Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Arddangosfa Oriel Arwyr teimladwy’n cofio sut yr ymatebodd Castell-nedd Port Talbot i’r Rhyfel Byd Cyntaf
    27 Hydref 2022

    Aeth Elizabeth ‘Betsy’ Thomas, nyrs filwrol eofn o Flaendulais, a achubwyd o’r d?r ar ôl i’w llong drosglwyddo gael ei tharo gan dorpedo, ymlaen i ennill y Groes Goch Frenhinol am ei gwaith o drin milwyr a anafwyd.

  • Dyfarniad Adolygiad Barnwrol ar gynllun ad-drefu Ysgolion Cwm Tawe – Datganiad gan y Cyngor
    27 Hydref 2022

    Ar 20 Hydref 2021, ar ôl cynnal proses ymgynghori drylwyr, cymeradwyodd Cabinet blaenorol y cyngor y cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg i blant 3-11 oed gyda Chanolfan Cymorth Dysgu ar gyfer 16 o ddisgyblion a oedd wedi cael datganiad o anghenion addysgol arbennig, mewn adeiladau newydd sbon a fyddai’n gartref i ddisgyblion o ddalgylch ysgolion cynradd yr Allt-wen, Godre’r-graig a Llan-giwg, gyda phob un o’r ysgolion yn cau yn 2024.

  • Plant Castell-nedd Port Talbot yn rhif un mewn tri maes allweddol o ran cyfranogi mewn chwaraeon
    26 Hydref 2022

    Mae un o arolygon mwyaf y DU o bobl ifanc, Arolwg Chwaraeon Ysgolion 2022 gan Chwaraeon Cymru, wedi dangos mai Castell-nedd Port Talbot sydd yn rhif un yng Nghymru mewn tri maes allweddol.

  • Cyn Laureate Plant yn ymweld â Chwm Dulais i dalu teyrnged i’w gyfeillgarwch â chyn-AS
    25 Hydref 2022

    Mae’r awdur plant, bardd, cyflwynydd a chyn Laureate Plant y DU Michael Rosen wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Maesmarchog, Castell-nedd, ble agorodd offer chwarae newydd yn y buarth yn swyddogol, a darllen rhai o’i gerddi a straeon.

  • Lle Cynnes yn y gaeaf
    24 Hydref 2022

    Ydy’ch sefydliad neu gr?p cymunedol yn bwriadu darparu lle neu hwb cynnes y gaeaf hwn?

  • Prydau ysgol am ddim i blant cynradd i’w gyflwyno o flaen yr amserlen i ddisgyblion ym Mlwyddyn 1 a 2
    21 Hydref 2022

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i ryw 3000 o blant cynradd sydd ym mlwyddyn 1 a 2 cyn yr amserlen wreiddiol.

  • Galw ar i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot roi’u barn am newidiadau arfaethedig i ffiniau
    21 Hydref 2022

    Mae pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau i Gymru am fap newydd arfaethedig etholaethau seneddol Cymru.

  • Cyngor yn cymeradwyo ‘Cynllun Ailgartrefu Cyflym’ i daclo digartrefedd
    21 Hydref 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo Cynllun Ailgartrefu Cyflym sy’n rhan o fenter ledled Cymru gyda’r nod o wneud unrhyw ddigartrefedd yn beth “prin, byr ac untro”.

  • Gwobr arall i adeilad effeithlon o ran ynni Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Dechnoleg y Bae
    20 Hydref 2022

    Mae Canolfan Dechnoleg y Bae, sef adeilad gwerth £7.9m Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi ennill gwobr Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog Sefydliad Diwydiant Adeiladu Prydain (BCI).

  • Y cyngor yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ei strategaeth ‘Dyfodol Gwaith’ pum mlynedd
    17 Hydref 2022

    Gofynnir i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo strategaeth newydd, sef Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu 2022-2027.