Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Priodasau

Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot - Yn gyfreithiol dim ond chwech o bobl sydd angen bod yn bresennol mewn seremoni briodas: y cwpl, dau dyst a'r ddau Gofrestrydd. Uchafswm nifer y bobl sy’n gallu mynychu yw 27 (y cwpl a hyd at 25 o westeion sy’n cynnwys plant).

Sut rydym yn trefnu i briodi?

Cyn y gallwch briodi yng Nghymru neu Loegr, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad o'ch bwriad i briodi i'r uwch-gofrestrydd yn y dosbarth lle rydych yn byw neu, os ydych yn bwriadu priodi yn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru, dylech gael y ficer i ddarllen gostegion. Ni allwch roi hysbysiad o'ch bwriad i briodi i uwch-gofrestrydd fwy na 12 mis cyn eich priodas ac, fel arfer, darllenir gostegion o fewn 3 mis cyn priodas mewn eglwys. Codir tâl arnoch am gyflwyno'ch hysbysiad, sy'n £35.00 y person ar hyn o bryd. Er mwyn trefnu apwyntiad i gyflwyno hysbysiad o briodas, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01639 760020 neu 01639 760021.

Fodd bynnag, i gadw lle dros dro, weithiau hyd at 3 flynedd cyn y dyddiad, dylech gysylltu â'r swyddfa o'ch dewis, ond mae'n RHAID i chi gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol i roi hysbysiad yn y dosbarth neu'r dosbarthau lle mae'r ddau ohonoch yn byw. Ni ellir gwneud hyn fwy na 12 mis cyn eich priodas. Os ydych wedi cadw lle dros dro, dylech roi hysbysiad cyn gynted ag y gallwch wneud hynny'n gyfreithiol.

Pa mor fuan ar ôl rhoi hysbysiad allwn ni briodi?

Mae'n rhaid aros 28 diwrnod clir (heb gynnwys y diwrnod rydych yn rhoi hysbysiad na'r diwrnod cyflwyno) cyn y gallwch briodi.

Pan fydd y cyfnod hysbysu’n gyflawn, awdurdodir y briodas neu’r bartneriaeth sifil, a gellir cynnal y seremoni unrhyw bryd dros y 2 mis nesaf yn y lleoliad a nodwyd. Os caiff y lleoliad ei newid am unrhyw reswm, bydd yn rhaid i chi roi hysbysiadau newydd a thalu’r ffi statudol eto.

Gallwch gasglu'r awdurdodau ar gyfer y briodas o'r dosbarth/dosbarthau lle rhoddwyd hysbysiad unwaith y daw'r cyfnod aros i ben.

Yr awdurdodau yw'r dogfennau cyfreithiol sy'n caniatáu i chi briodi.

Mae'n rhaid i chi roi eich awdurdodau i uwch-gofrestrydd y dosbarth lle byddwch yn priodi.

Pa ddogfennau y bydd rhaid i ni eu dangos er mwyn cyflwyno Hysbysiad o Briodas?

Pan fyddwch yn rhoi hysbysiad o briodas, bydd rhaid i chi ddarparu:

Dau fath o ddogfen adnabod. Pasbort Prydeinig llawn a chyfredol yw'r ddogfen a ffefrir i brofi'ch hunaniaeth a'ch cenedligrwydd, ynghyd â thystysgrif geni lawn. Tystiolaeth gefnogol; gall fod yn drwydded yrru neu'n gerdyn meddygol y GIG.

Os cawsoch eich geni ar ôl 1983, bydd rhaid i chi ddangos Pasbort Prydeinig. Os nad oes gennych Basbort Prydeinig, bydd rhaid i chi ddangos Pasbort Prydeinig neu dystysgrif geni eich mam.

Un ddogfen fel prawf o'ch cyfeiriad. Gall hyn fod yn gyfriflen banc, yn fil cyfleustod neu'n gyfriflen treth y cyngor etc. a ddyddiwyd yn ddiweddar sy'n dangos eich cyfeiriad cyfredol.

Yn ogystal, os ydych wedi cael ysgariad yng Nghymru neu'n Lloegr, bydd rhaid i ni weld copi o'r archddyfarniad absoliwt (y papur ysgaru terfynol) â stamp y llys arno. Os cawsoch ysgariad mewn gwlad dramor, bydd rhaid i ni weld y ddogfen wreiddiol a gyflwynwyd gan y wlad honno a chyfieithiad Saesneg os yw'r ddogfen mewn iaith dramor.
Os ydych yn ŵr gweddw neu'n wraig weddw, bydd rhaid i ni weld copi ardystiedig o dystysgrif marwolaeth eich partner ymadawedig a gyflwynwyd gan awdurdodau cofrestru'r wlad lle bu farw.
Os ydych yn wraig weddw, bydd rhaid dangos eich tystysgrif priodas hefyd.

