn rhai amgylchiadau.

Bydd y dystysgrif feddygol o achos marwolaeth gan y meddyg meddygol yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i'r Swyddfa Gofrestru. Nid yw hyn berthnasol pan fydd y Crwner yn cymryd rhan.

Dylai'r farwolaeth gael ei chofrestru yn yr ardal lle y digwyddodd, er y gellir cofrestru marwolaeth drwy ddatganiad mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru arall yng Nghymru a Lloegr. Os mae datganiad yn cael ei wneud yna bydd y tystysgrifau a gwaith papur yn cael ei oedi. Am ragor o fanylion, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.

I gofrestru marwolaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot i drefnu apwyntiad.

Gall y farwolaeth gael ei chofrestru yn Gymraeg a Saesneg (ond nid yn Gymraeg yn unig) ar yr amod bod yr unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth yn siarad Cymraeg. Gan nad yw pob Cofrestrydd gallu siarad Cymraeg, mae'n ddoeth i chi rhoi gwybod i'r Cofrestrydd y dymunwch i gofrestru'r farwolaeth yn ddwyieithog. Bydd hyn yn helpu i benderfynu os bydd cofrestrydd sy'n siarad Cymraeg ar gael.

Pwy all gofrestru marwolaeth?

Caiff y bobl ganlynol gofrestru marwolaeth:

  • Perthynas i'r ymadawedig
  • Rhywun oedd yn bresennol yn y farwolaeth;
  • Meddiannydd yr adeiladau os yw ef neu hi'n gwybod fod y farwolaeth wedi digwydd
  • Person sy'n trefnu'r angladd (Nid yw hyn yn golygu y Cyfarwyddwr angladd).

Pa wybodaeth bydd angen i'r cofrestrydd?

Byddai'n ddefnyddiol pe gallai unrhyw un o'r dogfennau canlynol yr ymadawedig cael ei gyflwyno i benodi gofrestru:

  • Tystysgrif geni
  • Tystysgrif priodas
  • Tystysgrif partneriaeth sifil
  • Trwydded yrru
  • Pasbort
  • Prawf o cyfeiriad (bil cyfleustodau);
  • Cerdyn meddygol GIG 

Os na fydd unrhyw un o'r dogfennau uchod ar gael, ni fydd hyn yn atal cofrestru rhag digwydd. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol i'w darparu  lle bynnag y bo'n bosibl er mwyn inni allu sicrhau bod y cofrestriad yn cael ei gofnodi'n gywir.

Cynhelir y cofrestriad yn breifat gyda'r Cofrestrydd a fydd yn gofyn cwestiynau mewn perthynas â'r ymadawedig, bydd angen i chi wybod y wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw llawn a chyfenw yr ymadawedig
  • Dyddiad a man geni
  • Alwedigaeth yr ymadawedig ac enw llawn a galwedigaeth ei briod neu ei bartner sifil
  • Cyfeiriad cartref arferol yr ymadawedig
  • Dyddiad geni priod neu bartner sifil yr ymadawedig
  • Manylion unrhyw pensiwn y sector cyhoeddus
  • Rhif cerdyn meddygol y GIG ar gyfer yr ymadawedig os yw ar gael

Unwaith y bydd y cofrestriad wedi'i gwblhau, bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi cadarnhau bod y manylion yn gywir cyn llofnodi'r gofrestr. Dylech darllen y wybodaeth yn ofalus cyn llofnodi, gan y bydd unrhyw gamgymeriadau a ganfyddir ar ôl cwblhau’r cofrestriad yn cynnwys gweithdrefn gywiro ffurfiol a ffi statudol.

Pa ddogfennau a roddir i mi gan y cofrestrydd?

Bydd y Cofrestrydd yn anfon y gwaith papur gofynnol yn uniongyrchol at y trefnydd angladdau, bydd hyn yn caniatau ichi wneud trefniadau'r angladd.

Gellir prynu tystysgrifau marwolaeth am ffi o £11.00 yr un adeg ar gofrestru.

Byddwch yn cael manylion am y gwasanaeth Dywedwch Wryhym Unwaith.

Byddwch yn ymwybodol y ceir adegau pan fydd y Meddyg neu'r Cofrestrydd angen i gysylltu ag y Crwner. Ar adegau o'r fath, gallai oedi wrth gofrestru. Os cynhaliwyd archwiliad post mortem neu gwest, bydd y Crwner yn rhoi gwybod y broses i chi.

Cofrestru marwolaeth Iddewig neu Fwslimaidd

Rydym yn cydnabod mewn rhai crefyddau, fod y claddu gorfod digwydd o fewn 24 awr o farwolaeth.

Er mwyn sicrhau bod anwyliaid yn cael eu claddu o fewn yr amserlenni crefyddol, os digwyddodd y farwolaeth yn yr ardal, gellir gwneud trefniadau i Gofrestrydd fod ar gael i gofrestru'r farwolaeth a darparu'r gwaith papur priodol am angladd. Cysylltwch â'r Trefnydd Angladdau i wneud trefniadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru a gymeradwywyd gan y fforwm cymunedau ffydd.