Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dweud Wrthym Unwaith...

Rydym yn darparu gwasanaeth o'r enw 'Dweud Wrthym Unwaith' ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud pethau'n haws i chi pan fydd rhywun wedi marw. Mae'n rhaid gwneud llawer o bethau pan fydd rhywun yn marw a hyn yn aml ar adeg pan nad ydych awydd eu gwneud o gwbl. Efallai bydd rhaid i chi gysylltu â sawl sefydliad arall a rhoi'r un wybodaeth iddynt.

Beth ydyw?

Mae 'Dweud Wrthym Unwaith' yn wasanaeth lle rydym yn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedyn yn ei throsglwyddo i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau'r awdurdod lleol gan arbed amser i chi.

Cofrestru marwolaeth

Pan fydd rhywun wedi marw, mae angen cofrestru ei farwolaeth gyda’r cofrestrydd lle digwyddodd y farwolaeth. I gofrestru marwolaeth gyda Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot, bydd angen i chi wneud apwyntiad drwy ffonio un o'r rhifau canlynol:

  • 01639 760021

Ar ôl gwneud hynny, efallai bydd angen cysylltu â nifer o sefydliadau eraill i roi’r un wybodaeth iddynt.

Sut gall y gwasanaeth eich helpu chi?

Rydym yn darparu gwasanaeth lle gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maent wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth i adrannau'r llywodraeth a'r cyngor sydd angen gwybod. Mae hyn yn arbed amser ac arian i chi.

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth:

  • Yn bersonol pan fyddwch yn cofrestru'r farwolaeth

Mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad i weld y cofrestrydd i gofrestru’r farwolaeth a gallech ddefnyddio'r gwasanaeth yn ystod yr un ymweliad.  

 phwy allwn ni rannu gwybodaeth?

Os byddwch yn penderfynu defnyddio’r gwasanaeth hwn, byddwch yn gallu dweud wrth y sefydliadau canlynol: 

Adran Gwaith a Phensiynau

  • Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Tîm Iechyd Tramor

Y Weinyddiaeth Amddiffyn, Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr

  • Cynllun Pensiynau Rhyfel

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi:

  • Swyddfa Budd-dal Plant
  • Credydau Treth Plant a'r Credyd Treth Gwaith
  • Trethiant Personol

Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • Pasbort y DU 

Cynghorau Lleol

  • Swyddfa Budd-dal Tai
  • Swyddfa Budd-dal Treth y Cyngor

Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth â'r sefydliadau hyn os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny:

Cynghorau Lleol

  • Llyfrgelloedd
  • Gwasanaethau i Oedolion
  • Casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor
  • Gwasanaethau Etholiadol
  • Treth y Cyngor
  • Bathodynnau Glas
  • Gwasanaethau Plant 
  • Tocyn Bws
  • Cynllun Pensiwn Awdurdod lLeol

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau:

  • Trwydded Yrru 

Gwasanaethau ychwanegol a gynigir

Os ydych yn dod i weld Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid, bydd yn gallu rhoi gwybodaeth ac arweiniad arall i chi am sefydliadau a all eich helpu.

Sut bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio?

Bydd yr wybodaeth a rannwch yn cael ei thrin yn ddiogel ac yn gyfrinachol. Bydd y sefydliadau y cysylltir â hwy yn defnyddio'r wybodaeth i ddiweddaru cofnodion, i roi terfyn ar wasanaethau, budd-daliadau a chredydau fel y bo'n briodol ac i ddatrys unrhyw faterion sy'n weddill. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon mewn ffyrdd eraill, ond fel y mae’r gyfraith yn caniatáu yn unig.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth

I sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhannu ag unrhyw sefydliad rydym yn cysylltu ag ef ar eich rhan er mwyn i chi fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn dod â’r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn sydd wedi marw gyda chi:

  • Ei rif Yswiriant Gwladol a'i ddyddiad geni
  • Manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau roedd yn ei dderbyn
  • Ei dystysgrif marwolaeth
  • Ei Drwydded Yrru neu Rif ei Drwydded Yrru 

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi am fanylion cyswllt:

  • Ei berthynas agosaf
  • Unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi
  • Y person sy’n delio â’i ystad

Mae’n rhaid i chi gael cytundeb yr unigolion a restrir uchod os ydych yn mynd i rannu gwybodaeth amdanynt â ni.

Perthynas Agosaf

Os mai chi yw’r berthynas agosaf (perthynas agosaf i’r unigolyn ymadawedig drwy waed neu briodas) efallai y bydd eich hawliad i fudd-daliadau yn newid, felly dylech gael eich rhif Yswiriant Gwladol eich hun a/neu eich dyddiad geni wrth law pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Os nad chi yw’r berthynas agosaf, neu’r person sy’n delio ag ystad yr unigolyn ymadawedig (y person sy’n didoli ei eiddo a'i arian), gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn o hyd os cewch ei ganiatâd i rannu’r manylion ac i weithredu ar ei ran.

Preifatrwydd

Mae’r gwasanaeth hwn yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu. Mae ein datganiad preifatrwydd yn nodi sut byddwn yn defnyddio ac yn diogelu’r wybodaeth rydych yn ei darparu pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Gofynnwch i’r ymgynghorydd os ydych yn dymuno gweld y datganiad preifatrwydd llawn.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gan yr holl sefydliadau sy’n talu budd-dal/credyd neu’n darparu gwasanaeth i chi yr wybodaeth gywir a diweddaraf amdanoch chi.


Ffôn 01639 760021 neu e-bostwch registrars@npt.gov.uk