Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

CDLl a Fabwysiadwyd (2011-2026)

Y CDLl bellach yw'r cynllun datblygu ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, gan ddisodli'r Cynllun Datblygu Unedol, ac mae'n darparu sylfaen ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynllunio defnydd tir yn y Fwrdeistref Sirol hyd at 2026.

Sut mae defnyddio'r ddogfen hon

Rhaid darllen y Cynllun Datblygu Lleol yn ei gyfanrwydd. Mae pob un o'r polisïau yn gysylltiedig â'i gilydd, ac mae'n rhaid eu darllen gyda'i gilydd i ddeall eu heffaith gyfun ar unrhyw gynnig cynllunio.

Strwythur y ddogfen

Strwythurwyd y ddogfen hon fel a ganlyn:

1. Cyflwyniad a Chefndir: yma ceir cyflwyniad cyffredinol i'r ardal a phrif nodweddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys gwybodaeth gefndir, y cyd-destun polisi a'r materion allweddol a nodwyd ar gyfer yr ardal.

2. Y Strategaeth: yma amlinellir Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun, gan roi esboniad ar y strategaethau twf a gofodol cyffredinol ar gyfer cyflawni'r amcanion a nodwyd, gan gynnwys gwahaniaethu rhwng Coridor yr Arfordir ac ardaloedd strategaeth y Cymoedd, a'r dulliau gwahanol sy'n berthnasol iddynt.

3. Polisïau Trosfwaol: yma cyflwynir polisïau trosfwaol y Cynllun, sy'n ymwneud â'r materion y bernir eu bod ymhlith y pwysicaf i'r Fwrdeistref Sirol gyfan.

4. Polisïau Ardal: yma cyflwynir y gwahanol ddulliau o ymdrin â dwy ardal y strategaeth.

5. Polisïau Pynciol: yma cyflwynir polisïau pynciol strategol a manwl y Cynllun, sy'n dangos sut gweithredir strategaeth gyffredinol y Cynllun, gan gynnwys dyraniadau safle-benodol.

6. Gweithredu a Monitro: yn gyntaf yma cyflwynir manylion cyflawni a gweithredu, gan roi syniad o pryd disgwylir i safleoedd gael eu cynnig, pwy fydd yn gyfrifol am roi'r datblygiad ar waith, a'r ffynonellau ariannu. Yn ail, mae'n cwmpasu'r fframwaith monitro, y dangosyddion allweddol, a’r targedau a'r sbardunau ar gyfer gweithredu pellach yng nghyswllt pob polisi, gan greu sail ar gyfer asesu effeithiolrwydd polisïau'r Cynllun. Yr adran hon o'r Cynllun sy'n darparu sail ar gyfer cynhyrchu'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB).

7. Canllaw Cynllunio Atodol: yma cyflwynir manylion y Canllawiau Cynllunio Atodol a gyflwynir i gefnogi'r Cynllun.

8. Map o'r Cynigion: yma dangosir, ar sylfaen Arolwg Ordnans, lleoliad daearyddol a chwmpas y datblygiad safle-benodol a'r polisïau amddiffyn.

Datganiad Mabwysiadu'r CDLl

Wrth ei fabwysiadu mae'r Cyngor hefyd wedi paratoi datganiad sy'n nodi beth yw'r Cynllun, cwmpas yr arfarniad a gynhaliwyd, a sut mae canfyddiadau'r arfarniad wedi derbyn sylw.