Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canllawiau cynllunio Atodol

Mae defnydd dethol o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn fodd i gyflwyno canllawiau mwy manwl ar bynciau neu safleoedd penodol, neu sut bydd polisïau'r CDLl yn cael eu cymhwyso o dan amgylchiadau neu mewn ardaloedd arbennig. Er mai polisïau yn y CDLl yn unig sydd â statws arbennig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gellir rhoi sylw I, CCA fel ystyriaeth bwysig.

Mae'r Cyngor felly wedi cynhyrchu'r rhestr ganlynol o CCA y mae'n bwriadu eu cynhyrchu a/neu eu diweddaru yn ystod cyfnod y Cynllun. Er eglurder, rhoddir rhif polisi arfaethedig y CDLl, y bydd y CCA yn rhoi eglurhad pellach arno, ynghyd â dyddiad cwblhau disgwyliedig.

Pan gaiff y CDLl ei fabwysiadu a'i roi ar waith, gallai ddod yn amlwg bod angen rhagor o CCA i egluro rhai o bolisïau'r Cynllun. Gallai fod angen, felly, i'r Cyngor gyflwyno CCA ar ben y rhai a amlinellwyd isod.

Cyfeirnod Polisi CDLl Enw'r Polisi Canllawiau Cynllunio Atodol Dyddiad Cyhoeddi Disgwyliedig
I1 Gofynion Isadeiledd CCA: Rhwymedigaethau Cynllunio Cyhoeddwydd: Hydref 2016
SP5 Datblygiad yn Ardal Strategaeth Coridor yr Arfordir CCA: Coridor Arloesedd Ffordd Fabian Medi 2019
SRA2 Ardal Adfywio Strategol Glannau'r Harbwr Fframwaith Datblygu Harbwr Port Talbot a Chanol y Dref CCA Medi 2019
VRS1 Cynllun Adfywio'r Cymoedd Fframwaith Datblygu Rhodfa'r Parc CCA I gael ei gadarnhau
AH1 Tai Fforddiadwy CCA: Tai Fforddiadwy Cyhoeddwydd: Hydref 2016
OS1 Darparu Mannau Agored CCA: Mannau Agored a Mannau Glas Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017
EC1 Dyraniadau Cyflogaeth CCA: Fframwaith Datblygu Parc Ynni Baglan Cyhoeddwydd: Hydref 2016
EN2 Ardaloedd Tirlun Arbennig CCA: Tirlun a Morlun

Dogfennau Ategol:
LANDMAP CNPT - Asesiad Tirlun (2004)

Bae Caerfyrddin, Gŵyr a Bae Abertawe - Asesiad o Gymeriad y Morlun Lleol (2017)
Cyhoeddwydd: Mai 2018
EN6 Safleoedd Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth pwysig CCA: Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth Cyhoeddwydd: Mai 2018
EN8 Llygredd a Sefydlogrwydd Tir CCA: Llygredd Cyhoeddwydd: Hydref 2016
EN9 Datblygiadau yn Ardal Ganolog Port Talbot
RE2 Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel mewn Datblygiadau Newydd CCA: Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017
SP20 Y Rhwydwaith Trafnidiaeth CCA: Safonau Parcio Cyhoeddwydd: Hydref 2016
BE1 Dylunio CCA: Dylunio Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017
BE2 Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol CCA: Yr Amgylchedd Hanesyddol

CCA: Rhestr Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol

CCA: Rhestr Strwythurau Camlas Dynodedig
Cyhoeddwydd: Ebrill 2019
WL1 Datblygiad mewn Ardaloedd leithyddol Sensitif CCA: Datblygiad a'r laith Gymraeg Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017

Rhwymedigaethau Adran 106 – Nodiadau Cyfarwyddyd Asesiad Dichonolrwydd 

Lle bydd ymgeiswyr yn nodi nad oes modd iddynt ddarparu’r holl dai fforddiadwy sy’n ofynnol ar sail hyfywedd, bydd angen iddynt gyflwyno asesiad ariannol manwl o’r datblygiad arfaethedig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i we-dudalen y Cyngor, Asesiadau Hyfywedd ar gyfer Ceisiadau Cynllunio