Os yw un ohonoch dan 18 oed, bydd rhaid i ni weld tystiolaeth bod eich rhieni neu eich gwarchodwr yn cytuno i'r briodas. Os yw eich rhieni wedi ysgaru, efallai y bydd angen i chi hefyd ddarparu'r gorchymyn llys sy'n rhoi gwarchodaeth i un ohonynt. Bydd yr uwch-gofrestrydd yn rhoi cyngor i chi ar y mater hwn.

Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod eich priodas?

Os ydych yn priodi mewn Swyddfa Gofrestru neu mewn mangre gymeradwy, bydd y cofrestrydd yn gweld y ddau ohonoch yn breifat cyn y briodas. Diben hyn yw gwirio'r manylion a nodoch ar y gofrestr briodi. Bydd y cofrestrydd yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol gan y ddau ohonoch:

  • Eich enw llawn, oed, swydd a chyfeiriad eich cartref ar ddiwrnod eich priodas.
  • Enw llawn a swydd eich tad ac a ydyw wedi ymddeol neu wedi marw.

Mae gennych gyfrifoldeb i ddarparu dau dyst i'r briodas; ffrindiau neu berthnasau fel arfer. Mae'n rhaid iddynt allu deall yr hyn sy'n digwydd a gallu rhoi tystiolaeth o'r hyn y maent wedi'i weld a'i glywed petai mater annhebygol yn codi lle byddai hyn yn angenrheidiol.

Ar gyfer priodasau mewn mangre cymeradwy mae'n rhaid i chi gytuno ar y math o eiriau a ddefnyddir, ynghyd ag unrhyw ddarlleniadau neu gerddoriaeth a gaiff eu cynnwys, gyda'r uwch-gofrestrydd cyn diwrnod y briodas.

Ar ôl i'r seremoni ddod i ben, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi wirio bod eich manylion wedi cael eu nodi'n gywir yng nghofrestr y briodas cyn gofyn i chi lofnodi'r gofrestr.

Bydd yr uwch-gofrestrydd yn rhoi gwybodaeth i chi ymlaen llaw am ddefnyddio recordwyr fideo a chamerâu.

Ble gallwn briodi?

Mae opsiynau amrywiol bellach ar gael ar gyfer priodasau sifil neu grefyddol yng Nghymru a Lloegr.

Seremonïau Sifil

Gallwch ddewis i briodi mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr, er nad ydych yn byw yn nosbarth y swyddfa honno. Gallwch hefyd briodi mewn seremoni sifil mewn unrhyw fangre gymeradwy.
Swyddfa Gofrestru Castell-Nedd Port Talbot.

Mae Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot yn Heol Forster, Castell-nedd SA11 3BN.

Mae'r Swyddfa Cofrestru ar y llawr gwaelod ac mae ganddi fynediad i gadeiriau gwthio a phobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Caiff cerddoriaeth gefndir ei chwarae pan fyddwch yn llofnodi'r gofrestr, a gall parau hefyd ddarparu eu cerddoriaeth eu hunain ar gyfer y seremoni.

Priodasau Sifil mewn Mangreoedd Cymeradwy

Ers 1 Ebrill 1995, gellir cynnal priodasau sifil mewn adeilad ar wahân i Swyddfa Gofrestru y maent wedi cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol fel lleoliad addas ar gyfer seremonïau priodas. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnwys cestyll, bwytai, gwestai, adeiladau dinesig a phlastai gwledig.

Ni chaniateir cynnal priodasau yn yr awyr agored, mewn pabell neu babell fawr, neu mewn strwythurau dros dro neu symudol, megis cychod neu falwnau aer poeth.

Yn yr un modd, ni chaniateir cynnal priodas sifil mewn unrhyw adeilad sydd â chysylltiad ag unrhyw grefydd, naill ai yn y gorffennol neu'r presennol.

Os ydych yn dewis cynnal eich priodas mewn mangre gymeradwy, bydd rhaid i chi gytuno ar y dyddiad a'r amser gydag uwch-gofrestrydd y dosbarth lle mae'r lleoliad er mwyn sicrhau y gall swyddogion cofrestru fod yn bresennol yn eich priodas ar y dyddiad a'r amser o'ch dewis.

Ar ôl cytuno ar y dyddiad a'r amser, bydd rhaid i chi ymweld â Swyddfa Gofrestru'r dosbarth lle rydych yn byw er mwyn rhoi hysbysiad, fel yr eglurwyd yn gynharach.

