Amlosgfa Margam
Er ei fod yn cael ei werthfawrogi'n llawn mae colli rhywun annwyl yn anodd ac yn straen mawr, byddai'r Amlosgfa yn cynghori'r cyhoedd ei bod yn dal yn ofynnol o hyd i gynnal asesiad risg o ran mynychu angladdau.
Mae asesiad risg llawn wedi'i gynnal ar y cyd â Swyddogion Iechyd a Diogelwch y Cyngor a Swyddogion Tân ac fe gytunwyd mai'r uchafswm a ganiateir yn y Prif Neuadd / Capel yw 170. Mae hyn yn cynnwys: Yn eistedd – 135. Sefyll – 35. Yn ogystal â hyn bydd 25 person yn cael mynd i'r ystafell aros lle mae sgrin a seinydd yn caniatáu i'r gwasanaeth gael ei arsylwi.
Bydd y seinyddion tu allan yn cael eu troi ymlaen er hwylustod i'r rhai sy'n methu mynd i mewn i'r capel.
Mae’r Capel Coffa ar agor ar gyfer gwylio Llyfrau Coffa er nad oes modd gweld dyddiau ar wahân i'r dudalen bresennol ar hyn o bryd. Bydd y capel hwn ar gau 30 munud cyn cau’r gatiau.
Gellir gadael teyrngedau o flodau yn y Capel Coffa ac yn y prif gapel, a gellir cadw Fâs Ffenestr a Fâs yr Allor hefyd.
Nodwch fod swyddfa'r Amlosgfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd er bod modd gwneud apwyntiadau yn ôl yr angen.
Gellir cael rhagor o wybodaeth a gwneud ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys cofnodion y Llyfr Cofio a cheisiadau / adnewyddiadau i ymylfaen, dros y ffôn ar 01639 883570 neu e-bostiwch margam.crematorium@npt.gov.uk
Oriau agor
Diwrnod | Amser (Gerddi) |
---|---|
Dydd Llun |
9.00yb - 5.00yp |
Dydd Mawrth | 9.00yb - 5.00yp |
Dydd Mercher | 9.00yb - 5.00yp |
Dydd Iau | 9.00yb - 5.00yp |
Dydd Gwener | 9.00yb - 4.30yp |
Dydd Sadwrn | 9.00yb - 4.00yp |
Dydd Sul | 11.00yb - 4.00yp |
Sul y Mamau, Sul y palmwydd, Sul y Pasg a Sul y Tadau
9.00yb - 4.00yp (Gerddi)
Mannau parcio i'r anabl
Mae 8 lle parcio i bobl anabl yn yr Amlosgfa gyda ramp ar gael i gael mynediad i'r prif "ardal aros".
Mae'r brif swyddfa yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn yn ogystal â'r prif gapel ynghyd â'r Capel Coffa.
Cysylltwch ag Amlosgfa Margam
Amlosgfa Margam
Longlands Lane,
Margam,
Port Talbot
SA13 2NR
margam.crematorium@npt.gov.uk
(01639) 883570
(01639) 894940
Mae'r Uwcharolygydd a'r staff yn darparu cyngor a gwasanaethau i chi pan fydd eisiau arweiniad a gwybodaeth amoch.
Gellir gwneud ymholiadau yn Swyddfa'r Amlosgfa