Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Camlesi Castell-nedd a Thenant

Ewch am dro dymunol a thawel trwy dirweddau hanesyddol sydd heb eu difetha

Pethau i'w gweld

Yn aml yn cael eu hystyried fel un, mae camlesi Castell-nedd a Thenant yn ddwy gamlas annibynnol, gysylltiedig. Mae'r camlesi yn gyfoethog o ran treftadaeth, gan gynnwys:

  • 27 o adeiladau / strwythurau o ddiddordeb lleol
  • ardal Gadwraeth (Depo Camlas Castell-nedd)
  • nifer fawr o Adeiladau Rhestredig Gradd II
  • tair heneb gofrestredig

Camlas Castell-nedd

Wedi'i hagor ym 1795, mae camlas Castell-nedd yn 13 milltir o hyd. Mae'n rhedeg o Lansawel i ganol tref Castell-nedd, i fyny Cwm Nedd i Lyn-nedd.

Camlas Tenant

Wedi'i hagor yn 1824, mae camlas Tenant yn 8 milltir o hyd. Mae'n rhedeg o Jersey Marine trwy Sgiwen ac yn ymuno â chamlas Castell-nedd yn Aberdulais.

Teithiau cwch

Mae Ymddiriedolaeth y Gamlas yn gweithredu cwch taith 20 troedfedd ar gyfer teithiau cyhoeddus a llogi grŵp o'r Pasg tan ddiwedd mis Medi.

Taith gerdded

Mae dau lwybr y gallwch eu cymryd i weld harddwch camlesi Castell-nedd a Thenant:

  1. taith gerdded camlas Castell-nedd - Aberdulais i Resolfen
  2. llwybr treftadaeth Aberdulais - Tonna, Aberdulais, Gwaith Tun a rhaeadr

Taith beicio

Yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gallwch ddilyn y llwybrau canlynol i gamlesi Castell-nedd a Thenant:

  • llwybr cenedlaethol 4 - ar hyd camlas Tenant i Jersey Marine
  • llwybr cenedlaethol 47 - ar hyd llwybr tynnu camlas Castell-nedd

Bywyd gwyllt

Bydd byrddau gwybodaeth ar hyd y camlesi yn dweud wrthych pa fywyd gwyllt sydd yn yr ardal. Efallai y gwelwch:

  • dyfrgwn
  • elyrch
  • glas y dorlan
  • hwyaid wyllt
  • siglen braith
  • titw tomos las a titw mawr
  • trochwr