Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mynwentydd

Mae gennym 9 mynwent ac un amlosgfa yn y mannau canlynol:

  • Y Cymer
  • Goetre
  • Margam
  • Ynysmaerdy
  • Cwmbedd (Giants Grave)
  • Onllwyn
  • Llanilltud Fach
  • Carmel
  • Godre’r Graig

​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae’r Swyddfa Fynwentydd yn y Ganolfan Ymateb i Wasanaethau, y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd SA11 2GG lle gall staff gynorthwyo teuluoedd mewn profedigaeth, Trefnwyr Angladdau a Saer Maen. Y rhif ffôn yw 01639 686121/ 686122/ 686147 ac mae ar agor rhwng Dydd Llun i Ddydd Iau 8:45yb - 4:00yp Dydd Gwener 8:45yb - 3:30yp.

Mae’r cyngor yn cydnabod anghenion y rhai mewn profedigaeth drwy ddarparu gwasanaeth mynwentydd urddasol a sensitif sy’n cynnig cymaint o ddewis â phosib i bobl fynegi eu galar yn y ffordd sydd fwyaf priodol iddynt. Rydym yn cyflawni hyn drwy wasanaeth cynhwysfawr sy’n:

  • Cynnal tiroedd mynwentydd i roi golwg bleserus phriodol
  • Rhoi ymateb effeithlon a chywir ar gyfer trefniadau claddu
  • Sicrhau bod yr holl adeiladau o fewn tiroedd y fynwent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda
  • Darparu gwasanaeth parchus ar gyfer claddedigaethau

Mae beddau newydd ar gael ym mynwentydd Margam, y Cymer, Llanilltud Fach, Ynysymaerdy, Godre’r-graig a Charmel. Yn amodol ar le, gall aelodau’r teulu hefyd gael eu claddu mewn beddau presennol. Mae ardaloedd wedi’u neilltuo ym mhob mynwent ar gyfer claddu llwch amlosgi gyda’r opsiwn i osod llechi coffa. Mae gan Mynwent Margam Ardd Plant Coffa.

Claddedigaethau Mwslimaidd

Mae ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer claddedigaethau Mwslimaidd ym Mynwentydd Llanilltud Fach a Margam.

Manylion trefnu claddedigaeth

Mae’r Swyddfa Fynwentydd yn gyfrifol am dderbyn manylion archebu gan y Trefnwyr Angladdau neu deuluoedd a hysbysu’r staff gweithrediadau o’r trefniadau. Lle bo’n bosib, gellir cynnal claddedigaeth 3 diwrnod gwaith clir ar ôl darparu’r holl wybodaeth berthnasol.

Mae Trefnwyr Angladdau’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn gywir a bod hawl gan yr ymgeisydd ail-agor bedd. Os yw cofeb i’w symud, bydd y Trefnwr Angladdau’n rhoi gwybod i’r Saer Maen a rhaid symud y gofeb cyn gynted â phosib ar ôl trefnu.

Rhaid derbyn yr hysbysiad claddu gan y Swyddfa Fynwentydd o leiaf 48 awr cyn claddu ynghyd â thaliad llawn. Pan brynir bedd neu lain amlosgi newydd, bydd yr ymgeisydd yn cael ei nodi fel perchennog hawliau’r bedd/llain a bydd yr Hawliau Echgynhwysol perthnasol yn cael eu hanfon at y person hwnnw. Mae’n hanfodol sicrhau bod yr aelod cywir o’r teulu’n cyflwyno cais, oherwydd wedi hynny, bydd ganddynt reolaeth gyfreithiol a chyfrifoldeb am gladdedigaethau yn y bedd a’r cofebion a roddir arni.

Rheolau ac arweiniad mynwent

Mae rheoli mynwentydd y cyngor yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977. Mae’r offerynnau statudol hyn yn nodi pwerau a dyletswyddau’r awdurdod claddu. Mae gan y cyngor ei Reolau a Rheoliadau Mynwentydd ei hun. I gael copi o'r Rheolau a'r Rheoliadau, cysylltwch â'r Swyddfa Mynwentydd. Staff y gwasanaeth claddu sy’n torri beddau ac yn paratoi ar gyfer claddedigaethau a gwneir hyn gyda pharch, effeithlonrwydd, diogelwch ac mewn ffordd gost-effeithiol.

Claddu eirch

Mae Trefnwyr Angladdau neu deuluoedd yn gofyn am ddyfnder bedd ar gyfer claddu ar adeg trefnu. Gwneir pob ymdrech i fodloni’r cais, er nad yw bob amser yn bosib cyflawni’r dyfnder dymunol oherwydd amodau tir gwael. Bydd teuluoedd yn cael gwybod am hyn pan na ellir cyflawni’r dyfnder y gofynnwyd amdano.

Mae’r gwasanaeth mynwentydd yn gweithredu ar y sail bod mesuriadau arch a geir gan y Trefnwyr Angladdau’n caniatáu am unrhyw ymwthio allan megis dolenni neu addurniadau. Yna, gwneir lwfans mewn dimensiynau gan weithwyr y fynwent er mwyn i’r arch gael ei gosod yn y bedd. Mae pob bedd yn cael ei gefnogi gan offer diogelu arbenigol a gellir ei ddefnyddio gydag arch ei huchafswm hyd yw 1980mm (6’6”). Mae maint eirch y tu hwnt i’r dimensiynau hyn yn gofyn am sylw arbenigol ac amser ychwanegol i baratoi’r bedd.

Weithiau, ceir ceisiadau i ail-agor beddau lle na wyddys beth yw’r dyfnder sy’n weddill. Mewn achosion o’r fath, efallai bydd angen profi dyfnder y bedd i weld a oes digon o ddyfnder ar gael. Bydd yr ymgeisydd neu’r Trefnwr Angladdau’n gyfrifol am benodi Saer Maen i symud unrhyw gofeb sydd ar y bedd.

Rhoddir matiau gwair o amgylch y bedd i roi ymddangosiad pleserus i’r sawl sy’n dod i’r angladd.

Llwch a amlosgwyd

Mae rhannau ym mhob mynwent ar gyfer claddu llwch. Mae pob llain yn llai na maint bedd llawn a gall gynnwys 4 set o lwch. Gall llwch a amlosgwyd hefyd gael ei gladdu mewn beddau maint llawn. Gall beddau maint llawn gynnwys nifer o lychau gwahanol ond dylid meddwl am y lle cyfyngedig ar gyfer arysgrifau ar gofebion.

Gwasgaru llwch

Mae gwasgaru llwch ym mynwentydd y cyngor yn gofyn am hysbysiad ffurfiol a chymeradwyaeth perchennog hawliau’r bedd. Codir ffi am y gwasanaeth hwn. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y cyngor i gynnal cofnodion yr holl gladdedigaethau gan gynnwys gwasgaru llwch.

Caniatáu hawliau echgynhwysol claddu a pherchnogaeth beddau a lleiniau amlosgi

Mae prynu Hawliau Claddu Echgynhwysol i fedd neu lain amlosgi yn rhoi hawl i’r perchennog bennu claddedigaethau yn y dyfodol ac i osod cofeb ar y bedd neu’r llain amlosgi (gweler y dudalen goffa). Nid yw’r hawliau’n golygu bod gennych unrhyw berchnogaeth ar y tir sy’n parhau gyda’r cyngor. Pan fydd perchennog y grant yn cael ei gladdu yn y bedd, gall yr hawl gael ei drosglwyddo i berson arall drwy Drosglwyddiad neu Ddatganiad Statudol yn amodol ar gytundeb holl aelodau’r teulu y mae ganddynt hawl i berchen yr hawliau a drosglwyddwyd.

Cofebion

Gall cofebion chwarae rhan bwysig yn y broses alaru, sy’n ganolbwynt wrth ymweld ac yn atgof parhaus o’r ymadawedig. Mae amrywiaeth o gofebion o’r fath wedi’u nodi yn Rheolau a Rheoliadau Mynwent y cyngor. I gael copi o'r Rheolau a'r Rheoliadau, cysylltwch â'r Swyddfa Mynwentydd.

Ceisiadau trwydded am gofebion

Rhaid i’r Swyddfa Fynwentydd gymeradwyo pob cofeb newydd ac unrhyw newidiadau i gofebion presennol cyn dechrau ar unrhyw waith. Rhaid i geisiadau am drwyddedau gynnwys manylion dyluniadau, dimensiynau a geiriad.

Profion cofebion mewn mynwentydd a rheolir gan y Cyngor

Mae polisi diogelwch cofebion sy'n ffurfioli'r gweithdrefnau gweithio cyfredol ar gyfer profi diogelwch cerrig beddau, henebion a chofebion mynwentydd eraill wedi'i sefydlu.

Ffioedd a thaliadau mynwentydd 2023/2024

Hawl claddu echgynhwysol:- Ffi

Prybu Bedd Newydd (dyfnder o 2)

£1,061.00

Bedd Llawn ar gyfer Llwch a Amlosgwyd yn Unig

£737.00

Prynu Llain Amlosgi Newydd

£502.00

Estyn Hawliau Claddu Echgynhwysol

£530.00

Claddedigaethau:-

 

Ffi Gladdu

£893.00

Claddu Llwch

£391.00

Claddu Gweddillion Amlosgedig mewn bedd newydd- dyfnder llawn £893.00

Gwasgaru Llwch

£98.00

Gosod/ Tynnu Llwch o Fowt

Mynwent y Cymer yn Unig

£98.00

Tâl Ychwanegol am Gladdu ar ddydd Sadwrn

Ffi gladdedigaeth + 50%

Prawf Palu

£291.00

Person dan 18 oed (yn cynnwys gweddillion marw-anedig a ffetws)

Dim ffi yn uniongyrchol yn ymwneud â chladdu safonol. grant a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Eraill:-

 

Gosod Carreg Goffa a Chofeb

£224.00

Gosod cofeb ychwanegol

(drws nesaf i’r gofeb bresennol)

£113.00

Ychwanegu Arysgrif

£113.00

Newid Cofeb

£113.00

Chwilio Cofnodion Mynwent

£51.00

Siambr Gladdu (I'w defnyddio gyda beddi bas neu dewis teulu) £664.00
Ffurflenni Cyfreithiol yn pwrpasol £40.00

Y Swyddfa Fynwentydd

  • Canolfan Ymateb Gwasanaethau, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan , Castell-nedd, SA11 2GG
  • Ffon: (01639) 686121 / 686122 / 686147
  • E-bost: cemeteries@npt.gov.uk
  • Oriau Swyddfa: Dydd Llun i Ddydd Iau 8:45yb - 4:00yp Dydd Gwener 8:45yb - 3:30yp.