Caiff y ffïoedd ar gyfer presenoldeb swyddogion cofrestru mewn priodasau mewn mangreoedd cymeradwy eu pennu gan awdurdodau lleol unigol ac felly ni fyddant yr un peth ym mhob rhan o'r wlad. Mae hyn yn ychwanegol i unrhyw ffïoedd a godir gan y fangre.

Isod ceir rhestr o'r lleoliadau sydd wedi'u trwyddedu i gynnal seremonïau sifil yn y fwrdeistref sirol hon.

Priodas mewn eglwys, capel neu adeilad crefyddol arall

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am briodasau mewn eglwys sefydledig (naill ai Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru) dylech holi ficer eich eglwys blwyf leol.

Os ydych yn bwriadu priodi mewn unrhyw adeilad crefyddol arall, mae'n rhaid i chi roi hysbysiad yn Swyddfa Gofrestru'r dosbarth lle rydych yn byw, fel y disgrifiwyd eisoes.

Er bod y gyfraith ar gyfer seremonïau sifil wedi newid er mwyn caniatáu i barau briodi yn y Swyddfa Gofrestru neu'r fangre gymeradwy o'u dewis, nid yw'r gyfraith ar gyfer priodasau crefyddol wedi newid. Mae hyn yn golygu y gallwch ond briodi mewn adeilad crefyddol mewn dosbarth gwahanol i le mae un ohonoch yn byw os yw un ohonoch yn addoli yno fel arfer.

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch neu os hoffech gael gwybodaeth am ffïoedd presennol, ffoniwch 01639 760020.

Cofrestr o Fangreoedd Cymeradwy

Tystysgrif Dim Rhwystr 

Os ydych yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil y tu allan i Gymru a Lloegr, mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn dibynnu ar y wlad lle bydd eich seremoni'n cael ei chynnal.

Os ydych am briodi dramor efallai y gofynnir i chi gael dogfennau penodol oddi wrth Lywodraeth y DU, gan gynnwys Tystysgrif Dim Rhwystr.  

Mae gan wefan gov.uk fwy o fanylion am briodi dramor gan gynnwys offeryn ar-lein i ddarganfod pa ddogfennau y mae angen i chi eu cael a sut i wneud cais amdanynt. 

Bydd angen i chi ymgynghori â'r awdurdodau yn y wlad lle'r ydych yn bwriadu cynnal eich seremoni gyfreithiol ynghylch y pwyntiau canlynol:

  • Pryd y dylwn i wneud cais i'm Swyddfa Gofrestru leol am Dystysgrif Dim Rhwystr
  • A fydd angen i mi gael y Dystysgrif Dim Rhwystr wedi'i 'chyfreithloni' drwy gael ymylnodyn
  • A fydd angen i mi gael cyfieithiad o'r ddogfen hon

Os ydych yn dymuno trefnu i gael Tystysgrif Dim Rhwystr, bydd angen i chi drefnu apwyntiad hysbysiad o briodas. Unwaith y byddwch wedi bod i'r apwyntiad, bydd y dystysgrif/tystysgrifau yn barod i'w casglu ar ôl 28 niwrnod clir.

Os oes angen 'cyfreithloni' eich Tystysgrif Dim Rhwystr, dylech wneud cais i'r Swyddfa Gyfreithloni.

Bydd y Swyddfa Gyfreithloni yn gwirio'r ddogfen ac yn gallu atodi 'ymylnodyn' (tystysgrif swyddogol wedi'i stampio). www.gov.uk/get-document-legalised

Enw'r Fangre Manylion Cyswllt
Gwesty Traeth Aberafan AA/RAC 3 Seren
Port Talbot
SA12 6QP
Telephone: (01639) 884949
Gwesty Blancos Parc Gwyrdd
Port Talbot
Rhif ffôn: (01639) 864500
Gwesty Glyn Clydach Heol Longford
Dyffryn
Castell-nedd
SA10 7AJ
Rhif ffôn: (01792) 818411
Orendy Margam Parc Gwledig Margam
Margam
Port Talbot
SA13 2TJ
Rhif ffôn: (01639) 881635
Gwesty'r Grand

Heol yr Orsaf,

Port Talbot

SA13 1DE

Gwesty'r Castell Y Parêd
Castell-nedd
SA10 1RB
Rhif ffôn: (01639) 641119
The Coach House Glyn Clydach Heol Longford
Mynachlog Nedd
Castell-nedd
SA10 7AJ
Rhif ffôn: (01792) 818411
Gwesty'r Towers Jersey Marine
Bae Abertawe
SA10 6JL
Rhif ffôn: (01792) 814155
Celtic Lodge

36 Heol Westernmoor
Castell-nedd
SA11 1BZ
Rhif ffôn : (01639) 644600