Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyhoeddi y bydd cantores o fri y cyfeirir ati fel ‘y Katherine Jenkins nesaf’ yn ymddangos yng Nghyngerdd Coffa'r Maer

10 Hydref 2024

Un o sêr y dyfodol, Madlen Forwood, y mae llawer yn darogan mai hi fydd “y Katherine Jenkins nesaf”, yw'r artist olaf i gael ei enwi ar gyfer Cyngerdd Coffa Maer Castell-nedd Port Talbot eleni.

Madlen Forwood

Cantores soprano o'r Mwmbwls yw Madlen, ac fe raddiodd yn ddiweddar o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae hefyd wedi bod ar daith yng Ngwlad Belg a Pharis yn ddiweddar fel aelod o gôr Mumbles A Cappella, gan ymddangos yn Eglwys Gadeiriol Sant Bavo yn Ghent yn ogystal â Saint-Sulpice a La Madeleine ym Mharis.

Yn 2022, canodd Madlen fel rhan o Gôr Lleisiau Academi PCYDDS, ochr yn ochr â Katherine Jenkins, i'r Frenhines Elizabeth II yn Sioe Geffylau Frenhinol Windsor fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Platinwm.

Roedd hefyd yn rhan o Gôr Ifor Bach a enillodd gystadleuaeth gorawl fawreddog S4C, Côr Cymru (2024), dan arweiniad Eilir Owen Griffiths.

Hefyd, Madlen yw “Anwylyn” swyddogol Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol Abertawe.

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer Cyngerdd Coffa Maer Castell-nedd Port Talbot a gaiff ei gynnal yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot, nos Wener 25 Hydref 2024 (7pm).

Caiff y noson ei chyflwyno gan y canwr-gyfansoddwr a'r cyflwynydd teledu a radio Mal Pope, a bydd yn talu teyrnged i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog.

Bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Fand Pibau Dinas Abertawe, Band Cadetiaid Awyr Sgwadron 334 (Castell-nedd) yr RAF, Band y Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli a Chôr Valley Rock Voices. Daw’r cyngerdd i ben â Gwasanaeth Coffa, distawrwydd, a miloedd o flodau pabi'n cwympo.

Prisiau tocynnau: Safonol £10.00; Consesiwn £8.00 (o dan 16 oed, 60+ oed, grwpiau o 8 neu fwy, Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog, Cadetiaid y Lluoedd Arfog, staff presennol y Lluoedd Arfog). Ewch i www.npt.gov.uk/GLA (fersiwn Saesneg www.npt.gov.uk/AFF).

Mae'r Cyngerdd Coffa yn rhan o Ŵyl y Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot. Mae'r Ŵyl wedi cael £5,800 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Matthew Crowley: “Mae Madlen yn cwblhau rhestr benigamp o berfformwyr ar gyfer y Cyngerdd Coffa eleni. Ar ôl gweld fideos o berfformiadau blaenorol Madlen a chlywed llawer o bobl yn dweud mai hi fydd ‘y Katherine Jenkins nesaf’, rwy'n siŵr bod gyrfa anhygoel o'i blaen.

“Mae'r rhaglen yn llawn perfformwyr o'r radd flaenaf ac mae'r Cyngerdd Coffa'n argoeli i fod yn noson wych, ac yn deyrnged addas i anrhydeddu gwasanaeth ac aberth y rhai hynny sydd wedi brwydro dros ein rhyddid a holl Gymuned y Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a'r presennol.”

 

                 

hannwch hyn ar: