Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Polisi Cynllunio/Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt

  1. Wrth rhoi eich gwybodaeth bersonol i ni, rhydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a roddwch (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

  2. Bydd y data personol a gasglwn gennych yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (yn unol â chyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol: Polisi Cynllunio (Cynllun Datblygu Lleol), Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt (gan gynnwys prosiectau, gwybodaeth i wirfoddolwyr a Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PROW).

  3. Fel Rheolwr Data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR roi gwybod i chi pa un o'r "Amodau Prosesu Data" y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, cofiwch ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 canlynol o ran y data a ddarperir gennych:

    • "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU).
    • "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd." (Erthygl 6 (1)(e) GDPR y DU).

  4. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda’r trydydd partïon canlynol (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i’r Cyngor) yn unol â threfniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda’r trydydd partïon hynny - Partner trydydd parti os ydynt yn rhan o brosiect ar y cyd â CNPT.

  5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:

    • Polisi Cynllunio - Gwybodaeth gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol  (CDLl) – a gedwir am uchafswm o 15 mlynedd.
    • Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
    • Gwybodaeth i wirfoddolwyr – a gedwir drwy gydol y gwirfoddoli. 
    • Rhestrau Postio – Partneriaeth Natur Leol, NPT4Nature, Fforwm Mynediad Lleol, rhestrau postio prosiectau – yn cael eu cadw tra byddwch yn y grŵp.
    • Prosesau cyfreithiol Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) – Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (PEDW) – yn cael eu cadw am 10 mlynedd oni bai bod Deddfwriaeth neu ddibenion tebyg yn mynnu hynny.
    • Gweithredu Bioamrywiaeth – Ymddiriedolwyr – a gedwir tra byddwch yn aros yn y grŵp.
    • Data Prosiect - Cyfranogwyr - Data a gasglwyd gan gyfranogwyr y gweithgaredd yw fel arfer yn ddienw. Fel arall, ei gadw am hyd y prosiect ac am gyfnod ar ôl prosiect a ddiffinnir gan ofynion grant.
  1. Sylwer bod gofyn i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath, gall methiant gennych i ddarparu'r wybodaeth honno i ni arwain at fethu â darparu gwasanaeth i chi a/neu gallai olygu eich bod yn atebol i achos cyfreithiol.

  2. Byddem yn eich hysbysu bod gennych hawl o dan Erthygl 21 y DU i wrthwynebu'r Awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

  3. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd. Bydd prosesu eich data personol gennym ni yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.

  4. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  5. Sylwer, o dan GDPR y DU, bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o ran eu data personol:

    • Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
    • Yr hawl i gael data anghywir wedi'i gywiro gan reolwr data.
    • Yr hawl i gael eu data wedi’i ddileu (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
    • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
    • Yr hawl i wrthwynebu defnyddio eu data ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    • Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth       

  1. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’n defnydd o’ch data personol, os ydych yn dymuno cael mynediad at yr un peth neu os ydych yn dymuno gwneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwyr, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

  2. Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data’r Cyngor (gweler 11 uchod) a’ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno’n uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth