Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cofrestru marwolaeth

Ar ôl i rywun farw, bydd arholwr meddygol yn gwirio achos y farwolaeth i sicrhau ei fod yn gywir.

Yna bydd swyddfa'r arholwr meddygol yn cysylltu â chi i:

  • esbonio achos y farwolaeth
  • ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hyn, neu'r gofal iechyd a ddarperir i'r person cyn iddynt farw
  • rhoi gwybod i chi y gallwch wneud apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth (rhaid i hyn fod o fewn 5 diwrnod calendr)

Os caiff y farwolaeth ei chyfeirio at y crwner, bydd yn eich hysbysu pryd i drefnu apwyntiad i'w chofrestru.

Dilynwch y broses gam wrth gam ar gyfer cofrestru marwolaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.