Ffurfio partneriaeth sifil
Mae Cofrestru Partneriaeth Sifil ar gyfer parau o'r un rhyw sy'n oedolion ac yn dymuno llofnodi cytundeb gyfreithiol rwymol.
Daeth y Ddeddf Partneriaeth Sifil i rym ar 5 Rhagfyr 2005.
Mae'n ofynnol bod pob awdurdod lleol yn darparu cyfleuster ar gyfer rhoi hysbysiad o fwriad i gofrestru partneriaeth sifil ac i ffurfio partneriaethau sifil.
Mae'r llywodraeth wedi ymdrechu i roi'r un driniaeth i barau o'r un rhyw â pharau heterorywiol, cyn belled ag y bo modd, o ran yr hawliau a'r cyfrifoldebau a ddaw yn sgîl ffurfio partneriaeth sifil.
Mae'n bosib ffurfio partneriaeth sifil mewn Swyddfa Gofrestru, neu mewn mangre gymeradwy sydd â thrwydded. Caiff partneriaeth sifil ei ffurfio ar ôl i bâr lofnodi'r atodlen gofrestru o flaen swyddog cofrestru a dau dyst.
Gellir terfynu Partneriaeth Sifil Gofrestredig drwy'r llys yn unig, yn debyg i'r broses ysgaru.
Nid oes rhaid cael seremoni fel rhan o'r broses gyfreithiol, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot rydym yn cynnig seremonïau amrywiol er mwyn helpu i wneud y diwrnod yn arbennig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gadw lle dros dro, ffoniwch 01639 760020/760021.